Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn y Bowlen Genedlaethol

Powlen Cenedlaethol URC – Rownd yr 16 olaf

Clwb Rygbi Cymry Caerdydd 33 – Pendyrus 12

Mae hi wedi bod yn dymor digon siomedig hyd yma i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd. Wedi disgyn o Adran 2 i Adran 3 ar ddiwedd y tymor blaenorol, y gobaith oedd y byddem yn gallu cystadlu i adennill ein statws yn yr adran uwch. Ond siomedig fu’r misoedd cyn y Nadolig, gyda’r Clwb yn methu creu unrhyw fomentwm, gyda nifer o gemau’n cael eu canslo fel canlyniad i’r tywydd sâl a’r gemau rhyngwladol. Er i ysbryd y garfan barhau’n uchel, roedd angen i rywbeth sbarduno’r tymor.

Trwy gydol yr adeg hon, roedd y bechgyn wedi bod yn cystadlu yng nghwpan Powlen Undeb Rygbi Cymru, ac er y trafferthion yn y gynghrair, roeddem wedi bod yn llwyddianus yn y cwpan. Yn sgîl hyn, ar Ionawr 12fed, croesawyd Pendyrus i gaeau Pontcanna ar gyfer gêm yn rownd y 16 ola’ yn y cwpan. Roedd y tywydd yn berffaith, a braf oedd gweld nifer o gyn-aelodau’r Clwb wrth ochr y cae wrth i’r gêm ddechrau.

Cafwyd dechrau delfrydol i’r gêm. Gyda Tylorstown, efallai, yn disgwyl ennill y gêm, manteisiodd y Clwb ar ddechrau gwallus y gwrthwynebwyr, trwy sgorio dau gais o fewn y deg munud cyntaf, y naill gan yr asgellwyr Alun Evans a’r llall gan Gwion Emlyn. Dihunodd Pendyrus, a sgorio cais, a dechrau rhoi’r Clwb dan bwysau, ond roedd penderfyniad ac ymroddiad i berfformiad y Clwb wrth iddynt ddilyn cyfarwyddiadau’r hyfforddwyr. Wrth gyrraedd hanner amser, roedd y Clwb wedi ymestyn y fantais i 18-12, â’r gêm yn dal i fod yn y fantol.

Llwyddodd capten y Clwb, Oli Jenkins, â chic gosb bellach, i ymestyn y fantais i ddau sgôr, cyn i Bendyrus fwynhau cyfnod hir o ymosod o fewn dwy ar hugain y Cymry. Gyda’r tîm cartref yn amddiffyn am eu bywydau, a gyda’r dyfarnwr yn gorfod estyn am ei gerdyn melyn ar fwy nag un achlysur, roedd hi’n edrych yn anochel y byddai’r wal amddiffynnol yn cael ei thorri. Ond na, dal eu tir wnaeth y bois, ac wedi chwarter awr o amddiffyn, llwyddwyd i dorri’n rhydd i dir y gwrthwynebwyr, gydag Oli Jenkins yn croesi dan y pyst. Yn sydyn, roedd y pwysau wedi’i godi o’n hysgwyddau, ac roedd modd mwynhau’r deg munud ola, gan wybod bod y fuddugoliaeth yn ddiogel. Roedd hyd yn oed amser i Deian Thomas lygadu bwlch ar ochr dywyll sgarmes, a chroesi am bedwerydd cais y Clwb, i ddechrau’r dathlu.

Roedd e’n deimlad da. Perfformiad a buddugoliaeth gorau’r Clwb ers tro byd, a bu dathlu mawr yn y Clwb wedi’r gêm. Mae digon o waith o’n blaenau, ond roedd hi’n sylfaen dda ar gyfer gweddill y tymor. Clwb Rygbi fydd yr unig glwb o Gaerdydd yn rowndiau’r 8 ola yn y Bowlen neu’r Plât, a phwy a ŵyr, os bydd y perfformiadau yn y rowndiau nesa cystal â’r un yn y 16 ola, efallai y byddwn yn gallu edrych ‘mlaen at ymweld â Stadiwm Principality am yr ail dro mewn pum tymor.

Yn y rownd nesa’, bydd y Clwb yn teithio lawr i Nantgaredig, ar Fawrth 2ail, gyda’r gêm yn dechrau am 2.00pm. Dyw Nantgaredig heb golli’r  tymor hwn, ac felly mae’n debyg bod her anferth o’n blaenau, ond bydd y bechgyn yn ddigon hyderus wedi’r perfformiad yn y rownd flaenorol. Gobeithiwn y bydd cymaint o ddilynwyr y Clwb yn gallu ymuno â ni lawr yno, a’r bwriad yw llogi bws i fynd â ni lawr ’na. Os oes diddordeb gennych deithio ar y bws hwnnw, byddwch cystal â danfon ebost at rhyscrcc@hotmail.com , neu cadwch lygad ar gyfrif Trydar y Clwb @clwbrygbi.