Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Caerdydd â’r Fro 2019

Gwahoddiad i droi Ynys y Barri yn goch, gwyn a gwyrdd yng Ngŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Caerdydd â’r Fro 2019

Disgwylir oddeutu 2000 o bobl i orymdeithio gyda’u baneri lliwgar i lawr promenâd Ynys y Barri, Bro Morgannwg ar ddydd Sadwrn, 6ed o Hydref 2018 am 11.30yb fel rhan o ddathliadau Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd â’r Fro, Mai 2019.

Gwahoddir ysgolion a cholegau lleol i fod yn rhan o’r orymdaith fydd yn dechrau ar y traeth o flaen caffi Marcos ac yn ymlwybro ar hyd y promenâd i sain band samba. Yn dilyn yr orymdaith bydd y dathliadau yn parhau gyda phrynhawn yn llawn adloniant am ddim i’r teulu cyfan tan 3pm.

Yn cyfrannu at arlwy’r prynhawn bydd perfformwyr Syrcas Circus, cyflwynwyr a chymeriadau CYW, Band Mawr y Barri, Wigwam a pherfformiadau gan ysgolion, adrannau a grwpiau lleol. Yn ogystal â hyn bydd stondinau nwyddau ac ystod o weithgareddau chwaraeon yn cael eu cynnal gan adran chwaraeon yr Urdd.

Yn ôl Gwenno Mair Davies, Cadeirydd Bwrdd Eisteddfod yr Urdd “Gyda’r gwaith caled o baratoi a chodi arian tuag at Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019 ar ei anterth, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu pawb i Ynys y Barri i ddathlu’r Ŵyl Gyhoeddi ar y 6ed o Hydref. Bydd llu o ysgolion o’r ardal gyfan yn cymryd rhan gan ddod at ei gilydd i gyd-orymdeithio a dathlu drwy strydoedd Y Barri.

Glaw neu hindda, bydd llu o weithgareddau, hwyl ac adloniant i’w gael ar y diwrnod ac estynwn groeso cynnes i bawb o bob oed!”

Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’n bleser cynnal yr Ŵyl Gyhoeddi yn Ynys y Barri, un o leoliadau mwyaf eiconig ac adnabyddus y Fro ac yn wir y rhanbarth. Roeddem ni fel Cyngor yn ymfalchïo’n fawr i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Fro Morgannwg yn 2012 ac edrychwn ymlaen at groesawu Eisteddfod yr Urdd i Gaerdydd â’r Fro yn 2019. Gwyddom y bydd nifer o’n hysgolion yn cymryd rhan ac yn mwynhau nid yn unig yr Ŵyl Gyhoeddi ond hefyd yr ŵyl ei hun yn 2019, sy’n gwneud cymaint i ddathlu pwysigrwydd diwylliant Cymru.”

Annogir pawb i wisgo coch, gwyn a gwyrdd ar y diwrnod, ac wrth gwrs bydd nwyddau Eisteddfod 2019 ar werth ar stondin yr Urdd gan gynnwys hwdis a chrysau-T.

Dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn “Mae’r gefnogaeth sydd wedi ei dderbyn hyd yn hyn gan bobl yr ardal i ddyfodiad Eisteddfod yr Urdd, sydd yn un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, wedi bod yn wych.

Rydym yn ddiolchgar tu hwnt am gymorth cynghorau Bro Morgannwg a Chaerdydd, yn ogystal â’r gymuned leol, ysgolion a grwpiau. Dwi’n edrych ymlaen at ŵyl gyhoeddi hwyliog a diwrnod o ddathlu, gan edrych ymlaen at fis Mai 2019”

Cystadleuaeth Faneri

Nid yw’n orymdaith heb faneri, felly cynnigir gwobr ariannol i enillwyr cystadleuaeth creu ac arddangos baner ar y diwrnod, sy’n hyrwyddo’r ysgol/adran ac yn tynnu sylw at ddyfodiad yr Eisteddfod. Gellir chwifio baner Cymru, Triban yr Urdd neu faner Owain Glyndŵr ar yr orymdaith hefyd.

Darperir meysydd parcio cyhoeddus am ddim ond anogir pawb i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os oes posib gwneud hynny.