Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn cael ei holi gan Dylan Jones, Radio Cymru
Cynhelir sesiwn ddifyr a dadlennol ym Mhabell y Cymdeithasau 1 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 12 o’r gloch ar ddydd Mercher 8fed o Awst, pan fydd Dylan Jones, cyflwynydd bywiog Radio Cymru, yn holi Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg am ei swydd newydd a’i obeithion ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg.
Ers ei benodi mae Aled Roberts wedi bod yn teithio o gwmpas Cymru yn ceisio deall profiadau pobl a’u hagweddau at yr iaith. Dywed “Ers i mi gychwyn y swydd ym mis Ebrill, dwi wedi teithio i bob cwr o Gymru yn siarad gyda chwmnïau, sefydliadau a’r cyhoedd am eu defnydd hwy, neu beidio, o’r Gymraeg. Rwyf wedi gweld gwahaniaethau mawr o un ardal i’r llall, er bod rhai themâu cyson wedi codi. Edrychaf ymlaen at rannu rhai o’r themâu hyn gyda Dylan Jones yn yr Eisteddfod.” Ymhlith y pynciau trafod eraill bydd cefndir ieithyddol Aled Roberts ei hun, heriau’r dasg o’i flaen yn Gomisiynydd a chyrraedd un filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
Cronfa Glyndŵr sy’n trefnu’r sesiwn hon yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy. Nod y Gronfa yw codi arian i ddosbarthu grantiau i ysgolion, Mentrau Iaith a chylchoedd meithrin, er mwyn hybu addysg cyfrwng Cymraeg. Meddai Catrin Stevens, Cadeirydd Cronfa Glyndŵr, ‘Dyma’r eildro i’r Gronfa fentro i gynnal sesiwn o’r fath yn y Brifwyl, a bydd yn gyfle i ni ystyried sut y gallwn ni, fel mudiad, hybu a chefnogi gweledigaeth y Comisiynydd, yn enwedig ym maes addysg. Rydym yn weithredol iawn yn hyrwyddo addysg gyfrwng Cymraeg ledled Cymru, ac wedi rhannu cyfanswm o tua £38,000 o’r Gronfa rhwng 2011 a 2019. Mae cylchoedd a chylchoedd meithrin a Mentrau Iaith yn y de a’r gogledd ddwyrain wedi elwa’n fawr o’r grantiau hyn ond prin yw’r ceisiadau o’r gogledd orllewin ac o sir Conwy ei hun. Hoffem petai’r drafodaeth hon gyda’r Comisiynydd yn sbardun i’n cyfeillion yn y siroedd hyn ystyried sut y gellir grymuso addysg Gymraeg yn eu hardaloedd trwy gefnogaeth ymarferol y Gronfa.’
Croeso cynnes i bawb i’r digwyddiad pwysig hwn.
Am wybodaeth bellach cysyllter â catrinstevens@outlook.com neu prosserh@btinternet.com