Tymor y Gwanwyn Opera Cenedlaethol Cymru

Yn Nhymor y Gwanwyn bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno gwledd o operâu Eidalaidd gan dri o’r cyfansoddwyr mwyaf eu dawn.  Bydd y tymor, sy’n dwyn y teitl Codi Twrw, yn cynnwys cynhyrchiad newydd o La forza del destino gan Verdi ochr yn ochr â Tosca gan Puccini a Don Giovanni gan Mozart.

Codi Twrw

Bydd y tymor yn agor gyda La forza del destino wedi’i chyfarwyddo gan David Pountney Cyfarwyddwr Artistig WNO ac yn cael ei harwain gan Carlo Rizzi ein Harweinydd Llawrydd.  Mae’r agorawd adnabyddus yn gosod yr olygfa ar gyfer yr opera ddramatig llawn troadau hon sy’n gweld yr arwres Leonora yn cael ei rhwygo rhwng ei chariad Don Alvaro a’i theyrngarwch i’w theulu.

Bydd y tenor Cymreig Gwyn Hughes Jones yn canu rhan Don Alvaro yn La forza del destino, ac yn ymuno ag ef bydd y soprano Mary Elizabeth Williams fel Leonora.  Yn cwblhau’r cast bydd Miklós Sebestyén (Il Marchese Di Calatrava / Padre Guardiano), Luis Cansino (Don Carlo Di Vargas), Justina Gringyte (Preziosilla / Curra), Donald Maxwell (Fra Melitone), Alun Rhys-Jenkins (Mastro Trabuco) a Wyn Pencarreg (Alcade).

 Rydym yn falch iawn i groesawu’r arweinydd Prydeinig ifanc Kerem Hasan i’w dymor cyntaf gyda’r Cwmni fel Arweinydd Cysylltiol WNO. Bydd Kerem yn cynorthwyo Carlo Rizzi yn ystod y cynhyrchiad o La forza del destino.  Mae Kerem eisoes yn cael ei weld fel seren sydd ar gynnydd ac ef oedd enillydd Gwobr Arweinydd Ifanc Gŵyl Salzburg 2017. 

Dywedodd Carlo Rizzi: “Forza yw’r unig opera Eidalaidd fawr nad wyf wedi ei harwain, ond hon oedd un o’r operâu cyntaf i mi glywed erioed, felly mae fy meddyliau ar y campwaith hwn yn rhychwantu dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae cael gweithio gyda David, cast arbennig o gantorion ac ensembles gwych Corws a Cherddorfa WNO yn ei gwneud hi’n fwy cyffrous i mi fy mod o’r diwedd yn cael perfformio’r campwaith hwn. Gobeithiaf y bydd cynulleidfaoedd o bob oed yn ymuno â ni i fwynhau’r gerddoriaeth ragorol a dramatig y mae Verdi wedi ei chyfansoddi – nid dim ond yr agorawd adnabyddus, ond hefyd yr holl arias a’r corysau bendigedig yn yr opera sy’n gyrru ei stori gyfareddol ymlaen.”

Mae rhamant a thrasiedi ar y fwydlen ar gyfer adfywiad WNO o’i gynhyrchiad o Tosca, stori wefreiddiol am gariad, chwant, llofruddiaeth a llygredd sydd wedi dod yn un o’r operâu mwyaf poblogaidd.  Yn cynnwys arias hyfryd gan gynnwys ‘Vissi d’arte’ Floria Tosca, mae’r stori yn llawn troadau o’r dechrau cyntaf i’r diweddglo gwefreiddiol.  Bydd y gwaith o arwain Tosca yng Nghaerdydd ac ar y daith yn cael ei rannu rhwng Carlo Rizzi a Timothy Burke, Cyfarwyddwr Cerdd Tête à Tête.

 Bydd y cynhyrchiad yn cynnwys cast dwbl yn chware rhannau Mario Cavaradossi a Floria Tosca.  Bydd Hector Sandoval a Gwyn Hughes Jones yn rhannu rhan y tenor, a Claire Rutter a Mary Elizabeth Williams yn rhannu rhan y soprano.  Mark S. Doss fydd yn chware rhan y Scarpia ddrwg ac yn cwblhau’r cast fydd Daniel Grice (Cesare Angelotti) a Donald Maxwell (Sacristan).

 Bydd y tymor yn cloi gydag adfywiad o lwyfaniad John Caird o Don Giovanni o 2011, gyda dylunio gan John Naiper.  Yn seiliedig ar hanes Don Juan, mae Don Giovanni yn dilyn cwymp merchetwr chwedlonol opera wrth i’w fercheta twyllodrus ddal i fyny ag ef ac mae’n wynebu ei dranc drwy rym o’r bedd.  Un o’r operâu fwyaf poblogaidd ac un o’r rhai sydd wedi cael ei pherfformio fwyaf, mae gan yr opera hon bopeth o chwant i gomedi, drama a’r goruwchnaturiol.  Bydd Don Giovanni yn cael ei hadfywio gan Caroline Chaney a bydd James Southall yn arwain.

Rydym yn hynod falch i groesawu Gavan Ring y tenor Gwyddelig a fydd yn perfformio am y tro cyntaf gyda WNO ac yn perfformio rhan Don Giovanni am y tro cyntaf.  Bydd Elizabeth Watts a David Stour yn dychwelyd yn dilyn eu perfformiadau yn nhrioleg Figaro WNO yn 2016 i ganu rhan Donna Elvira a Leporello yn y drefn honno.  Yn cwblhau’r cast bydd Miklós Sebestyén (Commendatore), Emily Birsan (Donna Anna), Benjamin Hulett (Don Ottavio), Katie Bray (Zerlina) a Gareth Brynmor John (Masetto). 

Meithrin talent ifanc

Yn dilyn sesiynau blasu a gweithdai trwy gydol mis Hydref a Thachwedd 2017, mae WNO yn falch i sefydlu dau grŵp Opera Ieuenctid newydd yn dechrau yng Ngwanwyn 2018; un ym Mirmingham, ac un arall yng Ngogledd Cymru, gan adeiladu ar y safon uchel o hyfforddiant canu, drama a symud sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn drwy Opera Ieuenctid WNO yng Nghaerdydd.  Bydd y grwpiau newydd yn cwrdd bob wythnos yn ystod y tymor ysgol.  Yng Ngogledd Cymru, bydd y sesiynau wythnosol ar gyfer plant 10-14 oed yn gyntaf, yn cael eu cynnal yn Venue Cymru, Llandudno, ac yn adeiladu ar y gwaith helaeth gydag ieuenctid a chymunedau y mae WNO yn ei wneud nawr ar draws y rhanbarth.

 Mae datblygu’r gwaith hwn mewn mwy o leoliadau yn rhan o ymrwymiad parhaus WNO i hyfforddi a datblygu’r genhedlaeth nesaf o artistiaid, gyda’r bwriad hir dymor o gynnig cyfleodd i gantorion ifanc hyd at 25 oed a fydd yna efallai’n dymuno ymuno â’r proffesiwn opera.  Mae perthynas WNO gydag ysgol opera newydd David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd hefyd yn arddangos ymrwymiad y cwmni i gefnogi talent opera newydd.

Cerddorfa WNO

Bydd Cerddorfa WNO yn brysur yn ystod tymor y Gwanwyn gyda chyfres o gyngherddau a digwyddiadau wedi’u trefnu.  Bydd y flwyddyn newydd yn dechrau gyda thaith ledled Cymru yn perfformio cerddoriaeth Fiennaidd, wedi’i chyflwyno a’i chyfarwyddo gan David Adams, Arweinydd Cerddorfa WNO.  Ar y daith bydd y gerddorfa’n ymweld ag Abertawe, Bangor, y Drenewydd, Caerdydd a Chasnewydd rhwng 4 a 21 Ionawr.

Yna ar 14 Ionawr, bydd y Gerddorfa’n perfformio mewn cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant fel rhan o’r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol o dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus.  Bydd y rhaglen yn cynnwys Agorawd Egmont Beethoven, Concerto Ffidil Mendelssohn a Symffoni Rhif 9 New World Dvořák.

Mae rhagor o wybodaeth am dymor y gwanwyn WNO ar gael yn wno.org.uk

Amserlen y Gwanwyn

CAERDYDD       CANOLFAN MILENIWM CYMRU    
Swyddfa Docynnau            (02920) 636464** 

Gwe    2             Chwe      La forza del destino         6.30   yh   
Gwe    9             Chwe      Tosca        7.15 yh                                     
Sad     10            Chwe      La forza del destino        6.30   yh
Sul      11            Chwe      Tosca      4.00 yh
Gwe    16           Chwe      Tosca               7.15 yh
Sad      17           Chwe      La forza del destino        6.30 yh
Mer     21           Chwe      Tosca          7.15 yh
Iau       22          Chwe      Don Giovanni*        7.00 yh
 Gwe    23          Chwe      Tosca            7.15 yh
Sad      24          Chwe      Don Giovanni       4.00 yh