Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi mai Dyfan Roberts fydd yn chwarae rhan Y Tad yn eu cynhyrchiad nesaf o’r un enw, a hynny yn ystod Chwefror a Mawrth 2018. Mae Dyfan yn actor profiadol tu hwnt ac yn enw cyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd Cymraeg. Mae ei waith diweddar yn cynnwys: Pum Cynnig i Gymro (Theatr Bara Caws) (Enwebwyd ar gyfer Gwobr Actor Gorau, Gwobrau Theatr Cymru 2016) a Merch yr Eog (Theatr Genedlaethol Cymru). Mae ei waith ffilm yn cynnwys Un Nos Ola Leuad a Gwaed ar y Sêr.
Yn ymddangos gyda Dyfan Roberts fe fydd cast cryf o actorion sy’n cynnwys wynebau cyfarwydd ynghyd â rhai llai cyfarwydd hefyd, sef Catrin Mara, Dafydd Emyr, Fflur Medi Owen, Rhodri Siôn a Mirain Fflur.
Arwel Gruffydd fydd yn cyfarwyddo Y Tad, sy’n drosiad newydd i’r Gymraeg gan Geraint Løvgreen o’r clasur cyfoes, Le Père gan Florian Zeller. Mae’r ddrama yn waith buddugol y gystadleuaeth Trosi Drama i’r Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a’r Cyffiniau, 2016. Enillodd y ddrama wreiddiol Wobr Molière 2014 am y Ddrama Orau. Bydd hwn yn gynhyrchiad gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Pontio.
Dyma stori ddirdynnol am ŵr sy’n ceisio deall yr hyn sy’n digwydd iddo pan fo’i gof yn dadfeilio, a merch sy’n ceisio dygymod â salwch ei thad. Mae’r ddrama’n rhan o dymor o waith i ddod gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2018 sy’n archwilio Gofal a Chymuned, i nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed ac i ddathlu cyfraniad allweddol y celfyddydau wrth fynd i’r afael â lles cymdeithasol. Bydd y cwmni’n gweithio gyda nifer o sefydliadau, gan gynnwys Age Cymru ac Alzheimer’s Society Cymru, er mwyn cael cyngor arbenigol i gefnogi’r cynhyrchiad a’r tymor hwn.
Mae Y Tad yn edrych yn arbennig ar gyflwr dementia – pwnc sy’n dod yn fwyfwy cyfarwydd yn y byd sydd ohoni – a’r effaith a gaiff y salwch ar yr unigolyn, y teulu a’r cartref. Wrth feirniadu cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, disgrifiodd Gareth Miles drosiad Geraint Løvgreen fel “cyfraniad gwiw i’n theatr gyfoes”.
Taith Genedlaethol:
Bydd Y Tad i’w gweld mewn saith canolfan ledled Cymru.
Pontio, Bangor: 21 Chwefror 7.30yh (Rhag-ddangosiad) / 22 Chwefror 7.30yh / 23 Chwefror 2yp a 7.30yh
(Sgwrs i ddysgwyr cyn y sioe 21 Chwefror a sgwrs wedi’r sioe 22 Chwefror)
Canolfan Celfyddydau Pontardawe: 27 Chwefror 7.30yh / 28 Chwefror 11yb (Sgwrs wedi’r sioe 27 Chwefror)
Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron: 2 Mawrth 1yp a 7.30yh / 3 Mawrth 7.30yh (Sgwrs wedi’r sioe 7.30yh, 2 Mawrth)
Theatr y Lyric, Caerfyrddin: 6 Mawrth 1yp a 7.30yh
Theatr y Sherman, Caerdydd: 8 Mawrth 7.30yh / 9 Mawrth 1.30yp a 7.30yh (Sgwrs wedi’r sioe 8 Mawrth)
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug: 13 Mawrth 7.45yh / 14 Mawrth 1.30yp a 7.45yh
(Sgwrs wedi’r sioe 13 Mawrth)
Canolfan Gartholwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd: 16 Mawrth 1yp a 7.30yh
(Sgwrs cyn y sioe 1yp)
Wrth gyhoeddi’r cast, dywedodd Arwel Gruffydd, cyfarwyddwr y ddrama a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
“Mae Dyfan yn un o’n hactorion mwyaf talentog a phrofiadol, ac mae gofyn iddo fod! Mae’r rôl hon wedi’i henwi gan sawl beirniad fel Brenin Llŷr y ddrama gyfoes! Nid mod i eisiau codi ofn ar Dyfan! Ond mae ganddo ‘ensemble’ cryf eithriadol i’w gefnogi – pob un yn actorion yr ydw i’n methu aros i gydweithio efo nhw ar y ddrama arbennig hon.”
Dywedodd Dyfan Roberts ynglŷn â chwarae’r rhan:
“Yn fy holl yrfa fel actor ers 1970, rhan Y Tad yw’r sialens theatrig fwyaf i mi ei hwynebu. Ond rwy’n edrych ymlaen yn arw at yr her. Mae hi’n ddrama gwerth ei gwneud, ar lawer ystyr.“
Bydd tocynnau’n mynd ar werth gan y canolfannau o fis Tachwedd ymlaen.