Digon i bawb y Nadolig hwn gyda Cymorth Cristnogol

Eleni mae Llywodraeth Prydain yn dyblu cyfraniadau – punt am bunt – tuag at yr Apêl Nadolig*. Dyna ddwbl y gefnogaeth i bobl sy’n byw mewn tlodi.

Y Nadolig hwn, mae llawer o bobl mewn ardal helaeth o is-Sahara Affrica yn wynebu newyn. Mewn cyferbyniad, mae’r Nadolig i ni yn adeg o ddigonedd, ac felly mae’n hyn yn oed mwy pwysig ein bod yn cynnwys y rhai sydd efo llai wrth inni ddathlu’r ŵyl.

Daw Colette (yn y llun) o Furkina Faso, Gorllewin Affrica, ble mae un plentyn o bob tri yn dioddef o ddiffyg twf oherwydd diffyg maeth, yn ôl UNICEF. Mae Colette yn byw, gyda’i gŵr, merch fach a babi.  Mae Nadolig Colette yn ddigon tebyg i’n gŵyl ni.  Mae’n cychwyn gyda choginio bwyd blasus ac yna paratoi ei phlant i fynd i’r eglwys.  Mae hi’n gweddïo dros ei phlant gan ofyn i Dduw roi iechyd a phopeth sydd ei angen arnynt.  Pan mae Colette yn cyrraedd adref mae hi’n cyfarch ei chymdogion ac maent yn rhannu bwyd.  Maent yn dod at ei gilydd ac yn dawnsio a chanu i ddangos eu llawenydd.  Fel ni, maent yn bwyta bwyd arbennig ar Ddydd Nadolig.  I Colette a’i chymdogion reis, gafr a sbageti yw’r pryd bwyd!

Mae bywyd wedi bod yn galed i Colette.  Roedd hi’n gorfod gweithio mewn mwynglawdd aur bob dydd i ennill arian i fwydo ei theulu.  Roedd Colette yn treulio diwrnodiau yn y mwynglawdd heb gael hyd i unrhyw aur i’w werthu.  Roedd yn ennill cyn lleied o arian fel nad oedd yn gallu prynu bwyd maethlon.  Roedd Eulalie ei merch yn wael a gwan iawn – roedd hi’n dioddef o ddiffyg maeth.

Ond daeth gobaith i Colette drwy brosiect gardd lysiau Cymorth Cristnogol.  Cafodd ei gŵr a hithau hyfforddiant i dyfu cnydau ac offer a hadau i oroesi.  Mae hi bellach yn tyfu bwyd maethlon i’w fwyta a’i werthu ac mae hi’n gallu gweithio gyda’i phlant yn agos ati.  Mae Eulalie bellach yn bedair oed ac wedi gwella ac nid yw ei chwaer fach, Omela erioed wedi dioddef diffyg maeth. Mae Colette yn gwerthu rhai o’i llysiau i dalu am ofal iechyd a dillad i’w merched bach.  Mae hi’n cynllunio i ymestyn yr ardd er mwyn talu i’r plant fynd i’r ysgol. 

Mae stori Colette yn dangos fod modd achub teulu rhag trychineb diffyg maeth.  Mae Burkina Faso yn un o wledydd tlotaf y byd gyda bron i hanner yr 16 miliwn o’i dinasyddion yn byw dan y trothwy tlodi.  Mae mwy na 30% o’r plant dan bump oed heb dyfu’n iawn.  Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda’i bartneriaid i leihau diffyg maeth a sicrhau mynediad cyson i fwyd iach ar gyfer merched sy’n feichiog a phlant ifanc. 

Mae Nadolig Colette yn debyg mewn sawl ffordd i’n Nadolig ninnau – yn llawn haelioni a mwynhad o fwyd blasus.  Rydym ni’n mwynhau ac yn edrych ymlaen at ein cinio Nadolig ac yn aml mae gennym ormod ohono. 

Felly ar adeg o ddigonedd, wnewch chi’n siŵr fod digon i bawb?

Mae sawl ffordd i gefnogi mamau fel Colette. Beth am gynnal oedfa arbennig neu gynnal casgliad yn eich gwasanaethau carolau?  Beth am brynu rhodd wahanol trwy’r gwefan PresentAid?  Ond mae hefyd cyfle inni gefnogi’r apêl trwy feddwl am ein harferion bwyta a phrynu’r Nadolig hwn.

Pob blwyddyn yn y DU rydym yn lluchio 17.2 miliwn sbrowts i ffwrdd – dyna ddigon i lenwi 1,000 bin sbwriel. Rydym yn lluchio 2 miliwn twrci a thros 74 miliwn mins pei. Byddai’r grefi yr ydym yn ei adael yn llenwi pwll nofio maint Olympaidd!

Mae’n siŵr ein bod i gyd yn gwybod pa fwydydd y byddwn yn eu prynu nad oes unrhyw un yn eu hoffi rhyw lawer ac na fyddant yn cael eu bwyta.  Ymunwch ag Apêl Digon i Bawb trwy ymrwymo i beidio prynu o leiaf un peth y gwyddoch fydd yn mynd yn wastraff.  Gellwch droi’r adduned yn gyfraniad i waith Cymorth Cristnogol a rhoi cymorth bydd yn achub bywydau ac yn sicrhau atebion tymor hir i newyn a diffyg maeth.

Os ydych yn arbed £13 gallwn droi hynny’n wers maeth i bentref ym Murkina Faso lle byddai mwy na 25 o famau’n cael addysg am sut i sicrhau bwyd maethlon i’w plant.  Fel teulu, eglwys, grŵp cymunedol neu ysgol, gallwch godi £170 i hyfforddi pwyllgor maeth i redeg hyfforddiant rheolaidd a sesiynau paratoi uwd mewn pentref fel pentref Colette.  Cofiwch, bydd Llywodraeth Prydain yn dyblu eich cyfraniad*!

Trwy gefnogi ein Hapêl Nadolig, gallwn ymestyn allan efo cariad i rai o bobl fwyaf bregus sy’n wynebir argyfwng bwyd hwn – mamau fel Colette sydd yn dyheu am iechyd da i’w phlant a gofalu bod gan ei theulu brydau maethlon yn rheolaidd.

Gellwch ganfod adnoddau eglwys ac ysgolion ar-lein. Gellwch hefyd roi cyfraniad trwy ymweld â ’r wefan www.caid.org.uk/christmas neu trwy ffonio 020 7523 2269.

Ymunwch efo ni i sicrhau bod digon o fwyd maethlon, iach ar gael i bawb y Nadolig hwn.

* Dwbl yr effaith! Bydd cyfraniadau a wneir i’r Apêl Nadolig rhwng 6 Tachwedd 2017 a 5 Chwefror 2018 yn cael ei ddyblu hyd at £2.7 miliwn. Bydd Cymorth Cristnogol yn defnyddio eich rhoddion ar brosiectau tebyg i’r rhai a nodir. Bydd cyfraniad Llywodraeth y DU yn mynd tuag at ein gwaith yn Ne Swdan yn benodol.