Dathlu Llwyddiant Geraint Thomas

Ysgolion Caerdydd yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru i ddathlu taith at lwyddiant Geraint Thomas

Mae wyth o ysgolion Caerdydd wedi derbyn grant o £12,500 i ddathlu gyrfa Geraint Thomas a’r rôl allweddol y chwaraeodd y clwb beicio, y Maindy Flyers, yn ei ddatblygiad. Mae’r grant wedi cael ei roi fel rhan o gynllun ‘Cydweithio Creadigol’ Cyngor Celfyddydau Cymru a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu gwaith celf fydd yn cael ei osod o amgylch y trac – man cychwyn sawl pencampwr beicio – sydd wedi ei leoli ar safle Canolfan Maendy – a redir gan ‘Better Cardiff’.
Bydd plant o Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Gynradd Albany, Ysgol Gynradd Allensbank, Ysgol Gynradd Gladstone, Ysgol Gynradd Gatholig St. Josephs, Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica ac Ysgol Mynydd Bychan i gyd yn cyd-weithio gyda thrawstoriad o artistiaid, cerddorion a beirdd gyda’r bwriad o greu cofeb weledol parhaol o’r rhan bwysig y mae’r Ganolfan wedi ei chwarae yn hanes chwaraeon yng Nghymru. Cefnogir y prosiect gan yr Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig a bydd yn cloi gyda Gŵyl Crys Melyn arbennig yng Nghanolfan Maendy ym mis Gorffennaf i gyd-fynd gyda Tour de France 2019. Bydd yr Ŵyl yn cynnwys cyfraniadau cerddorol gan rai o’r ysgolion sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect a bydd y gwaith celf yn cael ei ddadorchuddio’n swyddogol yn ystod y digwyddiad yma.


Canolfan Maendy Better yw’r unig drac beicio awyr agored yng Ngaerdydd ac mae’n gartref i’r Maindy Flyers, ble cychwynodd enillydd y Tour de France yn 2018, Geraint Thomas, ei yrfa.
Dywedodd Anthony Hayes, rheolwr Canolfan Maendy, a redir gan Better Cardiff:
“Mae Canolfan Maendy yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect celf cyffrous yma, un fydd yn dathlu camp aruthrol ein harwr lleol a Phersonoliaeth y Flwyddyn y BBC – Geraint Thomas. Bydd yn gyfle i blant a phobol ifanc ardal Cathays arddangos eu hedmygedd a’u cefnogaeth o daith Geraint ac i ddathlu gwireddu ei freuddwydion a fagwyd pan gychwynodd, yn fachgen ifanc, feicio gyda’r Maindy Flyers ar yr unig drac beicio awyr agored yng Nghaerdydd. Trwy’r celfyddydau, gall ein pobl ifanc ysbrydoli eraill i ddilyn yr un daith at lwyddiant.”
Dywedodd Deian Jones, Cadeirydd Clwb Ieuenctid Beicio’r Maindy Flyers: “Mae gan Glwb Ieuenctid Beicio’r Maindy Flyers hanes arbennig gyda llwyddiant Geraint yn Le Tour yn uchafbwynt amlwg. Does dim amheuaeth y bydd y gwaith celf yma’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o feicwyr ac yn gymorth i’n clwb fynd o nerth i nerth.” Dywedodd Miss Siân Evans, Pennaeth Ysgol Mynydd Bychan: “Bydd y prosiect yma’n sicrhau bod cofeb barhaol o nid yn unig llwyddiant ysgubol Geraint Thomas – ond pob un cyn-aelod o’r Maindy Flyers sydd wedi mynd yn eu blaenau i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus fel beicwyr proffesiynol. “Breuddwydiwch yn fawr, ewch amdani, peidiwch gadael i unrhyw beth eich dal yn ôl,” oedd un o brif negeseuon Geraint Thomas yn dilyn ei fuddugoliaeth. Mae’r prosiect yma’n ‘breuddwydio’n fawr’ ond mae’n un sydd gyda’r potensial i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o feicwyr ac athletwyr brwd. Bydd hefyd yn sicrhau bod gan blant yr ardal hon rhywbeth i’w hatgoffa’n barhaus o’r angen i anelu’n uchel ac i ddyfalbarhau wrth iddyn nhw ddilyn eu breuddwydion a bod, gyda gwaith caled, llwyddiant yn gyrhaeddadwy i bawb – beth bynnag yw’r meysydd maen nhw’n dewis arbenigo ynddo.”