Nadolig – Y Stori yn Dathlu’r Deg

Aeth 10 mlynedd heibio ers i Sally Humble-Jackson lunio drama o stori’r geni gyda’r carcharorion yng Ngharchar Caerdydd. Yn dilyn hyn cafodd hi’r syniad o lunio fersiwn galw-heibio o stori’r Nadolig. Arweiniodd hyn at lwyfannu ‘Nadolig – y Stori’.

Eleni eto, yn eglwys y Tabernacl ar yr Aes bydd cyfle i weld y perfformperfformiadau, 20 munud yr un, ac mae modd dilyn y stori yn Gymraeg neu Saesneg. Mae mynediad am ddim i bawb.

Mae cynnal tua 100 o berfformiadau yn gofyn am lawer o wirfoddolwyr.

Beth am gynnig help am fore/pnawn neu ddiwrnod naill ai fel stiwardiaid, actorion(dim angen dysgu llinellau!) neu i edrych ar ôl y ddau asyn y tu allan i’r Tabernacl. Ar fore neu bnawn Sadwrn byddai cyfle i rieni a phlant actio pobl Nasareth a Bethlehem.

 Dydd Sadwrn 30ain Tachwedd – perfformiadau o 10am tan 5:20 pm (yn gorffen am 5:40 pm) Perfformiad Cymraeg am 4.40pm Dydd Llun 2il-dydd Gwener 6ed Rhagfyr – perfformiadau o 10am tan 2pm (yn gorffen am 2:20 pm) Dydd Sadwrn 7fed-dydd Sadwrn 21ain Rhagfyr – perfformiadau o 10am tan 5:20 pm (yn gorffen am 5:40 pm) Perfformiad Cymraeg am 4.40pm  (Does dim perfformiadau ar y Suliau) neu os oes diddordeb dewch draw i weld perfformiad ac yna cael gair gydag un o’r tîm cynhyrchu i gynnig help neu cysylltwch â Dafydd Griffiths ar ha.fan@virgin.net 02920 568420  07854 114887.