Rhannu cynnwys cyfoes ar wefannau cymdeithasol yn Gymraeg

Llio Angharad Cymru

Cyfle i ysgogi pobl ifanc i rannu cynnwys cyfoes ar wefannau cymdeithasol yn Gymraeg

At ddarllenwyr Y Dinesydd: Dw i’n rhedeg gwefan blog Cymraeg (llioangharad.cymru) ac yn y flwyddyn newydd bydd y wefan yn cael ei hehangu i fod yn wefan cylchgrawn sy’n trafod ffasiwn, harddwch a materion cyfoes. Pwrpas y wefan ydy annog plant a phobl ifanc ledled Cymru i rannu cynnwys cyfoes ar wefannau cymdeithasol yn Gymraeg a’u cymell i dafod pynciau poblogaidd yn y Gymraeg gydag eraill. Mae’n hynod bwysig ein bod yn cyrraedd cynifer o bobl ag y bo modd o amgylch y wlad gan annog pawb, o bob oedran a gallu Cymraeg, i gymryd rhan. Felly, dw i’n chwilio am gyfranwyr i ysgrifennu erthyglau yn achlysurol. Nid yn unig hynny, ond dw i hefyd yn chwilio am unigolion i fod yn rhan o banel fydd yn cyfarfod yn achlysurol dros Skype neu mewn cyfarfod wyneb yn wyneb (bydd hyn yn cael ei drafod ymhen amser ac yn ddibynnol ar sawl un sy’n dangos diddordeb ym mhob ardal). Bwriad y panel ydy sicrhau bod pawb o bob cefndir yn cael cyfle i gynnig syniadau gwahanol ar gyfer y wefan, y cynnwys a mwy!

 

Oes diddordeb ‘da chi? Os felly, cysylltwch drwy ebostio contact@llioangharad.cymru neu ar y tudalen Facebook, facebook.com/llioffasiwn Diolch yn fawr! Llio Angharad