Llythyrau at y Golygydd

 

Annwyl Olygydd

Cefais y deyrnged i’r diweddar Havard Gregory yn ddiddorol, ac yntau’n ffrind da i mi, a’i briod Rhiannon yn ferch i Jennie (neu Jeanie Lyn) o Riwfawr ac yn ffrind i’m diweddar fam, Betty Thomas (nee Watkins).  Havard a ofalodd am westai y deuthum ar ei draws ar noson pan oeddwn yn darlithio i Glwb Cinio Caerdydd tua 1990.  Roedd fy ngwestai yn Eidalwr ac yn hoffi ei win – a Havard yn cael ei syfrdanu wrth i Pino (Joseph oedd ei enw iawn) ofyn am fwy o win!.

Beth bynnag, yr hyn yr oeddwn yn golygu sôn amdano oedd, y cysylltiad rhwng Havard Gregory a W T Havard (Esgob Llanelwy ac yna Tyddewi).  Tarodd hyn arnaf drwy ddarllen y deyrnged gan i un o deulu Mam fod yn rhyw fath o berthyanas i’r Esgob Havard.  Roedd chwaer fy mamgu, Magdalen Watkins (nee Jones, 1867-1937, Dderi Isaf, Rhiwfawr), a aned yn Y Betting, Gwrhyd, Rhiwfawr, yn briod â thad cefnder i’m mam, Rhys Hopkins (18??-; ar ôl 1950, Cilmaen. Llanddeusant).  Nid wyf yn siŵr o enw tad Rhys ond efallai mai Rhys yr oedd yntau hefyd.  Ei briod fuasai Elizabeth Hopkins nee Jones (Anti Lisa i’m mam) a aned ar 14 Awst 1965. (Nid oes cof gennyf amdani, ond cofiaf am ei mab Rhys Hopkins, Cilmaen.)

Mae nodyn gennyf yn hanes achau fy mam, sef

JDR’s mother BETTY 1903-1986 had a note re Cilmaen connection with Bishop Havard that read: DAVID JOHN, Cilmaen died early 1975, and with an address: ‘Mrs HAVARD, Pantddaulwyn Isaf. Llangunnor, CARMARTHEN

Cewch roi’r manylion hyn i Rhiannon Gregory gan efallai bod diddordeb ganddi (cofiaf am Rhiannon ond nid oes cof gennyf ei chwrdd – efallai iddi gwrdd â fy mam y ei chartref yn 2 Ennerdale Close, Lady Mary Estate, Caerdydd ar ôl iddynt ymddeol.  Yr oedd mam Rhiannon yn byw yn Ninian Road.

Cofion Cynnes

JDR  Thomas (Ron neu Ronald)

Ambell atgof am y cylchgrawn Y GWYDDONYDD

Mehefin 2014

Ambell atgof am y cylchgrawn Y GWYDDONYDD

Cofiaf yn dda am y bore dros hanner can mlynedd yn ôl – yn 1963 – pan fu  i’r Dr Glyn O Phillips fy nal ger y goleuadau traffig ar groesffordd Llyfrgell Cathays, Caerdydd.  Roedd Glyn ar gychwyn Y Gwyddonydd ac fel golygydd wrthi’n casglu deunydd.  Ei neges y bore hwnnw oedd gofyn a fuaswn yn barod rhoi nodyn i’r Gwyddonydd am fy ymchwil yng Ngholeg Technoleg Uwchradd Cymru (Welsh CAT, sef rhagflaenydd UWIST) ar fawn Mynydd Du Sir Gaerfyrddin.  Ymatebais i’w gais a bu i’m cyfraniad ar “Cyfansoddiad Cemegol Mawn a’i Fitwmen” ymddangos yng nghyfrol cyntaf Y Gwyddonydd (tudalennau 128-129).  Dilynwyd hyn gan erthygl gynhwysfawr gennyf ar “Ystyriaeth Gemegol ar Fawn” yn ail gyfrol Y Gwyddonydd yn 1964 (tudalennau 95-97).

Ym 1972/3 cyhoeddodd Y Gwyddonydd  erthygl gennyf innau a’m merch Gaenor (Taffinder nawr) ar Theophilus Redwood, sef arlywydd cyntaf Cymdeithas y Dadansoddwyr Swyddogol (Society of Public Analysts) a sefydlwyd yn 1874.  Ganed Theophilus Redwood ynOrchard House, Trebwfer, ger Llanilltud Fawr, ac ar ôl prentisaeth fferyllyddol yng Nghaerdydd bu’n amlwg ei wasanaeth i’r Gymdeithas Fferylliaeth a’r Gymdeithas Gemegol yn Llundain.  Mae bedd Theophilus Redwood 1806-1892 i’r gogledd o Eglwys Llanilltud Fawr.  Cyfrannodd perthnasau Theophilus Redwood i wyddoniaeth a feddygaeth, drwy ei fab (Syr) Thomas Boverton Redwood, a’i frawd Thomas Redwood.

Ym 1978 aeth Aubrey Trotman-Dickenson (Prifathro UWIST) ati i enwi adeiladau UWIST er clod i deuluoedd o Gymru (yn hytrach nag unigolion); fel Bute am y Prif Adeilad ym Mharc Cathays a Guest ac Aberconway am adeiladau ger Colum Road.  Gwaith hawdd i mi mewn llythyr at swyddogion UWIST ar 18 Rhagfyr 1978 oedd awgrymu y dylid enwi’r adeilad newydd ym Mharc Cathays ar Rodfa Edward VII (a adeiladwyd yn 1960) yn “Adeilad Redwood” er clod i’r teulu Redwood.  Yr adrannau UWIST a oedd yn yr adeiliad ar y pryd oedd Bioleg, Cemeg a’r Ysgol Fferylliaeth. Derbyniwyd fy awgrymiad, a bu’n fraint i mi glywed hynny pan oeddwn ar Gyngor UWIST ym 1979 pan gafodd yr enw dwyieithog “Adeilad Redwood Building” ei fabwysiadu fel enw parhaol ar yr adeilad.  Erys yr enw gan Brifysgol Caerdydd.  Gan i’m herthygl yn Y Gwyddonydd yn 1972/3 fod yn allweddol i mi gyflwyno’r syniad am yr enw yn 1978, fe’i sbardunwyd gan Y Gwyddonydd.

Bu i’r cylchgrawn Y Gwyddonydd gyflawni blynyddoedd o gyhoeddi erthyglai safonol a diddorol o dan olygaeth yr Athro Glyn O Phillips a’i wirfoddolwyr.  Trueni nad oes ganddo fodolaeth bellach.

J D R Thomas