Dau Gyngerdd Arbennig i Eilir Owen Griffiths ym mis Rhagfyr

Dau Gyngerdd Arbennig i Eilir Owen Griffiths ym mis Rhagfyr

Bydd mis Rhagfyr eleni yn un arbennig i’r arweinydd corawl a’r cyfansoddwr o Greigiau, Eilir Owen Griffiths, wrth iddo gyflwyno dau gyngerdd sydd â lle arbennig yn ei galon – cyngerdd lansio CD newydd Côr CF1, Cerddwn Drwy’r Tywyllwch, a pherfformiad cyntaf o’i waith Adre Dros ‘Dolig gyda Chôr Ifor Bach.

Ar Nos Wener 5 Rhagfyr am 7.30pm bydd Côr CF1 yn cynnal cyngerdd lansio eu CD mwyaf diweddar. Mae’r casgliad arbennig hwn o ganeuon yn adlewyrchu taith gerddorol Côr CF1 ers 2020 pan nad oedd cyd-ganu yn bosib. Ers y cyfnod hesb hwnnw mae CF1 wedi mynd o nerth i nerth, gan gipio teitl Côr y Byd, dwy wobr gyntaf yng Ngŵyl Gorawl Ryngwladol Hull, a thair gwobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac eleni eu henwi yn Gôr yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Mae pob darn ar y CD yn dwyn atgofion o eiliadau cofiadwy ar lwyfannau a digwyddiadau nodedig. Ceir yma amrywiaeth o alawon traddodiadol sy’n pontio cenedlaethau, trefniannau cyfoes sy’n dangos creadigrwydd, a gweithiau sy’n cyffwrdd y galon. Bydd Côr Bechgyn Hŷn Ysgol Plasmawr yn ymuno ag CF1 ynghyd â Siân Thomas yn cyflwyno a Beatrice Newman ar y sielo. Cynhelir y cyngerdd yn Eglwys Teilo Sant yn yr Eglwys Newydd.

Ar Nos Sul 7 Rhagfyr bydd Côr Ifor Bach, enillwyr Côr Cymru 2024, yn perfformio Adre’ Dros ‘Dolig sy’n waith gwreiddiol gan Eilir a’r bardd toreithiog Grahame Davies. Ysgrifennwyd y gwaith yn wreiddiol yn 2021, ond oherwydd cyfnod personol anodd o iselder, ni chafodd ei berfformio bryd hynny. Bellach, bedair blynedd yn ddiweddarach, mae Eilir wedi addasu’r gwaith ar gyfer Côr Ifor Bach, gan roi bywyd newydd i’r gwaith.

Mewn arddull sioe gerdd, mae Adre Dros ‘Dolig yn gylch o ganeuon sy’n cynnig cipolwg unigryw ar fywydau pobl wrth iddynt deithio adref ar y dydd Gwener diwethaf cyn y Nadolig yng ngorsaf drenau Caerdydd Canolog. Mae pob cân yn bortread o sefyllfa unigol, gan ddangos y straeon personol sy’n datblygu yn ystod cyfnod y Nadolig.

Mae Stiward y Trenau yn ceisio cadw’r dorf yn llawen wrth drosglwyddo cyfarwyddiadau am sefyllfa druenus. Mae’r Nyrs wedi wynebu sefyllfaoedd anodd ac yn parhau i wasanaethu gyda chalon gref. Mae’r Gŵr Gweddw yn hel atgofion am ei gyn-wraig, gan ddangos y tristwch a’r hiraeth sy’n dod gyda cholled. Mae’r Fam yn cysuro ei phlentyn, gan ddangos cariad a gofal di-ben-draw. Yn y cyfamser, er bod y Caplan yn cwestiynu ei ffydd, mae’n dal i ofalu am yr unig a’r digalon, gan ddangos ymroddiad a gofal tuag at y gymuned. Mae Siôn yn ddyn ifanc mewn sefyllfa fregus ac mae’r Ddynes Busnes lwyddiannus am fynd adref gyda neges glir i’w theulu nad yw hi am ei chuddio. Mae’r Myfyriwr wedi cael tymor cyntaf difyr yn y Brifysgol ac yn barod i symud ymlaen, ac yna mae Seren, gyda’i phac ar ei chefn, yn methu aros i deithio’r byd, yn dod â naws o antur a chyffro i’r sioe. Ond rôl ganolog y gwaith yw Gwyn, y dyn digartref, sy’n gweld y cyfan ac yn cynnig clust i wrando pan fo angen, gan ddangos empathi a dealltwriaeth ddofn i’r rhai sy’n pasio heibio’r orsaf. Yn plethu trwy’r cyfan mae’r Carolwyr, sy’n canu darnau cyfarwydd gydag ymdriniaeth newydd, gan ychwanegu at awyrgylch y Nadolig.

Mae’r gwaith yn ddathliad o fywyd, cariad, colled, a gobaith. Wedi’i osod yn erbyn cefndir prysur a bywiog Caerdydd Canolog, mae’n adlewyrchu’r amrywiaeth o brofiadau dynol a’r cysylltiadau sy’n ein huno ni i gyd yn ystod y Nadolig.

Cynhelir y noson yng Nghapel Bethlehem, Gwaelod y Garth am 7.30pm ar Nos Sul 7 Rhagfyr. Mae’r ddau gyngerdd yn cynnig profiadau cerddorol unigryw. Mae tocynnau ar gael o: www.eventbrite.com.