Awdur lleol yn lansio cyfrol arloesol

Mae cyfrol arloesol awdur o’r brifddinas yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Yr Awyr yn Troi’n Inc yw cyfrol ddiweddara Martin Huws sy’n 67 oed.

Dyma gasgliad o 30 o straeon byrion, y rhan fwya ohonyn nhw yn ‘un o brifddinasoedd mwya ifanc Ewrop.’ Ond trueiniaid bywyd, collwyr, anffodusion yw’r cymeriadau sy wedi eu clwyfo a’u cam-drin, yn diodde o salwch corfforol a meddyliol, heb wireddu eu potensial na’u huchelgais ac yn sigo dan bwysau unigrwydd.

Mae agwedd yr awdur atyn nhw’n onest, yn llawn empathi, yn ddisentiment. A’i arddull yn ffresh ac uniongyrchol.

Fe gafodd y gyfrol ganmoliaeth uchel yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn. ‘Dyma gyfrol fwyaf arloesol a dewr y gystadleuaeth, yn sicr,’ meddai Francesca Rhydderch. ‘Ai drama yw hi, neu ryddiaith, neu gerdd? … Roedd rheolaeth yr awdur ar ei gyfrwng yn absoliwt.’

Dywedodd Gerwyn Wiliams: ‘… roedd hi’n amlwg o’r cychwyn fod yma lenor a wyddai’n union yr hyn yr oedd yn ceisio’i wneud …Mae yna fydoedd wedi eu crynhoi i’r storïau hyn, neuaddau mawr rhwng cyfyng furiau.’ 

‘Mae rhywbeth prin i’w ganfod yn y gyfrol hon o straeon byr iawn,’ meddai Lleucu Roberts.  ‘Dotiais at y ffurf wahanol rywle rhwng stori fer, llên micro a drama, sy’n cynnig lefel ffres o gynildeb ac yn dibynnu’n bennaf ar ddeialogi … Mae eu brawddegau cwta a’u cynildeb ingol yn celu fflach o ddyfnder yn y “prin-ddweud” …’

Dywedodd Martin: ‘Mae ymateb y beirniaid wedi bod yn galonogol. Gobeithio y bydd y gyfrol yn apelio at y darllenydd cyffredin.

‘Y man cychwyn oedd gwylio rhaglen ar y teledu am unigrwydd, hynny yw pla ein cymdeithas ni.

‘Yn y gyfrol ‘wy wedi trial rhoi llais i’r rhai sy’n amal heb lais.’

Mae Martin wedi bod yn weithiwr dur, yn swyddog clerigol ac yn ofalwr shifft. Pan oedd yn newyddiadura ar y Western Mail, Y Byd ar Bedwar a Week In Week Out, enillodd wobrau Cymreig a Phrydeinig.

Mae’n nofelydd ac yn fardd cadeiriol a choronog. Y cyhoeddwr yw Gwasg Carreg Gwlach.