Côr Caerdydd yng Ngwlad Belg – dyddiadur y daith

Dydd Sadwrn 28 Hydref, 7am

Rywsut ma’ tripie Côr Caerdydd i gyd yn dechre’n gynnar…Tro ‘ma ni’n mynd i wlad Belg fel rhan olaf ein blwyddyn o ddathlu chwarter canrif! Felly mae’n rhaid cael brecwast addas i ddechre’r diwrnod, prosecco a croissants yng nghefn y bws amdani!

1pm

Wedi cyrradd Dover ac ma’r swyddogion pasborts (a’u cŵn) wedi bod ar y bws i wneud yn siŵr bod pawb yn cael croesi’r dŵr! Taith fer o ‘chydig dros awr yw hi, ac wedyn fyddwn ni yn Ffrainc ac yn dipyn agosach i Ghent, ein cartref am y dyddiau nesaf.

8pm

Pawb wedi cyrraedd y gwesty’n saff ar ôl siwrne ddigon hawdd, diolch i Dave y gyrrwr – mae pryd o fwyd wedi’i drefnu i ni yng nghanol Ghent, felly nôl ȃ ni ar y bws ar ôl checio mewn i’r gwesty, i gael diod yng nghanol y ddinas, cyn cael pryd o fwyd blasus.

11pm

Bwyd bendigedig Belgaidd i lenwi’n bolie ar ôl diwrnod o deithio ar fws! Dyw’r côr ddim yn gallu mynd allan en masse heb lwyddo i ganu o leiaf un gân. Y tro ‘ma, roedd rhyw griw o Iseldirwyr (ni’n credu) wedi dechre canu yn y bwyty – wel odd rhaid i ni ymateb gyda (o leiaf) un pennill o Calon Lân – base hi wedi bod yn rŵd peidio. Gwely nawr (wel falle un diod ym mar y gwesty gyntaf…) cyn brecwast a chychwyn cynnar fory – mae diwrnod hir o’n blaenau ni.

Dydd Sul 29 Hydref

Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod hir ac emosiynol. Fe wnaethom ni ddechrau gyda chrwydr o gwmpas Ghent cyn perfformio yn y gyntaf o dair cadeirlan ar y daith ‘ma – Sint-Baafskathedral. Cadeirlan fawr hyfryd, oedd yn lle gwych i ganu, gydag acwstig hyfryd. Wedyn nôl ȃ ni ar y bws i deithio i leoliad bedd Hedd Wyn yn Langemark. Daethom ni oddi ar y bws mewn glaw mân tu allan i fynwent fechan a dod o hyd i fedd y bardd trwm. Wrth lan y bedd cafwyd gwasanaeth emosiynol iawn oedd yn cynnwys perfformiad o’r emyn Rhys, cyfansoddiad gan Richard Vaughan o gerdd ‘Rhyfel’ Hedd Wyn, ac englynion coffa Hedd Wyn ar dôn Troyte. Yn ogystal, darllenwyd dau englyn, un o waith y Prifardd Idris Reynolds:

Ein rhan ni o’r bryniad hyn – ydyw byw
a bod uwch y dibyn;
tra bo rhyfel a gelyn
heddiw a ddoe yw Hedd Wyn.

A’r llall wedi ei gyfansoddi’n arbennig ar gyfer ein hymweliad gan y Prifardd Tudur Dylan Jones:

Clyw’r gân ddwys ar bwys y bedd, yn eiriau
o hiraeth can mlynedd,
clyw ein llef am dangnefedd
a chlyw wlad yn chwilio Hedd.

Profiad dirdynnol ac emosiynol tu hwnt oedd y cwta ddeng munud yma, un na fyddaf i na gweddill aelodau’r côr oedd yno’n anghofio fyth, yn enwedig y tawelwch ar ddiwedd y gwasanaeth yn y gwyll wrth lan y bedd.

Ymlaen â ni wedyn i Ypres, gan ein bod ni’n canu yn y seremoni nosweithiol wrth Borth Menin. Dyma brofiad anhygoel o emosiynol arall, ddaeth â deigryn i sawl llygad yn y côr. Anodd credu bod y seremoni’n cael ei chynnal bob nos dan borth enfawr yn dwyn enwau dros 50,000 o enwau milwyr gollodd eu bywydau, ond eu cyrff byth wedi eu canfod.

Mewn myfyrdod wedyn yn ôl at y bws unwaith eto i Langemark i fwyty arbennig iawn y Sportsman’s Restaurant. Roedd Marc, y perchennog yn ddyn oedd wedi’i eni a’i fagu yn yr ardal, ac yn gwybod am hanes y Cymry yn yr ardal. Bu’n brwydro ac yn ymgyrchu i gael cofeb i’r Cymry yno, ac erbyn hyn mae’r gofeb yn sefyll gyferbyn ȃ’i fwyty, gyda’r ddraig goch yn goron. Pinacl y noson i mi oedd canu’r anthem i Marc ar ôl i ni fwyta, a’r gŵr o Fflandrys yn cyd-ganu â ni’n falch.

Dydd Llun 30 Hydref

Amser anelu am ddinas hynafol a hynod Brugge. Mae hon yn ddinas arbennig iawn a buom yn crwydro’r strydoedd cul dros y camlesi hyfryd yn mynd o gaffi i gaffi am win twym a siocled poeth. Roedd canu yn un o eglwysi mawrion Brugge yn brofiad arall hyfryd. Eglwys llawer llai o faint nag un Ghent, ond ag acwstig gwell os rhywbeth. Mae ‘na rhywbeth anesboniadwy o ysbrydol am ganu mewn eglwys. Mae cymaint o hanes a harddwch yn gwneud y canu a’r gerddoriaeth yn well rhywsut.

Wedi hyn roedd amser i grwydro’r ddinas a chael pryd o fwyd cyn mynd yn ôl am Ghent am y noson – roedd hyd yn oed amser i gael chydig o dwmpath wrth y bws wrth i ni aros am y gyrrwr!

Dydd Mawrth 31 Hydref

Ein diwrnod llawn olaf yng Ngwlad Belg, a thaith i Frwsel i adeilad Senedd Ewrop ac yna eglwys gadeiriol Brwsel. Cawsom ein tywys o gwmpas y Senedd gan Cai o swyddfa Jill Evans, oedd yn ddiddorol iawn, a chawsom hyd yn oed gyfle i ganu calon lân arall wrth adael (odd rhaid!).

Roedd ein perfformiad olaf ym Mrwsel yn un arall fydd yn aros yn y cof, yn bersonol roedd perfformio’r Tangnefeddwyr yn ddirdynnol iawn, wrth feddwl am yr erchyllterau oedd wedi digwydd yn y wlad lle’r oeddem ni, a’r neges bwerus o heddwch sydd yn y gerdd. Fe gawsom ni gynulleidfaoedd teilwng iawn ym mhob un o’r tair cadeirlan, ac roedd hi’n hyfryd cael cystal croeso i gôr o Gymru mewn gwlad lle nad yw enw Côr Caerdydd mor adnabyddus!!

Dydd Mercher 1 Tachwedd

Ni ar ein ffordd nôl i Gaerdydd bellach, ac i nifer bydd hi’n amser mynd nôl i’r gwaith fory. Trip bythgofiadwy arall, am nifer o resymau gwahanol – cafwyd llawer iawn o hwyl yn croesawu aelodau newydd, cyd-ganu a chofio’r rhai fu farw yn y rhyfel mawr ganrif yn ôl, diolch byth am heddwch heddiw.

Ymlaen i chwarter canrif nesaf Côr Caerdydd.