GENI CLWB RYGBI CYMRY CAERDYDD
1967:
Hon oedd blwyddyn gwrth-ddiwylliant ‘Hâf Serch’ (y Summer of Love enwog), gyda holl ieuenctid San Fransisco yn gwisgo blodau yn eu gwallt wrth wrando ar ‘Grateful Dead’, ‘Big Brother’, a ‘Timothy Leary’. Pynciau mawr y flwyddyn : rhyw, cyffuriau, heddwch, cariad, roc a rôl ac wrth gwrs, protestiadau gwrth-rhyfel.
Pasg 1967:
Stormydd yn chwalu’r llong Torrey Canyon yn ei hanner oddi ar Land’s End gan chwydu 50,000 tunnell o olew i’r môr ac yna i draethau Cernyw a thu hwnt.
Cenedlaetholwyr yr Alban yn tynnu arwyddion oedd yn dynodi’r ffin rhwng Lloegr a’r Alban a’u symud i’r de o dref Berwig-ar-Tweed gan hawlio taw tref Albanaidd oedd hi……..Tra ym myd rygbi, Ffrainc yn bencampwyr y pum gwlad gyda Cymru ar y gwaelod, a’r unig fuddugoliaeth oedd yr un yn erbyn Lloegr o 35 i 21 – gêm enwog Keith Jarrett a chyn aelod o dîm Aelwyd Caerdydd – Billy Raybould – yn llwyddo gyda chic adlam.
Ac ar benwythnos y Pasg 1967:
Clwb Rygbi Aelwyd Caerdydd ar daith mewn rhes o geir a faniau amrywiol i chwarae Clwb Rygbi Aberystwyth ar Ddydd Gwener y Groglith, Clwb Rygbi Bae Colwyn ar y Sadwrn, treulio’r nos Sadwrn a’r Sul yng Ngwesty’r Royal yng Nghaernarfon yn ymlacio (!!??**?) cyn symud ymlaen i chwarae Clwb Rygbi Dolgellau ar ddydd Llun y Pasg.
Y confoi cymysg yn gadael Caerdydd ar y 24ain o Fawrth ar ddechrau’r daith fel Clwb Rygbi Aelwyd Caerdydd, ac fe ellir hawlio – o un safbwynt beth bynnag – taw Clwb Rygbi Cymry Caerdydd fu’n chwarae yn Nolgellau, gan i broses y trawsnewidiad (gair posh Cymraeg am coup d’etat) gychwyn ym mar y Royal ar y prynhawn Sul y Pasg hwnnw ym 1967.
Ond dewch i ni fynd nôl i’r dechre’n deg :
Cychwynwyd tîm rygbi Aelwyd Caerdydd ym 1963 drwy frwdfrydedd dyrnaid o unigolion oedd yn ddisgyblion a chyn ddigyblion ysgolion uwchradd yn y ddinas, yn benodol Ysgol Uwchradd Cathays ag ysgol Uwchradd Canton gydag ambell fyfyriwr o’r gorllewin a’r gogledd ac ambell ŵr proffesiynol yn y ddinas yn chwyddo’r niferoedd i gyrraedd at bymtheg – gan amlaf – ar brynhawniau Sadwrn.
Gwisgodd Martyn Williams fantell ysgrifennydd y tîm rygbi ar y dechrau, gyda chefnogaeth a brwdfrydedd rhai o ddisgyblion chweched dosbarth yn yr ysgolion hyn, nifer ohonyn nhw wedi chwarae i dîm yr ysgol ar y bore Sadwrn ac yna cytuno i chwarae dros dîm yr Aelwyd yn y prynhawn. Dwl ac ifanc siwr o fod! Neu falle ifanc a dwl! Yn eu plith roedd unigolion megis Martyn Williams, Elgar Evans, Alun Charles, Leighton Hughes a Dai Hall, ac ymhlith y rhai hŷn gellid rhestru Dr Dafydd Huws, Alun Guy, Geraint Evans, John MeurigEdwards, Derek ‘Doc’ Jones, Mike Gibbard, Rhys Llwyd, John Ifans, Heddwyn Davies, Lynn Davies a Lyn Jones ac eraill. Nifer o’r rhain wedi’n gadael bellach yn anffodus. Bryd hynny byddai sawl un o’r ffyddloniaid Sadyrnol yn dipyn hŷn nag oed aelodau cydnabyddedig yr Urdd. Roedd trefn dewis y tîm yn dra gwahanol i drefn clybiau cydnabyddedig hefyd! Bob nos Wener roedd Alun Guy yn cynnal ymarfer côr Aelwyd Caerdydd yn llawr isaf un o gapeli dwyrain y ddinas, ac yno byddai Martyn Williams yn dal darn o bapur i ysgrifennu enwau ar gyfer y tîm y prynhawn canlynol. Os am chwarae ar y Sadwrn, roedd rhaid troi lan i’r practis côr. Chwaraewyd gêm gyntaf Clwb Rygbi Aelwyd Caerdydd ym mis Medi 1963 a hynny yn erbyn Clwb Rygbi Cwm Carn.
Erbyn tymor 1964-5 gadawodd Martyn Williams y brifddinas -a swydd ysgrifenydd y tîm – wrth iddo fynd yn ddisgybl i Goleg yr Iwerydd yn Llanilltud Fawr. Elgar Evans gydiodd yn yr awenau y tymor hwnnw – a threfn unigryw o ddewis y tîm yn dal i ddibynnu ar bwy oedd yn y practis côr ar y nos Wener! Wrth i nifer o fyfyrwyr ymuno a’r côr, roedd cyfartaledd oed y tîm yn codi fymryn, a felly hefyd arferion ar ôl y gemau brynhawn Sadwrn! Wedi gêm galed, naturiol oedd troi i dŷ tafarn cyfleus i dorri syched a chynnig porc pei a phicls neu wledd tebyg i’n gwrthwynebwyr. Cyn bo hir, fe’i gwnaethpwyd hi’n weddol amlwg nad oedd sanhedrin yr Aelwyd yn or-hapus gydag aelodau’r tîm – roedden nhw yn cynrychioli’r mudiad wedi’r cwbwl – yn mynychu tai tafarn yn dilyn y gêm i ddisychedu a chymdeithasu. Teimlai’r arweinwyr hyn, yn gwbwl ddiffuant, nad oedd gweithgaredd fel hyn yn gytbwys â delfrydau mudiad ieuenctid cenedlaethol oedd yn proffesu bod yn deyrngar i Gymru, cyd-ddyn a Christ. Er gwaetha’r gwrthwynebiad tawel o du rhai o’r arweinwyr, mae’n bwysig talu gwrogaeth iddynt ar yr un pryd am fod yn ddigon blaengar i hybu’r gweithgaredd rygbi, felly hefyd y ddau neu dri unigolyn a wnaeth y gwaith arwrol i berswadio, gorfodi, a themtio unigolion i ddod i Gaeau Llandâf erbyn hanner awr wedi dau ar y Sadwrn. Onibai amdanyn nhw a’u gwaith di-flino mae’n debygol iawn na fyddai CRCC yn bodoli. Dyma’r dyrnaid o unigolion a osododd y seiliau i sicrhau bod yna gyfrwng i Gymry Cymraeg yn y ddinas fedru dod at ei gilydd i gymdeithasu drwy chwarae rygbi. Fe ddaeth y casgliad bach hynod yma o fois oedd yn siarad iaith ddierth iawn, yn gyfarwydd i dîmau eraill y ddinas a dwyrain Cymru dros y tymhorau cynnar, a diolch i Leighton Hughes yn benodol – fe oedd ysgrifennydd, trefnydd, a gweithredydd tîm rygbi’r Aelwyd yn nhymorau 1965/66 a 1966/67 – fe ddaeth darllenwyr y ‘pinc’, sef y ‘Football Echo’, papur chwaraeon y ddinas a ymddangosai yn nhafarndai a gorsafoedd trenau a bysiau’r ddinas tua’r saith o’r gloch bob nos Sadwrn yn gyfarwydd a’i frwdfrydedd. Byddai Leighton yn ddiffael yn cael canlyniad y gêm i dudalennau’r ‘pinc’.
Bu boreau Sadwrn yn dipyn o boen i Leighton, gan taw dyma’r oriau prin oedd ganddo i lenwi’r bylchau yn ei dîm ar gyfer y prynhawn, y bylchau na lwyddwyd i’r llenwi yn y practis côr y noson cynt. Ambell stiwdent yn mwynhau cwsg ar ôl noson hwyr nos Wener, tan i’w gwsg esmwyth gael ei chwalu gan swn cerrig mân yn taro ffenest stafell wely i’w ddihuno, a Leighton wedyn yn gwasgu addewid mas ohonyn nhw i droi lan i Gaeau Llandaf mewn cwpwl o oriau!
Doedd yr Aelwyd ddim yn meddu ar gronfa ddofn i dalu am logi caeau, stafelloedd newid na chrysau rygbi i’r tîm, heb sôn am dalu am y porc peis i’r tîm o bant. Doedd y disgyblion o’r ysgolion uwchradd chwaith ddim yn meddu ar arian i gyfrannu at y gofynion hyn. Ond drwy berswâd ac addewidion fe ddaeth chweugen o gyfraniad gan y chwaraewyr – hanner y pris i ddisgyblion dosbarth chwech! – yn ddigon i gynnal y tîm, fwy neu lai, am y pedair blynedd cynta. O dan yr amgylchiadau cyfyng ariannol hyn – ynghŷd â chwestiynau am fynychu tafarndai – bu sawl sgwrs a thrafodaeth am gynlluniau i’r dyfodol, a’r hyn allai ddigwydd. O dipyn i beth roedd cnewyllyn o aelodau’r tîm yn grediniol taw torri’n rhydd o hualau’r Urdd oedd yr unig ateb, ateb a fyddai’n lleddfu cydwybod rhai o arweinwyr yr Aelwyd, ac a fyddai yn rhoi trefniadaeth y dyfodol yn nwylo’r chwaraewyr. Dros y pedwar tymor fe sefydlwyd patrwm o chwarae wedi ei seilio ar chwarae anturus, agored a ymdebygai fwy i saith-bob-ochr ar adegau, a llwyddodd y steil i ddenu rhagor o chwaraewyr i’r gorlan. Tyfodd nifer y chwaraewyr ac erbyn y daith Pasg ym 1967 roedd dros ugain o chwaraewyr yn y garfan i deithio arfordir y gorllewin. Ar y prynhawn Sul hwnnw ym mar y Royal yng Nghaernarfon, o dan gadeiryddiaeth Derec ‘Doc’ Jones, cafwyd trafodaeth danbaid a orffennodd gyda’r penderfyniad i dorri’n rhydd oddi wrth Aelwyd yr Urdd a sefydlu Clwb Rygbi Cymry Caerdydd.
Yn eironig, gwnaed y penderfyniad pan oedd Leighton Hughes, yr ysgrifenydd a’r perswadiwr cyson wythnosol – ac asgellwr y tîm – yn gorwedd ar ei gefn mewn ysbyty ym Mae Colwyn ar ôl torri ei goes yn y gêm y diwrnod cynt. Y bore canlynol, bore Llun y Pasg, aeth un o’r aelodau i’w gasglu i’w yrru nôl i Gaerdydd – ond drwy Ddolgellau wrth gwrs gan fod yna ornest rygbi i’w chwblhau, sef gêm ola’r daith. Roedd rhaid cwblhau’r penwythnos fel y bwriadwyd, onid oedd!
A rhywdro, yn ystod y daith honno rhwng Dolgellau a Chaerdydd y sylweddolodd Leighton taw fe fyddai’n gorfod wynebu pwyllgor yr Aelwyd i dorri’r newydd am y rhwyg oedd ar fin digwydd. Dyma hefyd pryd y sylweddolodd yntau a rhai o aelodau’r tîm, taw dim ond ychydig fisoedd yn unig oedd ar gael i sefydlu’r tîm, creu pwyllgor, trefnu gêmau bob penwythnos drwy’r tymor, cysylltu ag Undeb Rygbi Cymru ag Undeb Rygbi Caerdydd a’r Ardal i ofyn am ganiatad i fod yn aelod o’u cyfundrefn nhw, ac wrth gwrs roedd rheidrwydd i ddod o hyd i ffyrdd o godi arian i gynnal y Clwb newydd anedig. Nid rhyw hap a damwain fyddai dewis y tîm a gwneud trefniadau ar gyfer y penwythnosau bellach.
O fewn diwrnodau bu’n rhaid wynebu problem ymarferol arall – bob haf roedd y myfyrwyr ac athrawon hefyd, yn codi’u pac a throi am adre, a bron pawb arall wedi trefnu gwyliau personol a theuluol – felly dim ond dyrnaid fechan oedd ar gael i gynnal breichiau Leighton. Roedd un aelod yn adnabod Robert Jones, athro a thipyn o dalent fel artist, ac fe wnaeth yntau gytuno i ddylunio arfbais gwreiddiol y clwb. Roedd John Charles – ie yr enwog gawr tyner hwnnw o Abertawe, Leeds ag Juventus – ynghŷd ag Alun Priday – a fu‘n gefnwr Clwb Rygbi Caerdydd a Chymru – wedi agor siop dillad ac offer chwaraeon yn Rhiwbeina, ac fe aeth Lyn Jones a fu’n gapten tîm yr Aelwyd dros y ddau dymor blaenorol, at y ddau berchen, egluro’r amgylchiadau, a dod i gytundeb i gael set o grysau am bris gostyngol eithriadol, ond yn fwy na hynny fe wnaeth y ddau gytuno i aros am eu harian am nifer o fisoedd. Y bwriad oedd cynnal dawns yn un o glybiau’r ddinas ar nos Wener cyn gêm rhyngwladol – Clwb Estonia ar Stryd Charles yg nghanol y dre oedd y lleoliad, gan fod Doc -ein Cadeirydd – yn adnabod rheolwr y Clwb – ac am nifer o dymhorau, y nosweithiau poblogaidd a gwyllt hyn fu’n cynnal y clwb yn ariannol. Roedd apêl
cael bar ar agor tan un o’r gloch y bore yn ddigonol i ddenu tyrfaoedd i’r achlysuron, yn fyfyrwyr colegau’r ddinas, yn ogystal â’r llu o gefnogwyr o bob cwr o Gymru a deithiai i weld y gêm ar y prynhawn Sadwrn.
Yn ychwanegol at godi arian i gynnal y Clwb, bu’r nosweithiau ‘cymdeithasol’ hyn yn fodd i ledaenu enw’r clwb ar hyd a lled Cymru, a bu hynny yn fodd i gynyddu aelodaeth chwaraewyr y clwb yn ystod y blynyddoedd cyntaf.
Ac ie, o dderbyniadau’r noson gyntaf hon fe dalwyd am y crysau, ynghŷd a thâl aelodaeth i’r Cardiff and District Union. Drwy weithio’n ddiflino bob awr dan haul, llwyddodd Leighton i lunio rhestr gêmau lawn i’r Clwb, galwyd cyfarfod o’r aelodau yn wythnos gynta Medi ac fe ffurfiwyd pwyllgor a dewiswyd Lyn Jones yn gapten am dymor cynta Clwb Rygbi Cymry Caerdydd ym 1967/68. Cadeirydd Clwb Rygbi Cymry Caerdydd oedd D. W. ‘Doc’ Jones, Leighton Hughes (pwy arall!) yn ysgrifennydd, a llywydd cyntaf y Clwb oedd ail rheng gorau y cyfnod i’r tîm cenedlaethol, y Sgarlets, Y Llewod a’r Barbariaid – y gwron o Gwmllynfell, R.H. Rhys Williams. Gydol Awst a Medi bu dau neu dri o’r pwyllgor yn troi i gyfeiriad tafarn y Claude ar Heol Albany yn nwyrain y ddinas, gan i ni glywed bod criw o fyfyrwyr ifanc ac athrawon yn mynychu’r lle, gan fod yr ymgyrch i ddod o hyd i chwaraewyr newydd yn dal i fynd yn ei blaen.
Erbyn wythnosau cyntaf y tymor roedd enwau Alun ‘Brechfa’ Davies, Buckley Wyn Jones, Gareth Jones, Peter Morgan, Ron a Randall Isaac, Wyn Williams, Now Eames, Glyn Davies, Geraint Evans, Edryd Lloyd, Garffild Jones, Mike Arrowsmith, Adrian Davies, Peter ‘Epis’ Evans,John Richards, Paul Kyte, Ashley Williams, D. Bryan James, Gareth Wallace-Evans, Gwyn Griffiths ac eraill yn llyfr ffôn Leighton. Llwyddwyd i drefnu i’r tîm gael caniatad i ddefnyddio tafarn y Clive Arms ar Heol y Bontfaen, diolch i waith ymchwil trylwyr y Cadeirydd. Roedd ‘Doc’ yn adnabod Phineas John a’i wraig pan yn rhedeg tafarn yng nghanol y ddinas, ag yntau yn un o’r selocaf gwsmeriaid, pan glywodd bod y cyn-focsiwr a’i fryd ar symud i‘r Clive yng Nghanton. O’r dechrau’n deg cafodd y Clwb gartre answyddogol ond croesawgar yn ystafell ‘lan llofft’ y Clive, ac yno bob nos Sadwrn yn ystod y tymor byddai’r lle dan ei sang gyda chwaraewyr, gwragedd a chariadon a chefnogwyr yn cymdeithasu i’r oriau mân. Bellach roedd yn bosib gwahodd gwrthwynebwyr yn ôl i’r Clive ar ôl gêm, a bu’r stafell lan stâr yn lleoliad i ganu ysbrydoledig, – wel, brwdfrydig falle – i nosweithiau o gwisiau, ‘steddfod dwp’ ac ambell i noson ddigon diwylliedig.
Gyda Geraint Evans yn bennaeth Addysg Gorfforol yn Ysgol Uwchradd Canton, cawsom le i ymarfer unwaith yr wythnos yn ystod y gaeaf ar nos Fercher, ac
yna ym mar cefn y Clive byddai’r pwyllgor yn cwrdd, ac o fewn ychydig wythnosau roedd digon o chwaraewyr yn ymarfer i ddewis ail dîm yn achlysurol, a dyna ychwanegu at lwyth gwaith yr ysgrifennydd eto!
Ond am y tro cyntaf roedd seiliau gweinyddiad a threfniadaeth yn cael eu gosod a fyddai yn rhoi sicrwydd i ddyfodol y clwb. Ddiwedd Awst gyda golwg ar ddechrau tymor newydd, fe aed ati i drefnu sesiwn ymarfer ar y twyni tywod ym Merthyr Mawr, tipyn gwahanol i’r sesiwn yn nhwyni tywod Llangennydd ar benrhyn Gwyr, gyda hanner dwsin o bebyll a ‘Doc’ ar ôl i bawb grwydro nôl o’r King’s Head yn y pentre, yn rhoi serenâd i’r lleuad a phawb arall o fewn clyw gyda pherfformiad unigryw – arferol – o Santa Lucia, ac os na fyddai rhywun yn ei berswadio yn wahanol, byddai Myfanwy gyda’i lais tenor hyfryd, yn treiddio ar draws y twyni a’r tonnau.
Roedd sawl athro ymarfer corff yn aelodau bellach ac fe gyfrannodd sawl un at y broses o hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol yn ystod y tymor neu ddau cyntaf
Yn ystod misoedd haf 1969, a chyn cychwyn tymor 1969/70 bu Lyn Jones mewn cysylltiad a chyfaill coleg iddo, Dewi Morris Jones, a oedd erbyn hynny yn darlithio ym Mhrifysgol Brest, yn Llydaw, Bwriad y cysylltu oedd ceisio trefnu taith ddiwedd tymor i’r Clwb – y cynta i wlad dramor, a’r daith gynta gan glwb rygbi o Gymru i Lydaw. Llogwyd awyren Dakota (DAK33) oddi wrth gwmni South West Aviation, ac wrth yr enw ar yr awyren, lle i 33 fyddai arni. Fesul cam, a llawer o lythyru, daeth y cyfan i fwcwl ar gyfer Pasg 1970. Yna cafodd y gêmau eu trefnu, a sicrhawyd llety gydol y daith yn un o neuaddau’r Brifysgol yn ninas Brest. Byddem yn teithio o Brest i chwarae’r gemau mewn bws, gyda ail dim Brest yn herio ail dîm y clwb i gychwyn y daith, wedyn teithio i Quimper i chwarae tim cyfun o Lorient a Quimper ar y Sadwrn, tîm cynta Brest ar y Sul, cyn gorffen y daith yn erbyn St Brieuc ar y Llun. Y bwriad oedd teithio gyda 30 o chwaraewyr gan fod tair gêm i’r tîm cynta a dwy i’r ail dîm wedi eu trefnu. Yn y diwedd roedd 33 eisiau mynd ar y daith, 32 chwaraewr ac un teithiwr wedi ei anafu. Torrodd Randall Isaac, mewnwr y clwb, ei ysgwydd ychydig wythnosau cyn y daith – ond doedd dim yn debyg o’i rwystro rhag mwynhau’r cyfan! Ac fe wnaeth!!
Felly ar y prynhawn Iau, 26ain o Fawrth 1970 gwelwyd rhes hir o geir yn anelu am y maes awyr yn y Rhŵs, gyda gwragedd, cyfeillion neu gariadon yn gyrru y 33 er mwyn dal yr awyren. Aethpwyd drwy’r broses o tsiecio i mewn yn hwylus, a phawb yn eiddgar eistedd yn y lolfa ymadael, pan ddaeth peilot yr awyren i mewn a gofyn am gael gair gyda’r trefnydd. Dyma Lyn Jones ato a phawb o’r chwaraewyr ynym wybodol bod rhywbeth o’i le, ac yn ceisio deall beth oedd y rheswm am y sgwrs.
Mae pob hediad awyren yn cael ei seilio ar y dybiaeth taw cymysgedd o deithwyr fydd yn ffurfio ‘llwyth’ yr awyren. (sef dynion gwragedd a phlant!) Doedd y cwmni ddim wedi ystyried taw dynion yn unig oedd y teithwyr y tro hwn, a’r rhelyw yn ddynion cydnerth a thrwm er ei bod yn amlwg ddigon taw clwb rygbi oedd wedi llogi’r awyren! A byrdwn y sgwrs rhwng y peilot a Lyn Jones? “Ni all yr awyren godi oddiar y llain lanio gyda’r llwyth hyn a llond y tanc o danwydd.”
Wel jawl ariôd ! ‘Ma bicil !
Fe aeth y drafodaeth ‘mla’n am dipyn, ac wedi’r trafod roedd gan y peilot dri dewis i’w cynnig :
Yn gynta:
Gadael cit rygbi pawb ar ôl – nawr, ‘doedd hyn ddim yn ddewis rhesymol i dîm oedd yn bwriadu chwarae nifer o gemau rygbi ar ôl cyrraedd yn Llydaw.
Yr ail ddewis oedd :
Tynnu’r bar a’r holl ddiodydd oddi ar yr awyren – ac fe gymerai hynny ddwyawr neu fwy, ond fyddai’r opsiwn yma ddim yn debyg o blesio’r teithwyr sychedig chwaith.
A’r trydydd dewis:
Danfon awyren fechan pum sedd o faes awyr Caerwysg (Exeter) i gario pum chwaraewr arni, gydag ymddiheuriadau dwysaf yn dod o du’r cwmni awyrennau.
Cytunwyd ar y trydydd dewis i oresgyn y broblem, ac ar ôl egluro’r sefyllfa i’r aelodau disgwylgar, gofynodd Lyn am wirfoddolwyr i deithio gydag ef yn yr awyren fach, a gwnaeth Lynn Davies, Bryan James, John Richards ag Ashley Williams ymuno ag ef. Ffarweliwyd â’r wyth ar hugain arall wrth i’r Dakota godi i’r awyr ac anelu am Llydaw, gan adael y pump yn y bar i ddioddef aros dwy awr am yr awyren fechan i gyrraedd. Ar ôl dwy awr syber dros ben, a dringo’n sigledig i mewn i’r Cessna i ymuno a’r peilot, fe ddechreuodd rhai ganu ‘I Mewn I’r Arch a Nhw’ a ro’n nhw’n dal i ganu’r un gân wrth iddynt lanio ym maes awyr Brest.
Ni wnaeth y stori orffen yn y fan honno chwaith. Roedd brawd Bryan James, sef W.I.B. James, wedi gyrru ei frawd i’r maes awyr, ac wedi clywed y newyddion am y drafferth pwysau ac anallu’r awyren i godi o’r llain lanio, cyn iddo droi am adre. Gwelodd ei gyfle i ddod ag enw’r Clwb i sylw’r cyhoedd, felly dyma gysylltu ag adran newyddion HTV a’r BBC i adrodd y stori wrthyn nhw. Fe eglurodd y cyfan wrth y darlledwyr – medde fe!
Yn anffodus, yn newyddion y teledu ag ar bapurau’r Echo a’r Western Mail, y pennawd a gafwyd oedd bod tîm Clwb Rygbi Cymry Caerdydd wedi dewis gadael pump chwaraewr ar ôl yn hytrach na dadlwytho’r bar oddi ar yr awyren. Llawer gwell stori, er nad yn gwbwl gywir o ran ffeithiau.
Glaniodd pawb yn ddiogel, gyda’r teithwyr cynta wedi mwynhau oriau lawer mewn bar yn y brifysgol tra’n aros am y pump arall i gyrraedd cyn mynd i’r cinio croesawu. Digon brawychus i sawl aelod o’r daith oedd gweld posteri o gwmpas y lle yn hysbysebu nid yn unig y gem yn erbyn Brest ar y prynhawn Sul, ac yn honni bod y tîm o Gaerdydd yn cynnwys Gareth Edwards, Barry John, Henry Cooper ac amrywiol enwogion di-gyswllt eraill, ond yn fwy ysgytwol fyth, yn hysbysebu cyngerdd i’w gynnal ar y Nos Sadwrn yn y Palais des Artes et Culture yn y ddinas, a’r prif ddiddanwyr fyddai’r Chanteurs de Rugbymen de Cardiff. Roedd angen codi rhywfaint o arian i’r clwb rygbi lleol i dalu am lwyfannu’r gemau a threfnu’r cludiant, felly dyma rhyw swyddog o glwb Brestois yn gofyn i Dewi a oedd y tîm yn medru canu.
Canu? Cwestiwn dwl! Wrth gwrs’u bod nhw, a nhwythe’n dod o Gymru!
Penderfynwyd cael ymarfer ar y bws yn ôl o Quimper ar ôl y gêm brynhawn Sadwrn. Ddim cweit yn nhraddodiad eisteddfodol ein cenedl, ond roeddem yn ffodus o gael Ian Edwards, newyddiadurwr a ddaeth yn ddiweddarach yn ben bandit ar dwrnament tennis Wimbledon, yn aelod o’r clwb. Ond yn bwysicach y diwrnod hwnnw oedd ei fedr eithriadol ar y piano, felly dyma Mr Cadeirydd, ym mherson Derek ‘Doc’ Jones ar feicroffon y bws i drefnu ein rhaglen, ac yna i ymarfer rhai o’r caneuon. Randall (Isaac), a oedd yn feistr cydnabyddedig ar y grefft o ddawns y glocsen, yn cytuno i wneud y ddawns a’i ysgwydd mewn rhwymyn, heb clocsie ar ei draed, ond yn gwisgo sgidie rygbi a sane coch. Canodd Doc Myfanwy yn deimladwy iawn, er iddo greu llinellau newydd i’r gân drwy anghofio’r gwreiddiol. Perswardiwyd y ddau gefnder Geraint Evans a Lyn Jones i ganu Gwahoddiad, ac fe lwyddodd Randall i wneud fersiwn pur wahanol ond creadigol o ddawns y glocsen, er gwaethaf ei ysgwydd boenus.
Annhebygol i neb yn y gynulleidfa deimlo iddyn nhw gael noson ddiwylliannol i’w chofio, ond rhywffordd neu’i gilydd, llwyddwyd i gynnal noson o ryw siâp, diolch i brofiadau’r nosweithiau difyr a gafwyd yn y Clive drwy’r tymhorau.
Ar y prynhawn Sul wynebodd y Clwb ei sialens nesaf o chwarae tîm y ddinas yn dilyn gêm beldroed tim y ddinas, oedd yn ail adran cynghrair genedlaethol Ffrainc ar y pryd, gyda torf anferth wel anferth i ni ta beth, o ryw bedair mil.
Roedd yn achlysur digon emosiynol i bob un ohonom oedd yn cynrychioli’r clwb, gan i John Richards – a enillodd ei gap fel maswr i dîm Iau Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd yn gynharach yn y tymor – wedi ‘benthyg’ set gyfan o grysau coch y Welsh Junior Union – a’r timau yn sefyll mewn rhes wrth i’r anthem gael ei chwarae cyn y gic gyntaf, gan taw yr un anthem o ran y gerddoriaeth, sydd gan Gymru a Llydaw. Roedd pob un o’r chwaraewyr yn teimlo yn dalach a chryfach a chyflymach wrth wisgo’r crysau coch a’r tair pluen arnynt.
Cafwyd croeso rhyfeddol yn y tair canolfan gyda derbyniadau ffurfiol yn aelodau seneddol Ffrainc a Maer y trefi gwahanol yn gadwynau a regalia yn estyn croeso i ni cyn pob gem. Enillwyd profiadau unigryw a fyddai’n parhau am hir yn y cof, a’r llu o atgofion yn rhai i’w trysori am byth, a’u hail hadrodd mewn aduniadau am ddegawdau lawer.
Mae’n werth nodi i un cardotyn digartref yn ninas Brest deimlo ei fod wedi cyrraedd y nefoedd gan i un o aelodau’r clwb ei wahodd i ymuno â ni yn y cinio mawreddog mewn bwyty crand iawn yn y ddinas ar y nos Sul. Nid oedd perchen y bwyty yn or-blês, ond roedd y wên ar wyneb y cardotyn yn werth y pryd o dafod a gafwyd gan y perchennog.
Ar gyfer ein gêm olaf ar y prynhawn Llun, taith bws i ddwyrain Llydaw, i dref Guincamp gyda’r tîm cynta yn herio St Brieuc a ddaeth rhan o’r ffordd i gwrdd â ni, ac yna i ddilyn, yr ail dîm yn chwarae tîm Gwuincamp. Braf oedd cofnodi taith lwyddiannus gan ennill pob gêm, a mawr fu’r dathlu y noson honno. Oriau man fore Mawrth oedd hi pan gyrhaeddwyd y llety yn Brest – ac yn ôl y sôn, collwyd un o’r teithwyr ar y siwrnau, wrth i’r bws aros am saib tŷ bach, a’r bws wedyn yn cadael un dyn bach ar ôl. Hen arferiad cas ar bob taith rygbi draddodiadol mae’n siwr.
Wedi’r problemau a wynebwyd gan y peilot ym maes awyr Rhws, atebwyd y broblem i gael pawb adre ar y dydd Mawrth canlynol. Cododd yr awyren o’r
maes awyr yn ninas Brest gydag hanner y tanwydd angenrheidiol i gyrraedd nol i Gaerdydd, gan lanio yn y maes awyr ar ynys Guernsey i godi digon o
danwydd i gael pawb adre. Profiad arall i aelodau’r clwb, ac ymweliad sydyn ag un o ynysoedd y sianel.
TAITH Y PASG CLWB RYGBI CYMRY CAERDYDD 1970
DYDD IAU 26 MAWRTH 1970:
LLEOLIAD: MAES AWYR Y RHŴS, CAERDYDD
AMSER: 1400
DAKOTA 33 CWMNI SOUTH WEST AVIATION
TEITHIO I: L’AERODROME DE GUIPAVAS, BREST, LLYDAW
GEMAU:
GWENER 27 MAWRTH 1600 Ail dim v Brestois
SADWRN: 28 MAWRTH 1500 Tîm cynta v QUIMPER/LORIENT
NOS SADWRN 28 MAWRTH : CYNGERDD :
PALAIS DES ARTES ET CULTURE, BREST
Les Chanteurs de rugbymen de Cardiff
SUL: 29 MAWRTH 1630. Tîm cynta v RUGBY-CLUB BRESTOIS
yn STADE MENEZ-PAUL
I ddilyn gêm bêl droed rhwng BREST a STADE RENNAIS yn ail
adran genedlaethol Ffrainc
2000 CINIO MAWREDDOG MEWNM BWYTY YNG NHANOL Y DDINAS
LLUN: 30 MAWRTH 1500 Tîm cynta v RUGBY-CLUB ST BRIEUC
Stade Municipal de Roudourou, Guincamp
1700 Ail dîm v RUGBY-CLUB GUINCAMP
Stade Municipal de Roudourou, Guincamp
MAWRTH 31 MAWRTH
GADAEL:1230 L’AERODROME DE GUIPAVAS, BREST
Via GUERNSEY
I GYRRAEDD: MAES AWYR Y RHŴS, CAERDYDD
CYRRAEDD : 1415