Grantiau gan Hanfod Cymru

Mae dwy elusen yng Nghaerdydd ac un o’r Barri ymhlith yr elusennau sydd wedi derbyn grant yn ail rownd grantiau bach Hanfod Cymru – yr elusen sy’n dosbarthu’r arian sy’n cael ei godi at achosion da gan Loteri Cymru. Mae Canolfan Deulu Gibbonsdown yn y Barri yn derbyn grant er mwyn ail-adeiladu tŷ bach twt y ganolfan, i’r plant sy’n mynychu gael chwarae ynddo, tra bod y Touch Trust yn Nghaerdydd wedi cael grant er mwyn cynnal prosiect creadigol ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu niferus. Mae Cymorth i Ferched Cymru, sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd ond yn gweithredu’n genedlaethol, yn derbyn grant i gynorthwyo gyda’u harddangosfa Deugain Mlynedd Deugain Llais i nodi 40 mlynedd ers sefydlu’r elusen.

Dywedodd Siôn Brynach, Prif Weithredwr Hanfod Cymru:
“Roedd aelodau Bwrdd Hanfod Cymru wedi eu synnu gan safon a nifer y ceisiadau a ddaeth i law yn yr ail rownd hon o geisiadau am grantiau bach, ac yn falch tu hwnt o fod wedi derbyn ceisiadau o bob rhan o Gymru. Yn wir roedd nifer y ceisiadau a ddaeth i law 20% yn uwch na’r rownd geisiadau flaenorol.

“Gwnaeth yr elusennau hyn yn wych felly i ddarbwyllo’r Bwrdd y dylid cefnogi’r cais oddi wrthynt am arian tuag at ehangu eu gweithgarwch yn y meysydd amrywiol y maent yn gweithredu ynddynt. 

“Mae’n galondid mawr bod yr arian a oedd ar gael i Hanfod Cymru ei ddosbarthu yn y rownd hon o grantiau bach bron ddwywaith yn uwch nac yn y rownd gyntaf o grantiau bach haf diwethaf, ond hoffai’r Bwrdd fod â mwy fyth o arian i’w ddosbarthu. Pe buasai Hanfod Cymru wedi ariannu’r holl geisiadau a dderbyniwyd yn y rownd hon, byddai’r cyfanswm dros £670,000 ond £50,000 oedd ar gael i’r Bwrdd ei ddosbarthu. Mae’r neges yn glir felly – os hoffech chi weld mwy o grantiau ar gael i elusennau yng Nghymru, yna prynu tocynnau wythnosol Loteri Cymru yw’r ateb.”

Hanfod Cymru yw’r elusen sy’n dosbarthu’r arian sy’n cael ei godi at achosion da gan Loteri Cymru. Mae lleiafswm o 20% o’r elw o gyfanswm gwerthiant tocynnau Loteri Cymru yn cael ei gyfeirio at achosion da yng Nghymru trwy’r elusen. Sefydlwyd Hanfod Cymru a Loteri Cymru ym mis Ebrill. Mae Hanfod Cymru yn elusen annibynnol gyda’i Bwrdd Ymddiriedolwyr ei hun, ac mae’n gweithredu’n annibynnol ar Loteri Cymru, sy’n goruchwylio’r loteri wythnosol.  

Mae Loteri Cymru yn cynnig gwobr wythnosol o £25,000, yn unol â’r uchafswm a ganiateir gan reolau’r gymdeithas loteri. Pris y tocynnau yw £1 yr un ac mae’n rhaid i enillwyr y jacpot gael pum rhif yr un fath o’r 39 rhif a dynnir. Mae gwobrau llai eraill hefyd ar gael am baru nifer llai o rifau.

Mae pob tocyn – heblaw tocyn sydd wedi ennill y jacpot – yn mynd i mewn i’r Loto+ yn rhad ac am ddim, a chael cyfle i ennill 10 gwobr sicr o £1000 bob mis. Mae rhagor o wybodaeth am Loteri Cymru i’w gael o ymweld â https://www.loteri.cymru/cy/wil/home/index.html

Bydd y ffenest nesaf ar gyfer ymgeisio am grantiau bach Hanfod Cymru yn agor tua diwedd Ionawr 2018. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gall elusennau wneud cais am grantiau Hanfod Cymru ar gael o ymweld â www.hanfodcymru.wales 

Siôn Brynach
Prif Weithredwr
Hanfod Cymru Cyf
Tec Marina,
Ffordd Terra Nova,
Penarth, CF64 1SA

e: sionbrynach@hanfodcymru.wales

w: www.hanfodcymru.wales

t: 029 2167 5406

f: www.facebook.com/HanfodCymru

twitter: @Hanfod_Cymru