Sut mae’r Dinesydd yn cael ei ariannu?

Prif ffynhonnell ariannu’r Dinesydd yw’r gwerthiant trwy danysgrifiadau blynyddol ac, i raddau llai, y gwerthiant yn y siopau. Os gallwch chi ein helpu i gynyddu’r gwerthiant mewn unrhyw ffordd byddai’n gymwynas fawr. Beth am wahodd ffrind neu gymydog i danysgrifio? (Gweler Hafan – Sut i gael Y Dinesydd.)

Daw peth incwm trwy hysbysebion. (Gweler y telerau yn Hysbysebu.)

Ariennir Y Dinesydd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Ond ffynhonnell holl bwysig yw cyfraniadau gan gyfeillion Y Dinesydd – yn unigolion, cymdeithasau a sefydliadau. Gwerthfawrogir pob cyfraniad.

I gyfrannu, gellir anfon siec at y Trysorydd, Huw Roberts, 6 Heol Alfreda,
Yr Eglwys Newydd, Caerdydd  CF14 2EH
neu
drosglwyddo’r rhodd yn syth i’r banc:
Cod Didoli: 60-16-48, Rhif y Cyfrif: 56401388 
gyda nodyn i’r Trysorydd trwy e-bost: huwrobertsaccountant@googlemail.com

Diolch yn fawr am bob cefnogaeth.

Am fanylion pellach drwy e-bost: CYSYLLTU