Cystadleuwyr Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2019

Yn dilyn y cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod dydd Sadwrn 1 Mehefin 2019, mae panel o bum beirniad wedi dewis y chwe chystadleuydd mwyaf addawol o fewn y categori oedran hŷn o dan 25 oed, i ymgeisio am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2019 ym mis Hydref. 

Y chwech fydd yn cystadlu eleni fydd: 

Rhydian Jenkins, Aelod Unigol Cylch Ogwr,  Morgannwg Ganol

Cai Fôn Davies, Aelod JMJ, Eryri

Steffan Lloyd Owen, Aelod Unigol, Cylch Cefni, Ynys Môn

Daniel Jones, Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd a’r Fro

Thomas Mathias, Aelod Unigol Cylch Aberystwyth, Ceredigion

Morgan Llywelyn Jones , Aelwyd y Gwendraeth, Gorllewin Myrddin

Jeremy Huw Williams, Ffion Dafis, Einir Wyn Jones, Cerian Mai Phillips a Glain Dafydd oedd ar y panel dewis.

Dywedodd y Panel, “Mae wedi bod yn brofiad ac yn broses bleserus gwylio’r fath dalent ond roedd y chwe pherfformiwr yma yn serennu a hynny yn y modd roeddent yn cyfathrebu â’u cynulleidfa ac oherwydd i ni gael ein cyffroi.”

Cynhelir yr Ysgoloriaeth eleni ar nos Wener, 11 Hydref yn Neuadd Goffa’r Barri, gyda’r tocynnau ar werth ddiwedd Mehefin. 

Nod y wobr yw meithrin talent rhai o berfformwyr ifanc gorau Cymru. Yn ogystal â’r wobr ariannol, mae’r Ysgoloriaeth hefyd yn cysylltu enw’r enillydd gyda’r canwr enwog Bryn Terfel, sy’n gefnogol iawn i ddatblygu talent newydd yng  Nghymru. 

Eleni, i nodi 20 mlynedd ers sefydlu’r ysgoloriaeth, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r Urdd yn cyhoeddi elfen ryngwladol newydd. Ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2020, bydd enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019 yn perfformio yn un o’r dathliadau byd-eang ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2020.