Dawnsio gyda Dawnswyr Caerdydd yn yr Aelwyd yn Heol Conwy am rai blynyddoedd dan lygaid barcud ac ysbrydoliaeth y diweddar dalentog Chris ‘fach’ Jones oedd y dechrau! Roedd Chris yn rhannu car gyda ni i’r ysgol yn Heol y Celyn lle y’i hadnabyddwyd fel Mrs Dancing Jones! Ond bu i Mrs Dancing Jones feichiogi a gofynwyd i Eirlys Britton ddysgu’r dawnsio gwerin yn ei lle ar gyfer yr Urdd y flwyddyn honno. Ychydig iawn feddylion ni dros ddeng mlynedd ar hugain yn ol pan ofynnodd Gary Samuel, athro yn Ysgol Gynradd Heol y Celyn, Pontypridd a hyfforddwr tim rygbi Caerdydd ar y pryd i ni ddod at ein gilydd i ffurfio tim dawnsio gwerin y byddai’n dod i hyn. Roedden wedi dysgu un ddawns ar gyfer cyngerdd ysgol er mwyn i’r plant ddeall mai nid plant yn unig ddawnsiai ac wedi mwynhau gymaint chafwyd ddim trafferth cael criw o rieni ac athrawon i ddod at ei gilydd. Ychydig iawn feddylion ni hefyd ar y pryd beth oedd tu cefn i’r drws yr oedden yn ei agor, yr wybodaeth y byddem yn ei gasglu, y golygfeydd y gwlewn, y ffrindiau newydd a mawr y gwnaem wrth deithio. Ond yr hyn sydd yn ein taro fwyaf yw’r ymdeimlad yr ydym wedi ei gael ers y dechrau ein bod yn perthyn nid yn unig i griw o bobol hynod dalentog ond hefyd i rhyw rym anesboniadwy o’r gorffennol. Mae’n deimlad ddaw droston ni wrth ddawnsio’r Cadi Ha neu Gwyl Ifan, Meillionnen neu Ali Grogan, rhyw deimlad fel bod yn bresennol mewn ‘séance’ lle rydym yn cysylltu ag ysbrydion dawnswyr dros y canrifoedd – ysbrydion y tir a’r elfennau.
Ffurfiwyd Dawnswyr Nantgarw yn 1980 dan hyfforddiant Eirlys Britton ac er mai athrawon a rhieni Heol y Celyn oedd yr aelodau gwreiddiol fe ehangwyd yr aelodaeth i fod yn un o dimau mwyaf a mwyaf llewyrchus Cymru. Fel pob grwp arall yng Nghymru mae nifer yr aelodaeth wedi codi a syrthio a chryn mynd a dod wedi digwydd ymysg y criw, ond rydym wastad wedi llwyddo i ddenu pobol o’r un anian – pobol ddidwyll a thriw – nid yn unig i’r traddodiad ond i’w gilydd. Eirlys ydy’r glud sy’n cadw’r holl beth gyda’i gilydd ac ar wahan i gyfnod pan oedd yn dost mae hi wedi bod yno’n gyson – bob nos Iau ers 1980. (Gyda Cliff, Hef, Graham, Ellis ac erbyn hyn Gavin yno’n gefn iddi – dynion i gyd sylwer!! Ond mae yna ferched hefyd wedi bod yno ers blynyddoedd lawer hefyd – Elin ac Elen yn benodol)
Wrth ddechrau ein bwriad oedd atgyfodi rhai o hen draddodiadau a dawnsfeydd Dyffryn Taf a Morgannwg, a hynny i’r safon uchaf posib ac fe ddeil hynny’n fwriad o hyd.
Daeth llwyddiant cystadleuol i’r tim yn fuan gan lwyddo i gael llwyfan yn ein cystadleuaeth gyntaf yn Llangefni yn 1983 byth ers hynny mae enw Nantgarw wedi dod i’r brig yn gyson yn y cystadlaethau dawns a chlocsio yn y Gendlaethol, Yr Wyl Gerdd Dant, Llangollen a thramor. Mae’r wobr gyntaf yn Nhlws Lois Blake wedi ei chipio ddim llai na 14 gwaith – y grwp mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth. Cawsom lwyddiant yng Ngwyl Dawns Werin y Byd ym Mallorca gyda’n oedolion a’n plant a’n cerddorion a thrwy hynny gael ein gwahodd i gystadlu mewn gwyliau yn Ffrainc, Yr Iwerddon, Hwngari, Gweriniaeth Czech, Slovakia, China, Yr Iseldiroedd, Rwmania, De Korea a Mexico gan ddychwelyd wedi llwyddiannau eto mewn sawl adran.
Ond nid ar gystadlu yn unig mae bryd y tim. Rydym yn cynnal twmpathau a chyngherddau yn gyson ar hyd a lled Cymru a Lloegr ac wedi ymddangos ar y teledu yng Nghymru a dramor droeon.
Fel pob tim blaengar fel Man U, Spurs a Lerpwl erbyn hyn mae gennym ni ein academi!! A Bro Taf ydy hwnnw. Mae Bro Taf wedi ei sefydlu ers dros 10 mlynedd erbyn hyn ac rydym wedi gweld sawl aelod ifanc yn datblygu a mynd trwy’r camau i fod yn aelodau llawn o Nantgarw a’r cerddorion ifanc hefyd yn datblygu i fod yn grwp gwerin o ‘r safon ucha fydd yn perfformio yn y Ty Gwerin eleni fel llynedd. Gallwn ymhyfrydu, pob un aelod o Nantgarw ers y dechrau ein bod wedi bod yn rhan o ymgyrch sydd wedi llwyddo i godi proffil dawnsio gwerin Cymru nid yn unig yn y Rhondda a Dyffryn Taf fel oedd ein bwriad gwreiddiol ond dros y byd i gyd – gyda chymorth ein hysbrydion wrth gwrs!!
BRO TAF
Dechreuodd Bro Taf fel Adran Urdd fechan newydd yn ardal Pontypridd yn cyfarfod yng Nghlwb y Bont. Rhyw 23 o aelodau oedd yno ar y dechrau, yn canolbwyntio ar gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Cafwyd llwyddiant mawr yn eisteddfod Caerfyrddin yn 2006 ac wedi hynny penderfynwyd mynd ati go iawn i agor y drysau a chael mwy o aelodau. Erbyn hyn mae dros 100 o blant yn dod i Bro Taf bob nos Fawrth ac wrth i’r niferoedd godi mae’r llwyddiant wedi codi yn ogystal. Ond deil y bwriad – sef cael plant Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd i feithrin a datblygu sgiliau perfformio trwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy ganolbwyntio ar y disgyblaethau traddodiadol fel canu a dawnsio gwerin, clocsio a cherdd dant.
Mae’n harbennigedd yn croesi sawl genre o ddawnsio gwerin, canu, actio – ond credwn fod y rhan fwyaf o’n cynulleidfaoedd yn ein cysylltu gyda’n clocsio beiddgar ac arbrofol. Mae Gavin erbyn hyn wedi dysgu clocswyr ers dros ddegawd. Clocswyr sydd, fel y fe, wedi ennill yn unigol yn Eisteddfodau Llangollen a’r Urdd a’r Genedlaethol gan greu eu stepiau cymleth a chywrain eu hunain yn ol y traddodiad.
Erbyn hyn a Bro Taf bellach wedi hen basio 10 mlynedd o fodolaeth mae sawl aelod wedi tyfu i fyny a mynd ymlaen i astudio a pherfformio drama a cherddoriaeth gwerin yn broffesiynnol ond prif amcan Bro Taf, fodd bynnag, ydy codi hunan hyder bob plentyn sy’n mynychu ar nos Fawrth a’u gwneud yn Gymry balch o’u celfyddydau traddodiadol a rhoi iddyn nhw wreiddiau fydd yn rhan annatod ohonyn nhw weddill eu hoes.