Awtisiaeth a’r sector gwirfoddol

Mae Aled Thomas, ymgyrchydd awtistiaeth o Benarth, wedi cael cefnogaeth Plaid Cymru yn ei gais i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy ar gyfer y sector gwirfoddol. Yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru yng Nghaernarfon cynigiodd Aled y dylai rhywfaint o wariant arfaethedig y Llywodraeth o £13m ar gyfer awtistiaeth fynd i’r sector gwirfoddol. Dywedodd Aled, sydd ei hun ar y sbectrwm awtistiaeth, ei fod wedi cael cymorth mawr gan elusen sy’n seiliedig yng Nghaerdydd, ASCC (Autism Spectrum Connections Cymru), ac mae’n credu y dylai’r elusen gael grant gan Lywodraeth Cymru i helpu eu gwaith.

 Yn dilyn ei araith, dywedodd: “Mae yna broblemau mawr gyda’r ffordd y caiff darpariaeth awtistiaeth ei ariannu yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid yw’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y darparwyr cymorth arbenigol o’r sector gwirfoddol wrth benderfynu sut y mae’n gwario ei arian ar awtistiaeth.” Yn ddiweddar, lluniodd Aled ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu ASCC. Meddai: “Fel y gwyddom, mae mwy o ymwybyddiaeth o awtistiaeth nawr ac mae llawer iawn o sylw yn cael ei roi iddo. Ond mae yna gynllun ar waith i ddefnyddio’r £ 13m i ariannu corff newydd. Byddai’r sefydliad newydd hwn, y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol, yn canolbwyntio’n bennaf ar roi diagnosis o awtistiaeth i bobl, ond dim ond rhan o’r hyn sydd ei angen yw hyn.”

 

 Dywedodd ymhellach: “Fel un sy’n byw gyda’r cyflwr, hoffwn bwysleisio pwysigrwydd y sector gwirfoddol wrth helpu pobl sy’n byw gydag awtistiaeth. Pwrpas elusen ASCC yw cynghori a chefnogi oedolion ag awtistiaeth. Mae’n darparu lle diogel i bobl ag awtistiaeth, lle gallant alw i mewn unrhyw bryd. Hebddo, gallai’r bobl sy’n byw gyda’r syndrom ei chael yn anodd ymdopi â phroblemau bob dydd. Mae polisi newydd Plaid Cymru yn datgan ei bod yn bwysig cydnabod y gwaith a ddarperir gan grwpiau cymdeithasol, cefnogaeth ôl-ddiagnostig ac, yn arbennig, cymorth cyflogaeth.”

 

“Fel y dywedais ar ddiwedd fy araith i’r gynhadledd, hoffwn bwyntio fy nghyd-aelodau i ymgynghoriad ynglŷn â’r Ddeddf Awtistiaeth arfaethedig yn y Cynulliad. Rwy’n annog pawb i ymateb i’r ymgynghoriad gan bwysleisio pwysigrwydd ariannu’r ddarpariaeth ar gyfer awtistiaeth yn y sector gwirfoddol yng Nghymru ac i fynegi eu barn ar wefan Cynulliad Cymru.”

 

Dywedodd Gweinidog Cysgodol dros Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, “Rydym wedi bod yn pwyso am ddeddf awtistiaeth ers amser hir i wella’r gwasanaethau a’r gefnogaeth a gynigir i bobl ar ôl diagnosis, ac mae hwn yn un o’r meysydd hynny lle mae’r ystod a’r math o wasanaethau sydd eu hangen yn cael eu datblygu orau gan ac ar gyfer pobl ag awtistiaeth. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y trydydd sector wedi’i ariannu’n briodol i ddatblygu’r gwasanaethau hynny.”