POBOL Y RHIGWM
Croeso i gornel Pobol y Rhigwm. Yn rhifyn mis Awst, sef rhifyn arbennig yr Eisteddfod, y dasg (rhif 16) oedd llunio llinell neu gwpled o gynghanedd yn cynnwys unrhyw fis. Daeth cannoedd o gynigion i law, ond dim ond gofod i gyhoeddi dwy ymgais sydd y tro hwn. Dyma nhw:
Ymadael cyn mis Medi,
Bwrlwm prifwyl a’i hwyl hi.
gan Col
Mae cwpled Col yn gywir, ac wrth gwrs yn cyfeirio at ryw ddigwyddiad a fu ym Mae Caerdydd ym mis Awst eleni. Dweud y mae fod yr ŵyl a’i rhialtwch wedi diflannu’n fuan.
Mis Ebrill mae briallu
Yn lliwio llawr y gelli.
gan Gellilon
Mae angen ailweithio cwpled Gellilon – dylai un llinell o’r ddwy fod yn acennog, mewn cwpled caeth, ac mae’r gynghanedd yn anghywir. Trueni am hynny, gan fod y syniad a’r darlun telynegol yn hyfryd. Byddai’n werth i Gellilon ymuno ag un o’r ysgolion barddol ardderchog a gynhelir trwy Fenter Caerdydd yn y brifddinas.
Felly, am lunio cwpled cywir, Col sy’n mynd â hi y tro hwn.
Y dasg nesaf i’r rhigymwyr (rhif 17) yw brawddeg ar y gair TERESA.
Yn ôl yr arfer, anfonwch cynigion at: db.james@ntlworld.com erbyn 10 Hydref.
Enillydd tasg rhif 16 yw
Colin Williams, Creigiau