CRONOLEG ADDYSG GYMRAEG YNG NGHAERDYDD ERS 1940
1940 – Ymgyrch (aflwyddiannus) i sefydlu Ysgol Gymraeg Caerdydd fel ysgol breifat. Bygwth bomiau yn ddigon i derfynnu’r ymgyrch am fod cymaint o blant Cymraeg wedi mynd fel faciwîs i’r wlad.
1943 – Agor Ysgol Fore Sadwrn yn Nhŷ’r Cymru ar gyfer plant bu’n enwog yn hwyrach yn cynnwys Rhodri Morgan a’i frawd hŷn Prys. Parhaodd yr Ysgol tan 1947.
1949 – Agor Ysgol Gymraeg Caerdydd gan y Cyngor mewn un ystafell yn Ysgol Sloper Road gyda 19 disgybl; prifathrawes Miss Enid Jones (hwyrach Mrs Enid Jones-Davies)
1954 – Symud yr Ysgol Gymraeg i adeilad ar wahan yn Highfields, Llandaf, a’i hail-enwi yn Ysgol Gymraeg Bryntaf am fod yr adeilad ar godiad o dir ar lan afon Taf.
Map gan Rhag > Linc
1972- Symud Bryntaf i hen adeilad Ysgol Uwchradd Fodern Viriamu Jones ar ganol ystad cyngor Mynachdy am fod yr adeilad yn Highfields wedi mynd yn rhy fach. Bu’r cyfnod ym Mynachdy yn un cythryblus am fod trigolion Mynachdy wedi gwrthwynebu dyfodiad y plant ‘estron’ Cymraeg a’u bysiau gan ddangos eu hagwedd trwy boeri ar y plant a thaflu cerrig at y bysiau. Serch hynny fe dyfodd Bryntaf yno o ysgol dwy ffrwd i ysgol tair ffrwd.
1975 – Symud Bryntaf am y trydydd tro i hen adeilad Ysgol Uwchradd y Merched, Caerdydd, yn y Rhodfa yn ymyl hen adeilad Coleg Prifysgol Caerdydd. Yno fe dyfodd Bryntaf yn ysgol pedair ffrwd oedran derbyn gyda phoblogaeth gyfan dros 600 disgybl, yr ysgol gynradd fwyaf yn Ewrop ar y pryd. O dan bwysau rhieni cytunodd y sir i rannu Bryntaf yn 4 ysgol newydd un ffrwd bob un yn y gorllewin, gogledd-orllewin, gogledd-ddwyrain a dwyrain.
1978 – Agor Ysgol Uwchradd Glantaf. Cyn 1962 dim ond addysg gynradd Gymraeg oedd ar gael i blant Caerdydd; wedi cyrraedd 11 mlwydd oed aeth plant Bryntaf i un o’r ysgolion uwchradd i gyd yn gyfrwng Saesneg. Yn 1962 agorwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydfelen gan awdurdod Sir Forgannwg a oedd yn fodlon derbyn plant o ddinas Caerdydd a hwythau yn fodlon peidio mynd i ysgol ramadeg Saesneg yn y ddinas i fentro ar addysg uwchradd Gymraeg mewn Ysgol Gyfun. Roedd llawer yn anfodlon gwneud yr aberth ar y dechrau ond fe dyfodd y galw ac yn 1974 agorodd Morgannwg ail Ysgol Gyfun Gymraeg yn Llanhari ac am 4 blynedd dyna ble roedd plant Caerdydd yn mynd, nes yn 1977 dywedodd y sir fod angen i’r ddinas wneud darpariaeth uwchradd Gymraeg tu fewn i’w ffiniau yn arwain at agor Ysgol Gyfun Glantaf ar gyfer 99 plentyn Medi 1978.
1980 – Symud chwarter plant Bryntaf i’r ferch ysgol gyntaf sef Melin Gruffydd yn Yr Eglwys Newydd gyda 7 dosbarth o blant.
1981- Cau Ysgol Bryntaf ac agor tair ferch Ysgol sef Coed-y-gof yn y gorllewin (Pentrebaen) a’r Wern yn y gogledd-ddwyrain(Llanisien) gan adael hanner ysgol yn yr hen adeilad dan yr enw Ysgol y Rhodfa i wasanaethu, yn bennaf, plant Pen-y-lan, Y Rhath a Sblot. Nid oedd addysg Gymraeg wedi tyfu bron dim ochr arall afon Rhymni yn Llanrymni a Thredelerch, lle nad oedd ysgolion meithrin yn bodoli. Yn y flwyddyn hon fe ddaeth 103 disgybl i mewn i ddosbarthiadau derbyn y 4 ysgol, gan arwain swyddog y sir Mr G O Pearce i ddweud nad oedd wir angen 4 ysgol gan y byddai’r nifer yn edwino’n ddigon buan yn sgil ddiffyg galw a ni fyddai cywasgu 103 disgybl i 90 lle yn ormod o boen er mwyn arbed gwastraffu arian ar y bedwaredd Ysgol.
1983 – Symud plant Y Rhodfa i hen ysgol dwy ffrwd Penybryn yn Nhredelerch ochr arall y Rhymni, ysgol hyfryd llawer rhy fawr i 130 plentyn bron i gyd yn byw ar ochr Caerdydd o’r afon ac yn llawer rhy bell i dderbyn plant o ardal y twf sef yn nalgylch Coed-y-gof i’r gorllewin o afon Taf. Doedd y sir (Mr G O Pearce) ddim yn meddwl ei fod yn afresymol i gyfeirio plentyn o Bontcanna â brawd hyn yn mynd i Goed-y-gof i fynd 6 milltir i Fro Eirwg (enw newydd Y Rhodfa) ar draws afonydd Taf a Rhymni. Nid oedd tad y plant, yr actor Dafydd Hywel, yn cytuno a dyma ddechrau brwydyr hir a chostus (i’r Cyngor Sir) trwy banel apêl, Uchel Lys (dwywaith – yng Nghaerdydd a Llundain) a nôl i banel apêl cyn cael chwarae teg a lle yng Nghoed-y-gof i Catrin Evans.
1986 – Nifer y ceisiadau ar gyfer 120 lle yn y 4 ysgol unffrwd wedi codi i 172. Erbyn hyn roedd Ysgol Bro Eirwg wedi tyfu yn answyddogol yn 2 ffrwd a phlant ardaloedd Y Rhath a Phenylan wedi cael cyd-deithwyr o Barc y Rhath a Chyncoed hefyd er eu bod yn llawer nes i adeilad Y Wern. Roedd plant Canton yn gwrthod ystyried ysgol ar wahan i Goed-y-gof a’r record am y nifer uchaf i’w derbyn yno lan i 38. Pwysodd y rhieni am ddarpariaeth ychwanegol naill ai trwy roi adeilad dwy ffrwd i Goed-y-gof neu trwy sefydlu ysgol arall. O’r diwedd yn y flwyddyn hon agorwyd ‘dosbarth rhydd’ mewn ystafell yn Ysgol Lansdowne Road, Canton i dderbyn hyd at 30 plentyn.
1987 – Agor Ysgol Treganna fel pumed Ysgol Gymraeg yn hen adeilad Ysgol babanod Radnor Road lle gwariwyd swm sylweddol ar addasu ail lawr yr hen Ysgol elfennol i alluogi plant iau a babanod fod yn gysurus mewn un adeilad. Ni wariwyd dimai ar yr Ysgol Gymraeg.
1990 – Agor Ysgol Pencae. Wedi i Ysgol Bryntaf ymadael â’i safle yn Highfields, defnyddiwyd y safle ar gyfer ysgol arbennig i blant annisgybledig. Penderfynnodd y sir symud yr Ysgol hon i safle arall a gwelodd swyddogion newydd yn y sir hwn yn gyfle rhy dda i’w golli i ychwanegu at ddarpariaeth addysg Gymraeg heb gythruddo unrhywun oedd yn teimlo perchnogaeth ar y safle. Wedi’r cyfan dyma oedd hen safle Ysgol Gymraeg. A felly daeth y safle yn ôl i ffurfio’r chweched Ysgol Gymraeg.
1992 – Glantaf yn cael ei ehangu ar safle hollt gyda’r ysgol iau (Bl 7,8 a 9) yn cael ei lleoli yn rhan o Ysgol Cantonian sef hen Ysgol Waterhall ym Mhentrebaen.
1993 – Roedd y galw am addysg Gymraeg yn tyfu o hyd gyda 305 o blant yn ceisio dechrau, codiad o 82 ers nifer 1990, yn creu argyfwng arall i’r sir. Roedd ymateb y sir yn driphlyg:
1 Ehangu Melin Gruffydd i dderbyn 45 y flwyddyn trwy adeiladu cabanau symudol.
2 Caniatau Bro Eirwg dros dro i dderbyn 90 yn lle 60.
3 Agor ‘dosbarth cychwynnol’ unwaith eto, y tro hwn yn rhan o hen adeilad Ysgol Uwchradd Howardian.
1995 – Prynwyd hen adeilad Ysgol Babyddol Sant Joseff i dderbyn y ddau ddosbarth yn Howardian a’r dosbarth oedd am ddechrau addysg Gymraeg ond erbyn hyn roedd angen mwy o leoedd eto ac wrth ragweld hyn roedd y sir wedi cynnig i lywodraethwyr Coed-y-gof a’r Wern iddynt dderbyn ffrwd ychwanegol yr un erbyn Medi 1995 gan addo codi adeiladau ychwanegol ar gyfer y plant ychwanegol. Dangoswyd cynlluniau’r adeiladau newydd i’r ddwy ysgol a hefyd i lywodraethwyr Pencae lle nad oedd ystafelloedd digonol ar gyfer un ffrwd. Yn anfoddog cydsyniodd y llywodraethwyr oedd yn cofio y bwystfil o ysgol fawr oedd Bryntaf yn y diwedd. Wedi derbyn eu cydsyniad dywedodd y sir (Llafur) bod toriadau gan y llywodraeth (Toriaidd) yn golygu nad oedd arian ganddynt i godi adeiladau newydd ar wahan i’r rhai ar gyfer Pencae a byddai plant y ddwy ysgol arall yn gorfod bodloni ar ‘portacabins’ a felly y bu am sawl blwyddyn.
1996 – Caerdydd yn dod yn Ddinas a Sir ac yn ennill pentrefi Gwaelod-y-garth, Pentyrch a’r Creigiau ar draul Taf-Elai. Gyda’r pentrefi fe ddaeth 2 ysgol lle roedd ffrydiau Cymraeg, y ffrydiau’n gyfartal yn y Creigiau ond y ffrwd Gymraeg y cryfaf o dipyn yng Ngwaelod-y-garth. Dyma’r seithfed Ysgol Gymraeg a’r wythfed yng Nghaerdydd. Yn yr un flwyddyn fe agorwyd dosbarth cychwynnol arall mewn cabanau ar dir Ysgol Uwchradd Fitzalan. Daeth hwn yn Ysgol rhif naw fel Pwll Coch ac am y tro cyntaf mewn adeilad newydd sbon.
1998 – Wedi helyntion blin agorwyd Ysgol Gyfun Plasmawr yn adeiladau Waterhall gyda Blynyddoedd 7,8,9 a 10 trwy drosglwyddo tair blynedd o blant yn y dalgylch newydd o Lantaf. Fel canlyniad roedd lle i Lantaf ar un safle lle oedd adeiladau newydd wedi’u codi o dan y cynllun ‘Popular Schools’. Yn yr un flwyddyn cafwyd cytundeb rhwng Dinas Caerdydd a Bwrdd yr Iaith (oedd wedi llyncu cyfrifoldebau’r Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg) i’r perwyl y byddai Cyngor Caerdydd yn agor 4 ysgol Gymraeg newydd yn ystod y 3 blynedd nesaf. Bu llawer o gyhoeddusrwydd i’r cytundeb oedd i fraenaru’r tir am bethau tebyg ledled Cymru. Ni weithredwyd y cynllun yn y brifddinas heb sôn am ei ehangu i weddill Cymru. Dim syndod wrth gofio pwy oedd y gwleidyddion yn creu’r cyhoeddusrwydd.
2000 – Sefydlu dosbarth rhydd i wasanaethu plant y Rhath a Phenylan wedi’i leoli yn Ysgol Albany Road (nad oedd yn groesawgar i’r gwcw hon). Cynnigodd y sir i’r plant gael hanner ysgol gynradd hanner gwag Llanedeyrn ond doedd dim croeso yno ychwaith a rhaid oedd i’r sir symud y plant i gasgliad o gabannau ar dir Ysgol Uwchradd Llanedeyrn. Yn y diwedd fe gafodd y sir ganiatâd anfoddog Jane Davidson (Gweinidog Addysg Cymru) i adeiladu ysgol newydd sbon ar dir Ysgol Gynradd Llanedeyrn oedd yn gorfod ildio tir o leiaf os nad adeiladau. (12 mlynedd yn hwyrach cauwyd Ysgol Uwchradd Llanedeyrn i wneud lle i Ysgol Eglwysig Sant Teilo a symudodd i drosglwyddo ei hadeilad i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern). Erbyn i adeilad newydd fod yn barod i’r Ysgol Gymraeg (a enwyd Y Berllan Deg) roedd cymaint o alw nes bod y sir yn gorfod ei throi yn Ysgol dwy ffrwd.
2004 – Cyngor Caerdydd yn newid o gyngor Llafur i gyngor Rhyddfrydol a benododd Chris Jones yn Brif Swyddog Ysgolion. Am y tro cyntaf roedd gan y ddinas brif swyddog yn gefnogol i addysg Gymraeg er nad oedd yn siarad Cymraeg. Roedd y newidiadau hyn yn dyngedfennol i addysg Gymraeg.
2005 – Agor Ysgol Glanmorfa yn Sblot. Roedd hyn yn ganlyniad i wahoddiad gan Ysgol Moorland (oedd mewn perygl o gau fel canlyniad i niferoedd yn disgyn) i Ysgol Gymraeg a rhannu ei hadeiladau sylweddol. Aeth y cynllun i agor ysgol newydd trwyddo yn ddi-wrthwynebiad.
2007- Roedd y galw am addysg Gymraeg wedi cynnyddu ers 2000 ar raddfa rhwng 8 a 10% ac erbyn hyn roedd twf o 10% yn golygu dros 40 o blant ychwanegol. Nid ar chwarae bach roedd delio â galw fel hyn. Chris Jones oedd y dyn i gwrdd â’r angen. Heb bwyso arbennig o gyfeiriad Rhieni dros Addysg Gymraeg fe ddaeth ymlaen â chynllun eang iawn, dim llai nac agor 4 egin Ysgol ar draws y ddinas. Defnyddiodd yr hen arf o agor dosbarth cychwynnol ond fe wnaeth yn sicr o ddefnyddio’r holl proses statudol i sicrhau bod pob dosbarth rhydd yn ysgol gofrestredig er heb safle parhaol. Golygodd hyn nad oedd modd cau’r un ohonynt heb fynd trwy’r holl rigwm o brosesau ar gyfer cau. ‘Future proofing’ ys dywed y Sais. Y pedwar oedd:
1 Tanyreos a agorwyd yn hen gartref Ysgol Gymraeg Caerdydd yn 1949 sef Ysgol Ninian Park, Sloper Road. Pwrpas Tanyreos oedd derbyn y gorlif o Ysgol Treganna oedd yn methu cyrraedd adeilad addas hyd nes y gellid ail-uno’r dau sefydliad mewn un adeilad (fel digwyddodd yn 2013) ac roedd Tanyreos yn llwyddiant mawr a phlant yn tyrru yno.
2 Agorwyd Nant Caerau yn Ysgol Holy Family dros y ffordd o Ysgol Coed-y-gof. Tyfodd hwn hefyd ond yn fwy ar ôl cyrraedd cartref parhaol mewn adeilad a oedd gynt yn Ysgol Babanod Caerau. Ers 5 mlynedd mae’r galw wedi bod yn uwch na’r darpariaeth ond o’r diwedd mae bwriad i’w ehangu’n ysgol dwy ffrwd erbyn 2022.
3 Agorwyd Penypil yn Ysgol Oakfield (Trowbridge) cyn symud i safle yn Heol Aberporth. Unwaith eto tyfodd y galw i fynd dros y ddarpariaeth er nid cynddrwg â sefyllfa Nant Caerau.
4 Agorwyd Penygroes ym Mhentwyn mewn enw’n unig yn 2007 am fod ond 2 wedi gwneud cais am le yno ond fe gadwyd yr ysgol mewn bodolaeth tan 2009 pryd roedd digon o blant i gyfiawnhau agor. Yn anffodus nid yw’r nifer am gael mynediad erioed wedi mynd dros hanner y lleoedd sydd ar gael ond fe fydd llawer o dai newydd yn cael eu codi nepell i ffwrdd ac yn bur debyg bydd galw o’r cyfeiriad hwn cyn bo hir.
2009 – Unwaith eto ar wahoddiad Ysgol Saesneg fe agorwyd Ysgol Glan Ceubal am fod ysgolion o gwmpas i raddau yn llenwi sef Pencae, Melin Gruffydd a Mynydd Bychan. Araf fu twf yr Ysgol hon ond eleni mae’r galw wedi codi fel bod un plentyn wedi methu yn ei gais am le.
2005/2013 – Cyfnod hanes cythryblus iawn dwy Ysgol Gymraeg, sef Treganna a Melin Gruffydd.
A – Treganna. Nid yw gofod ddim yn caniatau cofnodi holl hanes yr 8 mlynedd o frwydrau parthed Treganna – byddai eisiau llyfr i gynnwys pob stori. Roedd hen Ysgol babanod Radnor Road yn llawer rhy fach i blant Treganna. Doedd dim neuadd na champfa yno ac roedd cyfarfodydd yn digwydd mewn corridor ychydig yn lletach na’r arferol. Awgrymwyd sawl gynllun i ddatrys y broblem o ddiffyg lle:
1 Rhannu plant Radnor rhwng y 2 ysgol arall yn yr ardal sef Lansdowne a Severn a rhoi’r Ysgol i’r Ysgol Gymraeg. Byddai’r 2 ysgol yn ddigonol i dderbyn holl blant Canton (ond nid y plant o Drelai oedd am ffoi o’r ysgolion yno). Gwrthwyneboedd rhieni Radnor yn ffyrnig y syniad o gau’r Ysgol yn bell dros 100 mlwydd oed i blant lleol, er bod plant yr Ysgol Gymraeg yr un mor lleol. Ildiodd y Cyngor a symud i
2 Rhannu plant Lansdowne rhwng Radnor a Severn ac anfon y plant â chartrefi yn Nhrelai (tua hanner y cyfanswm) nôl i ysgolion Trelai, a rhoi ysgol Lansdowne i’r Ysgol Gymraeg. Gwrthwynebodd y rhieni yn ffyrnig gyda’r ddadl ychwanegol fod llawer o’r plant o gefndir ethnig lleiafrifol a felly roedd y cynllun yn ‘ethnic cleansing’. Daeth y cynllun mor ddadleuol nes i’r Prif Weinidog gymryd y penderfyniad allan o ddwylo’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews i ddelio â’r mater ei hunan. Arweiniodd hyn at
3 Adeiladu adeilad newydd sbon ar gyfer 3 ffrwd (ond tu faes i ddalgylch yr Ysgol oedd rhaid ei newid mewn dull ‘gerrymander’ America) a’r Llywodraeth yn ffeindio’r arian i dalu cyfran helaeth o’r gost ychwanegol. Wedi 8 mlynedd o frwydro cas symudodd y plant i adeilad ysblennydd yn 2013 gyda lle i 90 plentyn y flwyddyn. Yn 2016 roedd 124 cais am le ac eleni 103.
B – Melin Gruffydd. Erbyn 2006 rhaid oedd helaethu mynediad yma o 45 i 60 yn wyneb y galw er nad oedd ond cabannau annerbyniol ar gael i lawer o’r plant. Roedd Chris Jones yn derbyn bod angen ad-drefnu addysg yn Yr Eglwys Newydd am fod y galw tua hanner am addysg Saesneg a hanner am addysg Gymraeg er bod 2 ysgol Saesneg (Eglwys Newydd ac Eglwys Wen) ac un Ysgol Gymraeg oedd yn rhannu safle gydag Eglwys Wen. Cynnigodd 4 cynllun ond nid oedd yr un yn bodloni mwyafrif unrhyw grwp o rieni oedd yn gyntachlyd beth bynnag eu hiaith. Yn y diwedd argymellodd Chris Jones gyda chefnogaeth RhAG ond nid y rhieni lleol i gyd y cynllun a fabwysiadwyd gan y cyngor sef i gael un Ysgol Saesneg 2.5 ffrwd mewn adeilad newydd ar safle unedig Eglwys Wen/Melin Gruffydd ac un Ysgol Gymraeg 2 ffrwd yn hen adeilad Yr Eglwys Newydd ag ychwanegiadau o adeiladau newydd. Heriodd y rhieni Saesneg benderfyniad y Cyngor trwy arolwg barnwrol ond collasant a chostau i’r sir. Symudodd Melin Gruffydd i’r safle newydd hyfryd a mae crintach y rhieni Cymraeg wedi peidio. Mae’r galw am le yn rheolaidd yn fwy na’r nifer sydd ar gael.
2011 – Ehangodd y sir Pwll Coch i 3 ffrwd fel ymateb i argyfwng. Derbyniodd Chris Jones nad oedd Treganna (hyd yn oed wedi’i helaethu) a Phwll Coch yn ddigon i ddiwallu’r galw yn y Pedwar Ward (sef Treganna, Glanyrafon sy’n cynnwys Pontcanna, Grangetown a Bae Caerdydd (gynt y Dociau)) a felly cytunodd i gynnwys cais am ysgol 2 ffrwd i’w leoli yn Grangetown o dan cynllun y Llywodraeth ‘21st Century Schools’. Felly y cynllun oedd i ddarparu 7 ffrwd ar gyfer y Pedwar Ward.
2012 – Helaethwyd Ysgol Y Wern i dderbyn 2.5 ffrwd. Roedd hyn yn bosibl wedi cau o’r diwedd Ysgol Saesneg Cefn Onn gan ryddhau ei hadeilad helaeth at ddefnydd Y Wern. Ysgol llawer mwy yn byw i raddau helaeth mewn cabanau symudol. Yn yr un flwyddyn agorwyd trydedd Ysgol uwchradd Cymraeg sef Ysgol Gyfun Bro Edern ar gyfer dwyrain Caerdydd. Roedd yr Ysgol i agor yn hen adeilad Ysgol Eglwys Sant Teilo oedd eisiau adeilad mwy a felly wedi cael adeilad Ysgol Uwchradd Llanedeyrn ag estyniadau. Roedd nifer y plant yn Llanedeyrn wedi edwino a’r Ysgol ddim yn llwyddo, a felly penderfynnodd y cyngor ei chau. Erbyn Medi 2012 penderfynnodd pennaeth Sant Teilo nad oedd yr adeilad newydd yn barod ac ar fyr rybudd gwrthododd symud i wneud lle i’r Ysgol Gymraeg. Rhaid oedd i honno letya mewn cabanau ar iard Glantaf am flwyddyn cyn symud mewn i’r adeilad parhaol yn 2013 lle mae’n ffynnu.
2013 – Daeth Llafur yn ôl i reoli Caerdydd ac ar unwaith fe wnaethpwyd cais i ddileu’r cynllun Ysgol Gymraeg i Grangetown. Er tegwch fe wrthododd y Gweinidog Addysg (Llafur) gais Gaerdydd i drosglwyddo’r arian ar gyfer Ysgol Gymraeg i Grangetown i Ysgol Saesneg yno. Fe drefnodd RhAG i benderfyniad y sir fynd gerbron Pwyllgor Craffu Addysg Caerdydd ac yno dan groesholi gan gynghorydd Rhyddfrydol fe ofynodd y Cyng. Julia Magill, deilydd portffolio addysg, am ohirio’r achos am ysbaid ac wedyn daeth yn ôl i ddweud y byddai’r cynllun i beidio mynd ymlaen â sefydlu Ysgol newydd yn cael ei ail-ystyried. Yn y diwedd fe ail-gydiodd y cyngor yng nghynllun y Rhyddfrydwyr.
2016 – Agorwyd yr Ysgol newydd o dan yr enw Hamadryad dros dro yn Ysgol Ninian Park (y drydedd Ysgol Gymraeg i ddechrau ei gyrfa yno) ond erbyn hyn mae adeilad newydd sbon yn y broses o gael ei adeiladu ar darn o dir lle roedd gynt Ysbyty Hamadryad ar gyfer morwyr yn cyrraedd Caerdydd o wledydd pell. Dyma ysgol gynradd rhif 17 yn y brifddinas. Yn yr un flwyddyn ychwanegwyd ail ffrwd at Ysgol Glanmorfa yn Sblot wedi cyfnod o 5 mlynedd o geisiadau uwch na’r darpariaeth. Mae Glanmorfa yn cael copi o Ysgol Hamadryad yn mynd lan ar safle newydd ond yn y cyfamser mae cabanau symudol ar iard yr hen Ysgol.
2018 – Cyhoeddwyd cynllun ar gyfer ehangu dwy Ysgol i ddwy ffrwd yr un sef Nant Caerau a Penypil. Nid oes gwybodaeth am sut y gweithredir y cynlluniau ond mae llywodraethwyr Nant Caerau wedi cael addewid y bydd yr ehangu yn digwydd yn 2022. Mae Cynllun Strategol Addysg Gymraeg 2017/20 wedi’i ddiwygio dan pwysau o gyfeiriad Eluned Morgan (cynyrch addysg Gymraeg) yn cynnwys addewid i ddechrau paratoi tuag at helaethu’r darpariaeth yn y sector uwchradd lle mae’r tair Ysgol rhyngddynt yn gallu derbyn 20 ffrwd sef 600 plentyn, nifer fydd yn ychydig yn rhy fach yn 2019 pryd bydd yn rhesymol i ddisgwyl tua 615 yn ceisio lle.
Felly erbyn dechrau’r flwyddyn ysgol 2018/9 y cyfanswm o ffrydiau cynradd Cymraeg ar gael fydd 30 sef lle i 900 tu mewn i 17 ysgol ond bydd dros 100 lle gwag yn bennaf yn y 2 ysgol newydd sy”n cael eu helaethu a heb feddiannu’r adeiladau newydd eto ond hefyd yn Ysgol Penygroes lle dyw twf ddim yn digwydd. Yn y tair ysgol uwchradd bydd ond ychydig o’r 600 lle yn y dosbarthiadau blwyddyn 7 yn wag. Mae hyn yn sefyllfa bur wahanol i’r un 70 mlynedd yn ôl pryd roedd blwyddyn i fynd cyn bod 19 arloeswr yn dechrau addysg Gymraeg mewn un dosbarth tu mewn i Ysgol Saesneg heb lwybr pellach yn agored i addysg uwchradd Gymraeg.
Yn anffodus ynglyn â derbyn plant newydd i’r system yr uchafrif a gyrhaeddwyd oedd ar gyfer Medi 2016 pryd 747 oedd nifer y disgyblion newydd i gael lle yn y cyfanswm o 17 ysgol gynradd Gymraeg gyda 28 ffrwd rhyngddynt yn cynnig cyfanswm o 840 lle. Roedd y ffigwr o 747 yn dilyn twf cyson ers 2000 ar raddfa o 5/6% ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd.
Sioc a siom felly oedd cael cyfanswm o 718 yn cael mynediad ym Medi 2017, nifer yn llai na’r cyfanswm ar y rownd cyntaf yn Ebrill o 727. Ein profiad dros y blynyddoedd oedd gweld ychwanegiad at cyfanswm y rownd cyntaf erbyn mis Medi ond yn 2017 gwelwyd lleihad yn y nifer. Ers 1949 mae blwyddyn wedi bod heb dwf ond 2017 oedd y flwyddyn gyntaf o dderbyn llai na’r flwyddyn flaenorol. Y drwg oedd bod y lleoedd gwag ar y cyfan mewn ysgolion yn ne’r ddinas tra roedd 4 ysgol â’u dalgylchoedd yn ffinio (Melin Gruffydd, Pencae, Mynydd Bychan a’r Wern) lle gwrthodwyd cyfanswm o 67 cais am fod yr ysgolion yn llawn. Yn anffodus ond yn rhesymol nid oedd y rhieni yn fodlon ceisio’r lleoedd ar gael ochr arall y ddinas.
Eleni ar y rownd cyntaf 714 sydd wedi cael lle o’r 780 cais. Hyd yn hyn nid yw’r sir wedi rhyddhau gwybodaeth am y nifer i gael lle yn yr ail rownd a nid ydym yn gwybod os ydy’r sefyllfa yn un o ail ddechrau twf neu barhau i leihau. Mae Ysgol arall wedi’i hychwanegu at y bloc sy’n orlawn sef Glan Ceubal. Mae nifer y gwrthodedig yn y 5 ysgol yn gyfanswm o 38 eleni. Mae RhAG yn pwyso ar y sir i ychwanegu un ffrwd o leiaf at y darpariaeth yn y 5 ysgol lle mae 8 ffrwd ar hyn o bryd sy’n gais rhesymol yn wyneb y ffaith bod lle gwag ar gael mewn mwy nac un ysgol cyfrwng Saesneg yn yr ardal.
Michael Jones, Mehefin 2018