Codi Arian Dros Strôc

Un cam bach i ddyn, un cam gwych dros strôc

Hanner can mlynedd ers i’r dyn cyntaf gerdded ar y lleuad, mae goroeswyr strôc yng Nghaerdydd bellach yn profi eu bod hwythau hefyd yn gallu goresgyn eu heriau eu hunain trwy gymryd rhan mewn taith gerdded elusennol i’r Gymdeithas Strôc.

Mae’r elusen yn gwahodd pobl ar draws Caerdydd i ddathlu adferiad ar ôl strôc drwy ymuno â Chamu Allan Dros Strôc ar Sgwâr Landsea, Bae Caerdydd ar 9 Mehefin.

I nodi’r 50fed pen-blwydd hwn, mae’r Gymdeithas Strôc hefyd yn gobeithio y bydd gan bob taith o leiaf 50 o gyfranogwyr yn codi o leiaf £ 50 i gefnogi ei gwaith yn cynnig cymorth i oroeswyr strôc a’u hanwyliaid, wrth iddynt ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc.

Dywedodd Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru, “Pan mae strôc yn taro, mae rhan o’ch ymennydd yn cau. Ac felly mae rhan ohonoch chi hefyd. Mae hynny oherwydd bod strôc yn digwydd yn yr ymennydd, y ganolfan reoli ar gyfer pwy ydym ni a beth y gallwn ei wneud. Mae effaith hynny’n amrywio yn ôl pa ran o’ch ymennydd sydd wedi ei heffeithio; gallai fod yn unrhyw beth o ddileu’ch gallu i siarad, eich gadael gydag anabledd corfforol neu effeithio ar eich emosiynau a’ch personoliaeth.

“I lawer o oroeswyr strôc, gall ailadeiladu eu bywydau ymddangos fel her enfawr, yn debyg i gyrraedd y lleuad pumdeg mlynedd yn ôl. Gwyddom fod adferiad yn anodd, nid ydym yn gwadu hynny, ond gyda’r gefnogaeth arbenigol gywir a thunnell o ddewrder a phenderfyniad, gall yr ymennydd addasu ar ôl strôc.

“Yn union fel y dathlwyd y camau cyntaf hynny ar y lleuad 50 mlynedd yn ôl, mae pob taith Camu Allan Dros Strôc yn dathlu’r holl ffyrdd y mae goroeswyr strôc yn ailadeiladu eu bywydau. Mae adferiad o strôc yn ymdrech tîm. Cofrestrwch a byddwch yn rhan o’n tîm ni.”

I gofrestru, neu i gael gwybod mwy, ewch i www.stroke.org.uk/stepout.