Mehefin 2014
Ambell atgof am y cylchgrawn Y GWYDDONYDD
Cofiaf yn dda am y bore dros hanner can mlynedd yn ôl – yn 1963 – pan fu i’r Dr Glyn O Phillips fy nal ger y goleuadau traffig ar groesffordd Llyfrgell Cathays, Caerdydd. Roedd Glyn ar gychwyn Y Gwyddonydd ac fel golygydd wrthi’n casglu deunydd. Ei neges y bore hwnnw oedd gofyn a fuaswn yn barod rhoi nodyn i’r Gwyddonydd am fy ymchwil yng Ngholeg Technoleg Uwchradd Cymru (Welsh CAT, sef rhagflaenydd UWIST) ar fawn Mynydd Du Sir Gaerfyrddin. Ymatebais i’w gais a bu i’m cyfraniad ar “Cyfansoddiad Cemegol Mawn a’i Fitwmen” ymddangos yng nghyfrol cyntaf Y Gwyddonydd (tudalennau 128-129). Dilynwyd hyn gan erthygl gynhwysfawr gennyf ar “Ystyriaeth Gemegol ar Fawn” yn ail gyfrol Y Gwyddonydd yn 1964 (tudalennau 95-97).
Ym 1972/3 cyhoeddodd Y Gwyddonydd erthygl gennyf innau a’m merch Gaenor (Taffinder nawr) ar Theophilus Redwood, sef arlywydd cyntaf Cymdeithas y Dadansoddwyr Swyddogol (Society of Public Analysts) a sefydlwyd yn 1874. Ganed Theophilus Redwood ynOrchard House, Trebwfer, ger Llanilltud Fawr, ac ar ôl prentisaeth fferyllyddol yng Nghaerdydd bu’n amlwg ei wasanaeth i’r Gymdeithas Fferylliaeth a’r Gymdeithas Gemegol yn Llundain. Mae bedd Theophilus Redwood 1806-1892 i’r gogledd o Eglwys Llanilltud Fawr. Cyfrannodd perthnasau Theophilus Redwood i wyddoniaeth a feddygaeth, drwy ei fab (Syr) Thomas Boverton Redwood, a’i frawd Thomas Redwood.
Ym 1978 aeth Aubrey Trotman-Dickenson (Prifathro UWIST) ati i enwi adeiladau UWIST er clod i deuluoedd o Gymru (yn hytrach nag unigolion); fel Bute am y Prif Adeilad ym Mharc Cathays a Guest ac Aberconway am adeiladau ger Colum Road. Gwaith hawdd i mi mewn llythyr at swyddogion UWIST ar 18 Rhagfyr 1978 oedd awgrymu y dylid enwi’r adeilad newydd ym Mharc Cathays ar Rodfa Edward VII (a adeiladwyd yn 1960) yn “Adeilad Redwood” er clod i’r teulu Redwood. Yr adrannau UWIST a oedd yn yr adeiliad ar y pryd oedd Bioleg, Cemeg a’r Ysgol Fferylliaeth. Derbyniwyd fy awgrymiad, a bu’n fraint i mi glywed hynny pan oeddwn ar Gyngor UWIST ym 1979 pan gafodd yr enw dwyieithog “Adeilad Redwood Building” ei fabwysiadu fel enw parhaol ar yr adeilad. Erys yr enw gan Brifysgol Caerdydd. Gan i’m herthygl yn Y Gwyddonydd yn 1972/3 fod yn allweddol i mi gyflwyno’r syniad am yr enw yn 1978, fe’i sbardunwyd gan Y Gwyddonydd.
Bu i’r cylchgrawn Y Gwyddonydd gyflawni blynyddoedd o gyhoeddi erthyglai safonol a diddorol o dan olygaeth yr Athro Glyn O Phillips a’i wirfoddolwyr. Trueni nad oes ganddo fodolaeth bellach.
J D R Thomas