Taith Maes Gellinudd, Pontardawe
Mae aelodau Cymdeithas Edward Llwyd newydd gael eu taith gyntaf ar ôl cael mis o egwyl dros yr haf. Wel ia, mae hyd yn oed ein haelodau brwd yn cael sbel o ymlacio dros yr haf! Ond mae’n braf cael ein sgidiau cerdded yn ôl ar ein traed unwaith eto.
Roedd taith rhanbarth y De a’r Canolbarth yn ardal Gellinudd ger Pontardawe yma yn y De. Roedd hi’n ddiwrnod sych a braf, yn gynnes ond nid yn grasboeth ac ar ôl y dringo serth o’r pentref roedd golygfeydd godidog i ni eu mwynhau, a chael ein gwynt yn ôl ar yr un pryd. Roedd ein harweinydd Liz Jones wedi byw yn yr ardal trwy gydol ei hoes ac yn falch iawn i rannu ei gwybodaeth efo ni. Gwaith glo oedd fan hyn wrth gwrs ac fel bob hen ardal ddiwydiannol mae’n baradwys i gerddwyr a seiclwyr efo llawer o lwybrau yn dilyn rheilffyrdd a thramffyrdd ddoe.
Roedd dwsin ohonom yn cerdded ac mewn hanner awr roedden ni wedi cwblhau’r her gyntaf, sef plodio fyny llwybr igam-ogam er mwyn cyrraedd tir uchel. Dilyn llwybr tu cefn i dai efo gerddi mawr a diolch yn dawel nad ni oedd yn gorfod eu cadw nhw’n daclus. Cyrraedd Eglwys Cilybebyll ac roedd hi’n amser i ni gael ein picnic a dyna ni yn eistedd yn gyfforddus a pharchus ar wal y fynwent. Lle braidd yn ddiarffordd a dim ond sŵn yr adar yn canu oedd yn torri ar draws ein clebran. Roedd yr haul yn tywynnu a’r byd yn braf. Ond roedden i’n bell o’n ceir, felly ymlaen â ni ar lwybrau llawn mwyar duon. Dim amser i’w hel nhw ond mi wnaeth ’na ddigon gael eu bwyta i roi lliw ar ein tafodau. I lawr ar hyd lwybrau serth i ddyfnderoedd y coed ac ambell wyriad i ni weld olion gwaith a chwt ble roedd y powdr a’r tanwyr yn cael eu cadw. Roedd y cwt wedi cael ei adeiladu fel os oedd ffrwydrad yn digwydd bydddai popeth yn mynd trwy’r to ac nid trwy’r waliau.
Roedd inclein hir a serth yn mynd â ni allan o’r coed felly pennau i lawr ac un coes o flaen y llall tan i ni gyrraedd beth oedden ni’n ei feddwl oedd y pen. Ond wrth gwrs roedd pen arall. Dilyn lôn heibio hen dai teras a phob un efo hen greiriau o bell, bell yn ôl. Roedd fel bod y trigolion mewn cystadleuaeth.
Cyn bo hir roedden ni’n cerdded i lawr yr un llwybrau yr roedden ni wedi eu dringo yn y bore a dyna ni yn ôl wrth y ceir ac yn rhoi diolch i Liz am drefnu’r daith a’n tywys ni. A dyna beth sydd yn braf am y Gymdeithas, dyn ni’n dod i adnabod ardaloedd o Gymru bydden ni ddim wedi eu gweld a chael hanes newydd i’n haddysgu ni. Pishyn wrth bishyn mae’r darnau o’r jig-so yn dod at ei gilydd a dyn ni’n dysgu mwy ond fyddwn ni byth yn dysgu’r cwbl lot.
Dewch efo ni, mae ein rhaglen o deithiau ar ein gwefan www.cymdeithasedwardllwyd.cymru ac edrychwch o dan ‘Gweithgareddau’