Mae’r Urdd yn lansio ymgyrch newydd i sicrhau bod rhai o blant a phobl ifanc mwyaf difreintiedig Cymru yn medru mynychu Gwersyll Gwyliau Haf yn 2019.
Fel rhan o gynllun ‘Cyfle i bawb – Cronfa Gwersyll Haf yr Urdd’, mae’r mudiad yn chwilio am unigolion i noddi gwyliau i blant yn ystod gwyliau haf 2019. Bydd y nawdd o £160 yr un yn ariannu lle cyflawn i blentyn ar gwrs 5-diwrnod yn unai Gwersyll Llangrannog yng Ngheredigion, Gwersyll Glan-llyn ger y Bala neu Wersyll Caerdydd.
Nod parhaus yr Urdd yw bod yn fudiad cynhwysol i holl blant Cymru a bydd y gronfa yma yn gam i wireddu’r nod hwnnw. Bu’r Ysgrifennydd dros Addysg Kirsty Williams AC, eisoes yn trafod datblygiad y Gwersylloedd gyda’r Urdd ac mae’n gefnogol iawn o gynllun “Cyfle i Bawb”.
Gan groesawu’r gronfa dywed Kirsty Williams:
“Mae nifer ohonom a atgofion mor hapus o wyliau haf boed hynny yng Nglan-llyn , Llangrannog neu ganolfannau eraill. Yn aml, dyma brofiad cyntaf plentyn o annibyniaeth, o gymryd cyfrifoldeb ac i gwrdd a ffrindiau newydd a chodi hyder.
“ Mae ymchwil hefyd yn dangos y gall profiadau fel hyn gael effaith bositif ar ddyheadau a chyrhaeddiad. Dylai bob un plentyn, be bynnag eu sefyllfa ariannol gael profi gwefr a mwynhad gwyliau haf ac rwy’n falch iawn o weld yr Urdd yn ceisio sicrhau fod plant o gefndir difreintiedig yn gallu cael y r’un cyfle a mwynhad.
Bydd y gronfa yn cael ei lansio yn swyddogol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd, 4-11 Awst gyda’r gronfa yn agor yn 2019 er mwyn i ysgolion neu rieni wneud cais am le ar ran plentyn.
Ers eu sefydlu yn 1930au, mae Gwersylloedd Haf yr Urdd wedi cynnig gwyliau llawn hwyl, gweithgareddau awyr agored a chyfle i wneud cyfeillion newydd i blant o bob cwr o Gymru .Gyda ystadegau’n dangos bod 29% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, cred yr Urdd fod hi’n bwysig cynnig cyfle i bawb gael manteisio ar brofiadau ei gwersylloedd.
Mae’r gronfa eisoes wedi derbyn cefnogaeth y cwmni cyfryngau, Tinopolis, fel noddwr corfforaethol. Dywedodd Angharad Mair, Cyfarwyddwr Gweithredol y cwmni,
“Fel cwmni sydd wedi ei leoli yn Llanelli, un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi’r cynllun gwych yma. Mae sicrhau bod plant na fyddent yn elwa yn yr un ffordd oherwydd amgylchiadau ariannol y tu hwnt i’w rheolaeth, yn gallu derbyn profiadau tebyg a hynny drwy’r iaith Gymraeg yn bwysig tu hwnt.”
Dywed Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd,
“Mae’r Urdd yn cynnig ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau gwych ar gyfer plant a phobl ifanc drwy gydol y flwyddyn ac mae mynychu Gwersyll Haf yn un o’r profiadau mwyaf unigryw i’r Urdd. Dyma pam rydym ni wedi bod yn chwilio am ddulliau arloesol i sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli cyfle.
Rydw i’n siŵr bod gan nifer o gefnogwyr a chyn-aelodau’r Urdd atgofion melys am eu hafau yn y Gwersyll felly mae hyn yn gyfle gwych i sicrhau bod plant heddiw yn cael yr un profiadau a thrwy hynny yn gadael etifeddiaeth ar gyfer y dyfodol.”