Ebrill 2015
Llythyr at y Dinesydd
Annwyl Olygydd
Diddorol i mi oedd gweld yr enw Beriah Gwynfe Evans yn Nigwyddiadur (Mawrth) Y DINESYDD, sef enw cyfarwydd yn ein teulu. Felly, dyma rhai nodiadau, gyda gwahoddiad i chi eu cyhoeddi yn Y DINESYDD.
“BERIAH GWYNFE EVANS 1848-1927: Ysgol Feistr i’m Tadcu a’m Mamgu yn Gwynfe, Sir Gar.
Yr oedd Beriah Gwynfe Evans yn berson amlwg i deulu fy Nhad (John Thomas 1894-1978), gan i’w Dad a’i Fam, John Thomas 1870-1943 a Margaret ne Williams 1868-1952 fod yn ddisgyblion iddo yn Ysgol Brydeinig Gwynfe yn saithdegau ac wythdegau y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ganed Beriah yn Nantyglo yn fab i’r Parch Evan Evans (Nantyglo) a’i ganed yn Llangeitho, Sir Aberteifi. Penodwyd Beriah yn Ysgolfeistr Ysgol Brydeinig Gwynfe yn 1867, ac yntau ond yn 18 oed, a thrwy hynny fe’i adnabuwyd yn “Beriah Gwynfe Evans”. Bu’n Ysgolfeistr yn Gwynfe o1867 hyd 1882 cyn symud i Llangadog lle y bu yn Ysgolfeistr hyd 1887, ac oddi yno i fod yn newyddiadurwr.
Yn ôl fy Nhad priododd Beriah a chwaer “Wncwl John Thomas y Neuadd”, a felly’n ei gydnabod fel un o’r teulu gan i ail wraig Wncwl John Thomas y Neuadd, sef Anne Williams 1859-1925 fod yn chwaer i’w fam Margaret nee Williams 1868-1952 (eu tad, David Williams 1832-1904 yn gefnder i’r Barwnig Syr John Williams 1840-1926, sylfaenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth) .
Yr oedd Beriah yn berson poblogaidd yn Gwynfe, ac yn cyfrannu’n ariannol at yr Ysgol Brydeinig. Yn 1869 cyfrannodd Beriah hanner gini tuag at gronfa’r Ysgol, sef yr un faint a Gweinidog yr Annibynnwr (Y Parchedig William Thomas Awdur Emyn 86 Caneuon Ffydd) ac Offeiriad yr Eglwys, i gymharu â’r sylltau, dau sylltau neu choron a hanner sofren gan y bobl gyffredin, ar wahân i’r saith cefnog a gyfrannodd rhwng punt a deg swllt ar hugain, rhain o’r 118 a gyfrannodd tuag at y cyfanswm o tua £40.
Ymhlith y llyfrau ar silffoedd ein teulu oedd y llyfr hyddysg “Diwygwyr Cymru” a gyhoeddwyd gan Beriah mewn printiad o 20,000 pan yn Gaernarfon yn 1900. Gwnaethpwyd hyn drwy gyfraniadau 62 o Warantwyr yn gyfrifol am 2,746 o gopïau, a thanysgrifwyr drwy gapeli ar draws siroedd Cymru yn gyfrifol am tua 15,000, gan gynnwys 360 copi o Lloegr, ac ychydig dros 300 gan gapeli ac unigolion Caerdydd. Cyfrol o 344 tudalen yw hwn a werthwyd am bedwar swllt ar y pryd; ond efallai heddiw am gymaint â deg punt os llwyddwch ddod ar draws gopi heddiw! Llawer o’r print yn rhy fan i mi ei ddarllen pan yn ifanc, ond llwyddais ei ddarllen o glawr i glawr wedi ymddeol, a’i gael yn dra diddorol.
Olynydd Beriah Gwynfe Evans yn Ysgolfeistr Ysgol Gwynfe o 1882 hyd 1909 oedd John Williams 1863-1933, brodor o Gwynfe a briododd Elizabeth Williams 1866-1941, sef cyfneithder Margaret nee Williams 1868-1952 (mam fy Nhad). Fel mater o ddiddordeb yr oedd JW ac EW yn Dadcu a Mamgu I Anest, a’r diweddar Urien ac Aled Rhys Wiliam.”
Mae darn amdanaf yn yr “International WHO’s WHO” , ac yn Debrett’s People of Today.
Gobeithiaf bod hyn o ddefnydd i chi at Y DINESYDD.
Cofion Cynnes i Bawb ac yn arbennig i GR ar gyrraedd y Pedwar Ugain.
Yr Athro J D R Thomas, DSc, Gresford, Wrecsam