Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2019 

Y Barri, Cymru a’r byd – Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2019 

Nos Wener, 11eg o Hydref, yn Neuadd Goffa, y Barri bydd chwech o berfformwyr ifanc mwyaf addawol Cymru yn cystadlu am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2019. Mae eleni yn nodi ugain mlynedd ers ei sefydlu ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae’r Ysgoloriaeth wedi buddsoddi £60,000 yn nhalent pobl ifanc Cymru.

Yn ogystal â brwydro am y clod o ennill Ysgoloriaeth sy’n gysylltiedig â bas-bariton mwyaf blaenllaw’r byd ac ennill gwobr ariannol o £4,000 er mwyn datblygu eu talent i’r dyfodol, bydd enillydd eleni hefyd yn cael y cyfle i berfformio yn un o ddathliadau byd-eang Dydd Gŵyl Dewi 2020.

Mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r Urdd yn falch iawn o gyhoeddi’r elfen ryngwladol newydd hon i’r Ysgoloriaeth ac yn ddiolchgar i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru am gydweithio er mwyn darparu cyfleoedd bythgofiadwy wrth feithrin talent ifanc Cymru.  


Thomas Matthias
Steffan Lloyd Owen
Cai FÔn Davies
Daniel Calan-Jones
Rhydian Jenkins
Morgan Llewelyn-Jones
©Alistair Heap

Y chwech dethol a ddewiswyd gan banel o feirniaid yn dilyn eu perfformiadau ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019 yw:

  • Rhydian Jenkins (Aelod Unigol Cylch Ogwr, Morgannwg Ganol)
  • Cai Fôn Davies (Aelod JMJ, Eryri)
  • Steffan Lloyd Owen (Aelod Unigol, Cylch Cefni, Ynys Môn)
  • Daniel Calan Jones (Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd a’r Fro)
  • Thomas Mathias (Aelod Unigol Cylch Aberystwyth, Ceredigion)
  • Morgan Llewelyn Jones (Aelwyd y Gwendraeth, Gorllewin Myrddin)

Yn beirniadu ac yn cael y dasg anodd o ddewis enillydd eleni bydd Jeremy Huw Williams, Ffion Dafis, Einir Wyn Jones, Cerian Mai Phillips a Glain Dafydd.

 

Mae tocynnau ar gyfer y noson yn Neuadd Goffa, y Barri ar gael am £10 o wefan yr Urdd neu drwy ffonio 0845 257 1639.  Bydd y cyngerdd yn cael ei ddarlledu ar S4C nos Sadwrn 12fed o Hydref. 

 

Manylion Cystadleuwyr Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2019 

Cai Fôn Davies
O ble: Bangor
Oed: 19 
Mae Cai yn gystadleuydd amryddawn a thoreithiog sydd wedi ymddangos droeon ar lwyfannau’r Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a’r Ŵyl Gerdd Dant. Profodd lwyddiant mewn sawl maes perfformio gan gipio Gwobr J. Lloyd Williams i Unawdydd Alaw Werin buddugol  Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy a hynny ar ôl iddo ddod i’r brig yng nghystadleuaeth cân werin agored yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Mae Cai yn fyfyriwr israddedig sy’n astudio Cymraeg a Hanes ym Mhrifysgol Bangor ac yno mae’n aelod o Aelwyd JMJ.

Rhydian Jenkins
O ble: Maesteg
Oed: 22
Tenor ifanc sydd ar drothwy cyfnod fel myfyriwr ôl-raddedig yn astudio llais a pherfformio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Bu’n fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Cymraeg cyn cwblhau blwyddyn ar gwrs TAR Cynradd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Profodd lwyddiant ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol gan iddo ennill Gwobr Dr Aled Lloyd Davies i Unawdydd Cerdd Dant dros 21 yng Nghaerdydd yn 2018. Daeth rhagor o lwyddiannau yn Sir Conwy wrth iddo gipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth yr Unawd Tenor, Unawd Lieder o dan 25 oed a Gwobr Goffa y Fonesig Lady Herbert i unawdwyr Alaw Werin agored. Mae Rhydian hefyd yn chwaraewr rygbi addawol i dîm Pontypridd yn uwch-gynghrair rygbi Cymru.

Daniel Calan Jones
O ble: Caerdydd
Oed: 18
Yn aelod o Adran Bro Taf ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, mae Daniel wedi clocsio ers yn ifanc iawn. Cipiodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth clocsio unigol i fechgyn Eisteddfod yr Urdd wyth gwaith yn olynol. Mae’n ddrymiwr i fand Wigwam sydd wedi bod yn brysur yn gigio dros gyfnod yr Haf. Bydd Daniel yn cychwyn ym Mhrifysgol Birmingham lle bydd yn astudio cwrs is-raddedig Ffisiotherapi.

Morgan Llewelyn-Jones
O ble: Cwm Gwendraeth
Oed: 19
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Llanddarog ac Ysgol Gyfun Maes Y Gwendraeth, bellach mae Morgan yn gobeithio dilyn gyrfa ym myd y theatr. Yn ogystal â  chipio Gwobr Goffa Llew yn Eisteddfod yr Urdd eleni, fe aeth hefyd ymlaen i ennill Gwobr Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy. Wedi perfformio gydag Only Boys Aloud a chynyrchiadau Theatr yr Urdd mae Morgan hefyd yn aelod fand Sbectol Haul gystadlodd yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni.

Thomas Mathias
O ble: Aberystwyth
Oed: 23
Wedi derbyn ei addysg uwchradd yn Ysgol Penglais a chyfnod yn astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion, bellach mae Tom yn fyfyriwr ôl-raddedig yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Bu’n ffodus o dderbyn Ysgoloriaeth ABRSM i astudio yn yr Academi. Perfformiodd fel rhan o gerddorfa ‘Tosca’, cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru yn Dubai gyda Syr Bryn Terfel ym mis Ebrill 2019. Dros y blynyddoedd mae Tom wedi perfformio ar lwyfannau yn yr UDA, Canada ac ar draws Ewrop. 

Steffan Lloyd Owen
O ble: Pentre Berw
Oed: 23
Mae Steffan yn Fas-Bariton sydd wedi profi llwyddiannau yng Nghymru a thu hwnt. Enillodd Ysgoloriaeth Kathleen Ferrier yn 2015 i hybu gyrfa cantorion ifanc cyn cyflawni’r dwbl yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sef cipio Ysgoloriaeth Osbourne Roberts yn 2016 ac Ysgoloriaeth W Towyn Roberts yn 2018. Cafodd y cyfle i berfformio â Syr Bryn Terfel yn Dubai wrth i Opera Cenedlaethol Cymru lwyfannu Tosca yno yn 2019. Bydd Steffan yn cychwyn ar ei bedwaredd flwyddyn yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion ym mis Medi 2019 gyda’r gobaith o barhau ei astudiaethau yn Llundain ar ôl graddio.