Cyngerdd Canmlwyddiant Achub y Plant, 7 Tachwedd

GWLEDD GORAWL YN NODI DATHLIADAU CANMLWYDDIANT ELUSEN MEWN CYNGERDD YNG NGHADEIRLAN LLANDAF

Côr Meibion Treorci yn serennu mewn cyngerdd elusennol i Achub y Plant yng Nghadeirlan Llandaf ar Dachwedd 7fed gyda’r mezzo soprano Llinos Hâf Jones (RNCM), Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Côr Ysgol Gymraeg Sant Baruc, Côr y Dreigiau a Rock Choir.

Bydd Côr Meibion byd-enwog Treorci yn perfformio clasuron yn ogystal â chaneuon poblogaidd diweddar yn y cyngerdd mawreddog yng Nghadeirlan Llandaf ar ddydd Iau, Tachwedd 7fed i ddathlu canmlwyddiant elusen Achub y Plant.

Gan sicrhau gwledd gerddorol gydol y noswaith, bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan nifer o gerddorion llwyddiannus gan gynnwys y cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Bro Morgannwg Llinos Hâf Jones, sydd bellach yn astudio yn y Royal Northern College of Music; Telynorion, cantorion ac offerynwyr talentog o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf; Côr Ysgol Gynradd Sant Baruc; Enillwyr cystadleuaeth Codi Canu S4C – Côr y Dreigiau; a Rock Choir – côr cyfoes o ardal de Cymru.

Gan mlynedd yn ôl ar Fai 19, 1919 yn Neuadd Frenhinol yr Albert, Llundain sefydlwyd elusen Achub y Plant gan ddwy chwaer o’r Sir Amwythig, Eglantyne Jebb a Dorothy Buxton.

Wedi ei chythruddo gan y lluniau a welodd o blant yn newynu yn Yr Almaen ac Awstria yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf fe aeth Eglantyne Jebb ati i amddiffyn hawliau pob plentyn – pwy bynnag y bônt, ble bynnag y bônt – gan ysgrifennu’r Datganiad ar Hawliau’r Plentyn yn 1924 a arweiniodd at greu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn 1989.

Dechreuodd Achub y Plant weithio yng Nghymru yn yr 1930au yn helpu teuluoedd yng nghymoedd y de yn ystod y Dirwasgiad gan agor meithrinfeydd awyr agored yng nghymunedau Brynmawr a Dowlais ym Merthyr. Yr elusen hefyd oedd y cyntaf i gynnig llefrith am ddim mewn ysgolion cyn i hynny ddod yn bolisi gan Lywodraeth Prydain yn yr 1940au.

Erbyn hyn mae Achub y Plant yn gweithio mewn 120 o wledydd yn fyd-eang gan gynnwys yma yng Nghymru yn helpu teuluoedd a phlant i ffynnu yn eu blynyddoedd cynnar allweddol.

Dywedodd Louise Davies, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: “Mae dathliadau canmlwyddiant Achub y Plant yn parhau gyda gwledd gerddorol gan dalentau anhygoel. Mae’n argoeli i fod yn noson gerddorol i’w chofio, ac rydym yn werthfawrogol iawn o waith caled ein cangen cefnogwyr yn Ninbych y Pysgod fu’n trefnu’r digwyddiad yn ogystal ag i’r artistiaid am godi ymwybyddiaeth ac arian tuag at waith yr elusen.

“Gyda’r oll sydd yn digwydd yn y byd heddiw byddai’n hawdd edrych yn besimistaidd at y dyfodol. Ond mae’r holl waith y mae’r elusen yn ei wireddu’n llwyddiannus yma yng Nghymru ac ar draws y byd yn amddiffyn hawliau plant yn galonogol. Ein cefnogwyr yw ein harwyr, a nhw sydd yn galluogi’r gwaith yma i ddigwydd, gan newid y dyfodol i blant ymhob man.”

Cyngerdd Canmlwyddiant i Achub y Plant, Dydd Iau Tachwedd 7fed am 7.00yh, Cadeirlan Llandaf.  

Bydd holl elw’r gyngerdd yn mynd tuag at ariannu prosiectau Achub y Plant tramor ac yng Nghymru.

Cost tocynnau yw £20 a £5 i blant (£15 i rieni plant sy’n cymryd rhan) a gellir eu prynu yn:

  • Garlands, Llandaf
  • Ar-lein drwy stcllandaff.eventbrite.co.uk

Neu drwy gysylltu â Caroline Williams ar carolinehwilliams48@gmail.com <mailto:carolinehwilliams48@gmail.com>