Atodiad i erthygl Michael Jones ar Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd

Atodiad i erthygl Michael Jones ar Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd

Ers ysgrifennu’r erthygl uwchlaw rwyf wedi cael profiad go rhyfedd.Ces alwad ffôn gan ohebydd y BBC i ddweud iddo ddod o hyd i benderfyniad yn rhan o Gyllideb y cyngor yn dileu cludiant rhad i blant sy’n byw mwy na 2 filltir o’u hysgol gynradd neu 3 milltir o’u hysgol uwchradd.
Roedd am wybod a oeddwn yn gwybod am y fath gynllun a beth fyddai ymateb RhAG. Doeddwn i ddim wedi clywed am y fath beth fyddai wrth gwrs yn andwyol iawn i addysg Gymraeg gydag ysgolion sy’n gwasanaethu dalgylchoedd llawer ehangach na’r rhai cyfrwng Saesneg.
Yn ffodus roedd is-bwyllgor y noson honno yng Nglantaf ac wrth rannu’r newyddion â phennaeth Glantaf ces wybod bod y cynllun yn newyddion iddo fe hefyd ac yn peri’r un arswyd.
Anfonais neges e-bost at y Cyfarwyddwr yn mynegi anfodlonrwydd RhAG,  yn gyntaf am fod y cynllun yn hollol groes i’r egwyddor o degwch i’r ddau sector addysg, Saesneg a Chymraeg, am fod tynnu nôl cludiant rhad yn cael llawer mwy o effaith andwyol ar y sector Cymraeg; ac yn ail am fod Caerdydd wedi addo glynu at y polisïau cludiant yn y Cynllun Strategol Addysg Gymraeg.
Yn gymaint â bod Cynllun Caerdydd wedi derbyn sêl bendith y gweinidog roedd e’n ddarn o ddeddfwriaeth y Cynulliad nad oedd modd i’r sir beidio ag ufuddhau iddo. Ychwanegais y byddai RhAG yn ceisio arolwg barnwrol oni bai i’r sir newid ei bwriad.
Drannoeth,  cymerais ran mewn cyfweliad â’r gohebydd, ond yna ces alwad ffôn oddi wrtho i adrodd bod y sir wedi cysylltu i ddweud  taw “clerical error” oedd y darn yn y gyllideb parthed dileu cludiant rhad ac nid oedd bwriad gan y sir i fynd ymlaen â’r cynllun.
Es at fy nghyfrifiadur i ddarganfod yno neges oddi wrth swyddog yn yr Adran Cynllunio Strategol Priffyrdd Caerdydd i’r un perwyl . Yn amlwg roedd y sefyllfa yn gryn embaras i’r Cyngor.
Beth bynnag yw’r gwir am yr hanes hwn, mae’n sicr bod angen cadw llygad barcud ar Gyngor Caerdydd lle mae addysg Gymraeg yn y cwestiwn.

Michael Jones