Awdur lleol yn lansio cyfrol arloesol

Mae cyfrol arloesol awdur o’r brifddinas yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Yr Awyr yn Troi’n Inc yw cyfrol ddiweddara Martin Huws sy’n 67 oed.

Dyma gasgliad o 30 o straeon byrion, y rhan fwya ohonyn nhw yn ‘un o brifddinasoedd mwya ifanc Ewrop.’ Ond trueiniaid bywyd, collwyr, anffodusion yw’r cymeriadau sy wedi eu clwyfo a’u cam-drin, yn diodde o salwch corfforol a meddyliol, heb wireddu eu potensial na’u huchelgais ac yn sigo dan bwysau unigrwydd.

Mae agwedd yr awdur atyn nhw’n onest, yn llawn empathi, yn ddisentiment. A’i arddull yn ffresh ac uniongyrchol.

Fe gafodd y gyfrol ganmoliaeth uchel yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn. ‘Dyma gyfrol fwyaf arloesol a dewr y gystadleuaeth, yn sicr,’ meddai Francesca Rhydderch. ‘Ai drama yw hi, neu ryddiaith, neu gerdd? … Roedd rheolaeth yr awdur ar ei gyfrwng yn absoliwt.’

Dywedodd Gerwyn Wiliams: ‘… roedd hi’n amlwg o’r cychwyn fod yma lenor a wyddai’n union yr hyn yr oedd yn ceisio’i wneud …Mae yna fydoedd wedi eu crynhoi i’r storïau hyn, neuaddau mawr rhwng cyfyng furiau.’ 

‘Mae rhywbeth prin i’w ganfod yn y gyfrol hon o straeon byr iawn,’ meddai Lleucu Roberts.  ‘Dotiais at y ffurf wahanol rywle rhwng stori fer, llên micro a drama, sy’n cynnig lefel ffres o gynildeb ac yn dibynnu’n bennaf ar ddeialogi … Mae eu brawddegau cwta a’u cynildeb ingol yn celu fflach o ddyfnder yn y “prin-ddweud” …’

Dywedodd Martin: ‘Mae ymateb y beirniaid wedi bod yn galonogol. Gobeithio y bydd y gyfrol yn apelio at y darllenydd cyffredin.

‘Y man cychwyn oedd gwylio rhaglen ar y teledu am unigrwydd, hynny yw pla ein cymdeithas ni.

‘Yn y gyfrol ‘wy wedi trial rhoi llais i’r rhai sy’n amal heb lais.’

Mae Martin wedi bod yn weithiwr dur, yn swyddog clerigol ac yn ofalwr shifft. Pan oedd yn newyddiadura ar y Western Mail, Y Byd ar Bedwar a Week In Week Out, enillodd wobrau Cymreig a Phrydeinig.

Mae’n nofelydd ac yn fardd cadeiriol a choronog. Y cyhoeddwr yw Gwasg Carreg Gwlach.

Llefydd i siarad Cymraeg

Lansiad o adnodd newydd i siaradwyr a dysgwyr: Llefydd i siarad Cymraeg

Dyma ddatblygiad cyffrous i’r iaith Gymraeg diolch i’r cylchgrawn digidol dwyieithog newydd parallel.cymru sydd wedi rhyddhau map o leoliadau gwahanol lle y gallwch siarad Cymraeg.  Hyd yn hyn, mae’n cynnwys 290 o dafarndai, caffis, gwestai, atyniadau twristiaeth a mwy, i gyd i’w gweld ar fap gyda’r opsiwn o edrych am fath o fusnes a chwilio yn ôl enw a lleoliad. 

https://parallel.cymru/siarad

Meddai sefydlydd a rheolwr prosiect parallel.cymru, Neil Rowlands: “Dechreuais y prosiect hwn ddiwedd 2017 wedi i mi sylweddoli bod angen cyflwyno’r iaith Gymraeg mewn ffordd hygyrch.  Fel dysgwr bywiog rydw i wedi eisiau adnodd erioed sy’n dangos ble rwy’n debygol o allu prynu coffi, archebu pryd o fwyd neu sgwrsio gyda staff yn y Gymraeg.  Mae llawer o fusnesau’n croesawu’r iaith Gymraeg, ond dydyn nhw ddim yn dangos hynny ar eu gwefannau neu ar eu harwyddion, felly gall fod yn galed i wybod pa leoliadau i’w cefnogi.  Dechreuais y tudalen hwn ar 3 Mehefin gan ofyn am awgrymiadau ac roeddwn wrth fy modd i dderbyn mwy na 150 o fewn wythnos.  Rwy’n edrych ymlaen at weld nifer o bobl yn defnyddio’r tudalen, ac i helpu llawer mwy o sgyrsiau i ddechrau gyda’r geiriau ‘Shw mae’!”

Meddai Heini Gruffudd, awdur a llefarydd Dyfodol i’r Iaith: ” Mae Dyfodol i’r Iaith wrth ei fodd yn gweld Parallel.cymru yn datblygu’n ddrws agored i rai sy’n dysgu’r iaith.  Mae’n agor y ffordd i’r byd Cymraeg, yn cyflwyno llawer o bethau diddorol, ac yn rhoi golwg newydd ar faterion Cymraeg.  Mae digon o ddiddordeb yma hefyd i siaradwyr Cymraeg.  Pob llwyddiant gyda’r fenter!”

Meddai Aran Jones, sylfaenydd SaySomethinginWelsh: “Mae SaySomethinginWelsh yn falch iawn i weld y math yma o ymdrech i helpu pobl i gael hyd i lefydd i siarad Cymraeg.  Mae’n arbennig o bwysig i ddysgwyr wybod lle mae modd iddyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg, felly bydd hyn yn gymorth mawr iddyn nhw.’

 

 

Arddangosfa I’R BYW yn y Bae

ARDDANGOSFA I’R BYW YN Y BAE – CELF YN MYNEGI PROFIADAU POBL HEDDIW

Arddangosfa newydd Rhodri Owen ydi I’r Byw sydd newydd gychwyn teithio Cymru, ac i’w gweld ym mhrif gyntedd Canolfan y Mileniwm, sef pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, ddechrau Awst, ac wedyn yng Nghrefft yn y Bae tan 22ain Medi.

Yn fwy adnabyddus fel saer Cadair Eisteddfod Genedlaethol 2017, yma mae Rhodri yn cyfuno ei brofiad o greu dodrefn crefft-llaw gyda’i gefndir celf, gan ddefnyddio ei ddodrefn fel darnau celf a chanfasau glân.

Cydweithiodd Rhodri gydag 8 artist gwadd ac 8 o grwpiau o wahanol gefndiroedd ar draws Cymru ar gyfer yr arddangosfa – gyda’r grwpiau yn gosod eu stamp unigryw eu hunain ar y “canfasau”.

Gwnaed dau o’r darnau yng Nghaerdydd wrth i grwp o elusen Hafal ymgynnull yn Sain Ffagan, ac aelodau un o hen deuluoedd y dociau ddod at ei gilydd yn y Bae, i gydweithio efo Rhodri a’r artistiaid gwadd.

Wedi eu marcio, lliwio, tyllu, llosgi neu’u datgymalu cafodd dodrefn “newydd-anedig” Rhodri eu trawsnewid mewn ffyrdd gweledol annisgwyl, gan fynegi sut mae profiadau bywyd heddiw – llawenydd, trallod, etifeddiaeth ac amgylchedd yn gadael eu hôl arnom i gyd.

Mae I’r Byw yn gynhyrchiad mewn partneriaeth ag wyth oriel a sefydliad, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Gellir gweld mwy o’r hanes, lluniau a manylion y daith ar calongron.com/ir-byw .

Llun:  I’r Byw – Gorsedd, tanio celfwaith dychanol, artist gwadd Llŷr Alun Jones

Hanes Dawnswyr Nantgarw

Dawnsio gyda Dawnswyr Caerdydd yn yr Aelwyd yn Heol Conwy am rai blynyddoedd dan lygaid barcud ac ysbrydoliaeth y diweddar dalentog Chris ‘fach’ Jones oedd y dechrau! Roedd Chris yn rhannu car gyda ni i’r ysgol yn Heol y Celyn lle y’i hadnabyddwyd fel Mrs Dancing Jones! Ond bu i Mrs Dancing Jones feichiogi a gofynwyd i Eirlys Britton ddysgu’r dawnsio gwerin yn ei lle ar gyfer yr Urdd y flwyddyn honno.   Ychydig iawn feddylion ni dros ddeng mlynedd ar hugain yn ol pan ofynnodd Gary Samuel, athro yn Ysgol Gynradd Heol y Celyn, Pontypridd a hyfforddwr tim rygbi Caerdydd ar y pryd i ni ddod at ein gilydd i ffurfio tim dawnsio gwerin y byddai’n dod i hyn. Roedden wedi dysgu un ddawns ar gyfer cyngerdd ysgol er mwyn i’r plant ddeall mai nid plant yn unig ddawnsiai ac wedi mwynhau gymaint chafwyd ddim trafferth cael criw o rieni ac athrawon i ddod at ei gilydd. Ychydig iawn feddylion ni hefyd ar y pryd beth oedd tu cefn i’r drws yr oedden yn ei agor, yr wybodaeth y byddem yn ei gasglu, y golygfeydd y gwlewn, y ffrindiau newydd a mawr y gwnaem wrth deithio. Ond yr hyn sydd yn ein taro fwyaf yw’r ymdeimlad yr ydym wedi ei gael ers y dechrau ein bod yn perthyn nid yn unig i griw o bobol hynod dalentog ond hefyd i rhyw rym anesboniadwy o’r gorffennol. Mae’n deimlad ddaw droston ni wrth ddawnsio’r Cadi Ha neu Gwyl Ifan, Meillionnen neu Ali Grogan, rhyw deimlad fel bod yn bresennol mewn ‘séance’ lle rydym yn cysylltu ag ysbrydion dawnswyr dros  y canrifoedd – ysbrydion y tir a’r elfennau.

Ffurfiwyd Dawnswyr Nantgarw yn 1980 dan hyfforddiant Eirlys Britton ac er mai athrawon a rhieni Heol y Celyn oedd yr aelodau gwreiddiol fe ehangwyd yr aelodaeth i fod yn un o dimau mwyaf a mwyaf llewyrchus Cymru. Fel pob grwp arall yng Nghymru mae nifer yr aelodaeth wedi codi a syrthio a chryn mynd a dod wedi digwydd ymysg y criw, ond rydym wastad wedi llwyddo i ddenu pobol o’r un anian – pobol ddidwyll a thriw – nid yn unig i’r traddodiad ond i’w gilydd. Eirlys ydy’r glud sy’n cadw’r holl beth gyda’i gilydd ac ar wahan i gyfnod pan oedd yn dost mae hi wedi bod yno’n gyson – bob nos Iau ers 1980. (Gyda Cliff, Hef, Graham, Ellis ac erbyn hyn Gavin yno’n gefn iddi – dynion  i gyd sylwer!! Ond mae yna ferched hefyd wedi bod yno ers blynyddoedd lawer hefyd – Elin ac Elen yn benodol)

Wrth ddechrau ein bwriad oedd atgyfodi rhai o hen draddodiadau a dawnsfeydd Dyffryn Taf a Morgannwg, a hynny i’r safon uchaf posib ac fe ddeil hynny’n fwriad o hyd.

Daeth llwyddiant cystadleuol i’r tim yn fuan gan lwyddo i gael llwyfan yn ein cystadleuaeth gyntaf yn Llangefni yn 1983 byth ers hynny mae enw  Nantgarw wedi dod i’r brig yn gyson yn y cystadlaethau dawns a chlocsio yn y Gendlaethol, Yr Wyl Gerdd Dant, Llangollen a thramor. Mae’r wobr gyntaf yn Nhlws Lois Blake wedi ei chipio ddim llai na 14 gwaith – y grwp mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth. Cawsom lwyddiant yng Ngwyl Dawns Werin y Byd ym Mallorca gyda’n oedolion a’n plant a’n cerddorion a thrwy hynny gael ein gwahodd i gystadlu mewn gwyliau yn Ffrainc, Yr Iwerddon, Hwngari, Gweriniaeth Czech, Slovakia, China, Yr Iseldiroedd, Rwmania, De Korea a Mexico gan ddychwelyd wedi llwyddiannau eto mewn sawl adran.

Ond nid ar gystadlu yn unig mae bryd y tim. Rydym yn cynnal twmpathau a chyngherddau yn gyson ar hyd a lled Cymru a Lloegr ac wedi ymddangos ar y teledu yng Nghymru a dramor droeon.

Fel pob tim blaengar fel Man U, Spurs a Lerpwl erbyn hyn mae gennym ni ein academi!! A Bro Taf ydy hwnnw. Mae Bro Taf wedi ei sefydlu ers dros 10 mlynedd erbyn hyn ac rydym wedi gweld sawl aelod ifanc yn datblygu a mynd trwy’r camau i fod yn aelodau llawn o Nantgarw a’r cerddorion ifanc hefyd yn datblygu i fod yn grwp gwerin o ‘r safon ucha fydd yn perfformio yn y Ty Gwerin eleni fel llynedd. Gallwn ymhyfrydu, pob un aelod o Nantgarw ers y dechrau ein bod wedi bod yn rhan o ymgyrch sydd wedi llwyddo i godi proffil dawnsio gwerin Cymru nid yn unig yn y Rhondda a Dyffryn Taf fel oedd ein bwriad gwreiddiol ond dros y byd i gyd – gyda chymorth ein hysbrydion wrth gwrs!!

BRO TAF

Dechreuodd Bro Taf fel Adran Urdd fechan newydd yn ardal Pontypridd yn cyfarfod yng Nghlwb y Bont. Rhyw 23 o aelodau oedd yno ar y dechrau, yn canolbwyntio ar gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Cafwyd llwyddiant mawr yn eisteddfod Caerfyrddin yn 2006 ac wedi hynny penderfynwyd mynd ati go iawn i agor y drysau a chael mwy o aelodau. Erbyn hyn mae dros 100 o blant yn dod i Bro Taf bob nos Fawrth ac wrth i’r niferoedd godi mae’r llwyddiant wedi codi yn ogystal. Ond deil y bwriad – sef cael plant Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd i feithrin a datblygu sgiliau perfformio trwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy ganolbwyntio ar y disgyblaethau traddodiadol fel canu a dawnsio gwerin, clocsio a cherdd dant.

Mae’n harbennigedd yn croesi sawl genre o ddawnsio gwerin, canu, actio – ond credwn fod y rhan fwyaf o’n cynulleidfaoedd yn ein cysylltu gyda’n clocsio beiddgar ac arbrofol. Mae Gavin erbyn hyn wedi dysgu clocswyr ers dros ddegawd. Clocswyr sydd, fel y fe, wedi ennill yn unigol yn Eisteddfodau Llangollen a’r Urdd a’r Genedlaethol gan greu eu stepiau cymleth a chywrain eu hunain yn ol y traddodiad.

Erbyn hyn a Bro Taf bellach wedi hen basio 10 mlynedd o fodolaeth mae sawl aelod wedi tyfu i fyny a mynd ymlaen i astudio a pherfformio drama a cherddoriaeth gwerin yn  broffesiynnol ond prif amcan Bro Taf, fodd bynnag, ydy codi hunan hyder bob plentyn sy’n mynychu ar nos Fawrth a’u gwneud yn Gymry balch o’u celfyddydau traddodiadol a rhoi iddyn nhw wreiddiau fydd yn rhan annatod ohonyn nhw weddill eu hoes.

 

Gwobrau Mudiad Meithrin

Ddydd Gwener 6 Gorffennaf cynhaliwyd seremoni wobrwyo arbennig yng Ngwesty’r Diplomat, Llanelli, er mwyn cyflwyno tystysgrifau ym maes y blynyddoedd cynnar i 74 o ddisgyblion ysgol sy’n rhan o gynllun Cam wrth Gam, sy’n un o is-gwmnïau Mudiad Meithrin.

Yn y llun mae disgyblion Ysgol Bro Edern ac Ysgol Glantaf.

Llongyfarchiadau!

 

Hiraethu am hafau hyfryd Llangrannog

Gwersyll yr Urdd
Llangrannog
Llandysul
SA44 6AE

21 Mehefin 2018

Annwyl gyfeillion

Ysgrifennaf atoch i dynnu sylw at ddigwyddad y bydd Urdd Gobaith Cymru yn ei chynnal yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd fis Awst eleni.

Ar nos Iau, 9fed o Awst am 5.30yp ym Mhabell y Cymdeithasau (Y Senedd), Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd bydd trafodaeth banel yn rhannu atgofion a straeon am hafau a dreuliwyd yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, boed hynny fel staff, swog neu breswyliwr.

Rydym hefyd yn estyn gwahoddiad cynnes i holl ddallenwyr y papur i ymuno yn y sgwrs drwy rannu eu straeon. Croeso i bawb ddod a lluniau ac atgofion a bydd posib i ni gofnodi’r rhain fel rhan o broses archifo’r Urdd.

Yn cadeirio fydd Angharad Mair gyda’r panel yn cynnwys Steffan Jenkins (cyn-gyfarwyddwr y gwersyll), Ian Gwyn-Hughes a nifer o gyn-wersyllwyr, swogs, staff ac enwogion eraill. 

Os hoffech gadarnhau eich presenoldeb gellir gwneud hynny drwy ebostio llangrannog@urdd.org

Fel y gwyddoch efallai, yn 2022 bydd yr Urdd yn dathlu ein canmlwyddiant felly dyma gyfle i edrych yn ôl ac edrych ymlaen …

Diolch

Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog

Gwahoddiad i Lys y Goron

LLYS Y GORON, CAERDYDD – Profiad Cymraeg!

Hoffem fel Barnwyr Cyswllt ar gyfer yr Iaith Gymraeg yn y Llysoedd dynnu sylw eich darllenwyr i Noson Agored sydd i’w chynnal yn Llys y Goron Caerdydd ar nos Iau y 9fed o Awst 2018 rhwng 5 a 7 o’r gloch y nos. Cynhelir y noson i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Bydd y noson yn gyfle unigryw i weld y gyfundrefn gyfiawnder ar waith gydag achosion ffug yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg gydag ymarferwyr a barnwyr go iawn. Bydd cyfle i aelodau’r cyhoedd fod yn aelod o’r rheithgor ac i ymweld â’r celloedd. Bydd cyfle i drafod gydag ymarferwyr yr asiantaethau sy’n gysylltiedig â gweinyddu cyfiawnder a chyda swyddogion sydd yn archwilio i droseddau. Mae yn noson sydd yn agored i bawb.

Bydd hefyd yn gyfle i unrhyw berson ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y byd cyfreithiol neu yn un o’r asiantaethau megis yr Heddlu, i drafod wyneb yn wyneb y cyfleoedd sydd ar gael a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn bresennol hefyd fydd Ynadon er mwyn trafod gydag unrhywun sydd yn ystyried gwneud cais i fod yn Ynad Heddwch.

Gwahoddwn unrhyw Eisteddfodwr i fynychu’r digwyddiad ac edrychwyn ymlaen i’ch croesawu ar y Nos Iau i Lys Y Goron Caerdydd.

Ei Hanrhydedd y Barnwr Mererid Edwards

Barnwr Rhanbarth Hywel James

  Barnwyr Cyswllt I’r Gymraeg

Gwobr am hybu pêl-droed merched.

Ysgol Plasmawr – Gwobr am hybu pêl-droed merched.

Yn ddiweddar gwobrwywyd dwy o ferched blwyddyn 10 sef Seren ac Elen am eu cyfraniad i sefydlu cynllun a datblygu pêl-droed merched yn yr ysgol. Mae’r ddwy wedi bod yn cynnal sesiynau bob nos Iau drwy’r gaeaf i ferched blwyddyn 7 ac 8. Mae’r ddwy hefyd wedi helpu gyda’r timau yn ystod gemau. Mae eu gwaith yn sefydlu’r cynllun yma wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer cynlluniau tebyg yn y dyfodol.

Diolch ferched!! Isod gwelir llun ohonynt yn derbyn eu gwobr gyda Jayne Ludlow ac aelodau o garfan merched Cymru cyn eu gemau diweddar yn erbyn Rwsia a Bosnia.

Rhisiart Arwel yn cyhoeddi cryno ddisg newydd

Lansio CD newydd o berfformiadau gitâr gyda chwmni SAIN.

Bydd y gitarydd clasurol Rhisiart Arwel yn cyhoeddi cryno ddisg newydd i gwmni SAIN yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Cynhelir cyngerdd i lansio’r CD yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd ddydd Llun Awst y 6ed am 11 y bore.

Darnau poblogaidd ar gyfer y gitâr glasurol fydd ar y CD gan gynnwys gweithiau o Gymru, Sbaen a De America. Mae’r traciau’n amrywio o ddawnsfeydd poblogaidd y Tango o’r Ariannin i drefniannau arbennig gan Rhisiart o ganeuon gwerin ac emyn-donau Cymreig.

Bydd Rhisiart hefyd yn perfformio ledled Cymru gydol mis Medi gan ddechraur’ daith yng Nghwrt Insole, Llandaf nos Sadwrn Medi’r 1af am 7.30pm Tocynnau ar gael yng Nghwrt Insole.