Croeso Arbennig:
Croeso mawr i 30 o ddisgyblion byrlymus y dosbarth Derbyn i Ysgol Pencae. Mae’n bleser eu gweld yn ymgartrefu yn hyderus yng nghymuned yr ysgol ac yn byrlymu wrth ddilyn y thema – Dyma fi! Hefyd, hoffem groesawu Miss Catrin Osborne sydd yn athrawes ym mlwyddyn 1 a Mrs Diana Dethridge sydd yn gweithio yn y Dosbarth Derbyn .
Drysau Agored:
Unwaith eto eleni, bu’r ysgol yn rhan o weithgareddau Drysau Agored pentref Llandaf. Roedd blwyddyn 4 wrth eu boddau yn braslunio’r ffenestri lliw yn y Gadeirlan a phleser oedd croesawu’r gymuned i’r ysgol am baned, cacen a chyngerdd er budd MacMillan. Codwyd to y neuadd gyda pherfformiad y Cyfnod Sylfaen o ganeuon hwyliog a Chyfnod Allweddol 2 yn canu detholiad o ganeuon ein sioe Haf – Llyfr y Jyngl.
Mewn Cymeriad – Sioe Hedd Wyn:
Daeth hanes yn fyw wrth i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 weld sioe am hanes Hedd Wyn. Cyfunwyd y llon a’r lleddf wrth i’r disgyblion gael eu swyno gan ddigrifwch barddoni ar y cyd ond hefyd eu cyflwyno i erchyllderau rhyfel. Dioch i Siôn Emyr am ei bortread arbennig o’r arwr rhyfel.
Pwll Mawr a Gweithdy Trydan Electro City:
Profiad unigryw i flwyddyn 6 oedd cael troedio dan ddaear wrth ymweld â Phwll Mawr. Bu’r disgyblion yn clywed am amodau gweithio y glowyr a chlywed am sut roedd plant yn cael eu defnyddio yn y pyllau glo. Cafodd blwyddyn 4 a 6 wefr yn creu dinas newydd sbon danlli o lego, eu her oedd i oleuo eu dinas gyda thrydan. Bu pawb yn llwyddiannus yn creu eu cylchedau trydan gan oleuo’r holl adeiladau.
Casia Wiliam:
Roedd croeso mawr yn disgwyl Casia Wiliam wrth iddi ymweld â blwyddyn 4 yn ei rôl fel Bardd Plant Cymru. Wrth gydweithio, bu’r disgyblion a Casia yn trin geiriau a llifodd yr awen er mwyn creu cerddi arbennig am Fwystfil Barus.