Llythyr at y Dinesydd

Ebrill 2015

Llythyr at y Dinesydd
Annwyl Olygydd
Diddorol i mi oedd gweld yr enw Beriah Gwynfe Evans yn Nigwyddiadur (Mawrth) Y DINESYDD, sef enw cyfarwydd yn ein teulu.  Felly, dyma rhai nodiadau, gyda gwahoddiad i chi eu cyhoeddi yn Y DINESYDD.
“BERIAH GWYNFE EVANS 1848-1927:  Ysgol Feistr i’m Tadcu a’m Mamgu yn Gwynfe, Sir Gar.
Yr oedd Beriah Gwynfe Evans yn berson amlwg i deulu fy Nhad (John Thomas 1894-1978), gan i’w Dad a’i Fam, John Thomas 1870-1943 a Margaret ne Williams 1868-1952 fod yn ddisgyblion iddo yn Ysgol Brydeinig Gwynfe yn saithdegau ac wythdegau y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ganed Beriah yn Nantyglo yn fab i’r Parch Evan Evans (Nantyglo) a’i ganed yn Llangeitho, Sir Aberteifi.  Penodwyd Beriah yn Ysgolfeistr Ysgol Brydeinig Gwynfe yn 1867, ac yntau ond yn 18 oed, a thrwy hynny fe’i adnabuwyd yn “Beriah Gwynfe Evans”.  Bu’n Ysgolfeistr yn Gwynfe o1867 hyd 1882 cyn symud i Llangadog lle y bu yn Ysgolfeistr hyd 1887, ac oddi yno i fod yn newyddiadurwr.
Yn ôl fy Nhad priododd Beriah a chwaer “Wncwl John Thomas y Neuadd”, a felly’n ei gydnabod fel un o’r teulu gan i ail wraig Wncwl John Thomas y Neuadd, sef Anne Williams 1859-1925 fod yn chwaer i’w fam Margaret nee Williams 1868-1952 (eu tad, David Williams 1832-1904 yn gefnder i’r Barwnig Syr John Williams 1840-1926, sylfaenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth)  .
Yr oedd Beriah yn berson poblogaidd yn Gwynfe, ac yn cyfrannu’n ariannol at yr Ysgol Brydeinig.  Yn 1869 cyfrannodd Beriah hanner gini tuag at gronfa’r Ysgol, sef yr un faint a Gweinidog yr Annibynnwr (Y Parchedig William Thomas Awdur Emyn 86 Caneuon Ffydd) ac Offeiriad yr Eglwys, i gymharu â’r sylltau, dau sylltau neu choron a hanner sofren gan y bobl gyffredin, ar wahân i’r saith cefnog a gyfrannodd rhwng punt a deg swllt ar hugain, rhain o’r 118 a gyfrannodd tuag at y cyfanswm o tua £40.
Ymhlith y llyfrau ar silffoedd ein teulu oedd y llyfr hyddysg “Diwygwyr Cymru” a gyhoeddwyd gan Beriah mewn printiad o 20,000 pan yn Gaernarfon yn 1900.  Gwnaethpwyd hyn drwy gyfraniadau 62 o Warantwyr yn gyfrifol am 2,746 o gopïau, a thanysgrifwyr drwy gapeli ar draws siroedd Cymru yn gyfrifol am tua 15,000, gan gynnwys 360 copi o Lloegr, ac ychydig dros 300 gan gapeli ac unigolion Caerdydd.  Cyfrol o 344 tudalen yw hwn a werthwyd am bedwar swllt ar y pryd; ond efallai heddiw am gymaint â deg punt os llwyddwch ddod ar draws gopi heddiw!  Llawer o’r print yn rhy fan i mi ei ddarllen pan yn ifanc, ond llwyddais ei ddarllen o glawr i glawr wedi ymddeol, a’i gael yn dra diddorol.
Olynydd Beriah Gwynfe Evans yn Ysgolfeistr Ysgol Gwynfe o 1882 hyd 1909 oedd John Williams 1863-1933, brodor o Gwynfe a briododd Elizabeth Williams 1866-1941, sef cyfneithder Margaret nee Williams 1868-1952 (mam fy Nhad).  Fel mater o ddiddordeb yr oedd JW ac EW yn Dadcu a Mamgu I Anest, a’r diweddar Urien ac Aled Rhys Wiliam.”
Mae darn amdanaf yn yr “International WHO’s WHO” , ac yn Debrett’s People of Today.
Gobeithiaf bod hyn o ddefnydd i chi at Y DINESYDD.
Cofion Cynnes i Bawb ac yn arbennig i GR ar gyrraedd y Pedwar Ugain.

Yr Athro J D R Thomas, DSc, Gresford, Wrecsam

Gwefannau .cymru .wales

Gwefannau .cymru .wales

Wrth i wefannau cyntaf gyda chyfeiriad .cymru a .wales gael eu lansio, mae Ieuan Evans, Cadeirydd Grŵp Cynghori .cymru .wales, yn esbonio hanes y prosiect hyd yn hyn a’r camau nesaf yn natblygiad parthau newydd Cymru.
Tan yn ddiweddar, nid oedd busnesau a defnyddwyr Cymraeg yn gallu  defnyddio    cyfeiriadau Cymraeg ar y we. Rydym i gyd wedi hen arfer gyda .com, .org a .co.uk, ond mae’r rhestr enwau “ar ôl y dot” yn prysur ehangu. Er Tachwedd 3 mae  busnesau Cymreig gyda’r cyfle i gofrestru eu henwau busnes ac ar ôl  Rhagfyr 29  bydd unrhywun yn gallu cymryd rhan mewn ocsiwn i brynu’r enwau Cymraeg mwyaf poblogaidd. Yna ar Fawrth y cyntaf 2015, bydd unrhywun yn gallu gwneud cais am gyfeiriad  gwefan neu e-bost eu hunain sy’n diweddu gyda .cymru a .wales ar sail y cyntaf i’r felin.

Rwyf wedi cefnogi’r prosiect i greu lle cwbl Gymreig ar y we ers sawl blwyddyn ac ynghyd ag eraill, rwy’n rhan o’r grŵp sy’n cydlynu  cyfeiriadau  newydd ar y we.
Rydym yn cyfeirio atynt fel ein cartref newydd ar-lein. Dyma le i’r gymuned Gymreig, neu unrhyw un sydd eisiau defnyddio’r farchnad Gymreig a chefnogi’r iaith Gymraeg ar-lein, a dangos eu bod yn rhan o rywbeth arbennig – .cymru a .wales. Mae’r prosiect wedi’i gydlynu yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru gyda chefnogaeth dechnegol a gweithredol Nominet, sy’n gofalu am .co.uk, a hynny oll gyda’r amcan i Gymreigio’r we.

Mae nifer y sefydliadau yng Nghymru sy’n bwriadu newid i’r parthau’n  parhau i gynyddu. Gall busnesau Cymreig ddechrau’r broses gofrestru i gael enw .cymru a .wales, ac ar ôl Dydd Gŵyl Dewi 2015, bydd y parthau ar gael yn gyffredinol i unigolion.
Er mwyn bod yn rhan, cofrestru eich diddordeb neu i ddarganfod mwy, ewch draw i http://eincartrefarlein.cymru

Llythyrau at y Golygydd

 

Annwyl Olygydd

Cefais y deyrnged i’r diweddar Havard Gregory yn ddiddorol, ac yntau’n ffrind da i mi, a’i briod Rhiannon yn ferch i Jennie (neu Jeanie Lyn) o Riwfawr ac yn ffrind i’m diweddar fam, Betty Thomas (nee Watkins).  Havard a ofalodd am westai y deuthum ar ei draws ar noson pan oeddwn yn darlithio i Glwb Cinio Caerdydd tua 1990.  Roedd fy ngwestai yn Eidalwr ac yn hoffi ei win – a Havard yn cael ei syfrdanu wrth i Pino (Joseph oedd ei enw iawn) ofyn am fwy o win!.

Beth bynnag, yr hyn yr oeddwn yn golygu sôn amdano oedd, y cysylltiad rhwng Havard Gregory a W T Havard (Esgob Llanelwy ac yna Tyddewi).  Tarodd hyn arnaf drwy ddarllen y deyrnged gan i un o deulu Mam fod yn rhyw fath o berthyanas i’r Esgob Havard.  Roedd chwaer fy mamgu, Magdalen Watkins (nee Jones, 1867-1937, Dderi Isaf, Rhiwfawr), a aned yn Y Betting, Gwrhyd, Rhiwfawr, yn briod â thad cefnder i’m mam, Rhys Hopkins (18??-; ar ôl 1950, Cilmaen. Llanddeusant).  Nid wyf yn siŵr o enw tad Rhys ond efallai mai Rhys yr oedd yntau hefyd.  Ei briod fuasai Elizabeth Hopkins nee Jones (Anti Lisa i’m mam) a aned ar 14 Awst 1965. (Nid oes cof gennyf amdani, ond cofiaf am ei mab Rhys Hopkins, Cilmaen.)

Mae nodyn gennyf yn hanes achau fy mam, sef

JDR’s mother BETTY 1903-1986 had a note re Cilmaen connection with Bishop Havard that read: DAVID JOHN, Cilmaen died early 1975, and with an address: ‘Mrs HAVARD, Pantddaulwyn Isaf. Llangunnor, CARMARTHEN

Cewch roi’r manylion hyn i Rhiannon Gregory gan efallai bod diddordeb ganddi (cofiaf am Rhiannon ond nid oes cof gennyf ei chwrdd – efallai iddi gwrdd â fy mam y ei chartref yn 2 Ennerdale Close, Lady Mary Estate, Caerdydd ar ôl iddynt ymddeol.  Yr oedd mam Rhiannon yn byw yn Ninian Road.

Cofion Cynnes

JDR  Thomas (Ron neu Ronald)

Ambell atgof am y cylchgrawn Y GWYDDONYDD

Mehefin 2014

Ambell atgof am y cylchgrawn Y GWYDDONYDD

Cofiaf yn dda am y bore dros hanner can mlynedd yn ôl – yn 1963 – pan fu  i’r Dr Glyn O Phillips fy nal ger y goleuadau traffig ar groesffordd Llyfrgell Cathays, Caerdydd.  Roedd Glyn ar gychwyn Y Gwyddonydd ac fel golygydd wrthi’n casglu deunydd.  Ei neges y bore hwnnw oedd gofyn a fuaswn yn barod rhoi nodyn i’r Gwyddonydd am fy ymchwil yng Ngholeg Technoleg Uwchradd Cymru (Welsh CAT, sef rhagflaenydd UWIST) ar fawn Mynydd Du Sir Gaerfyrddin.  Ymatebais i’w gais a bu i’m cyfraniad ar “Cyfansoddiad Cemegol Mawn a’i Fitwmen” ymddangos yng nghyfrol cyntaf Y Gwyddonydd (tudalennau 128-129).  Dilynwyd hyn gan erthygl gynhwysfawr gennyf ar “Ystyriaeth Gemegol ar Fawn” yn ail gyfrol Y Gwyddonydd yn 1964 (tudalennau 95-97).

Ym 1972/3 cyhoeddodd Y Gwyddonydd  erthygl gennyf innau a’m merch Gaenor (Taffinder nawr) ar Theophilus Redwood, sef arlywydd cyntaf Cymdeithas y Dadansoddwyr Swyddogol (Society of Public Analysts) a sefydlwyd yn 1874.  Ganed Theophilus Redwood ynOrchard House, Trebwfer, ger Llanilltud Fawr, ac ar ôl prentisaeth fferyllyddol yng Nghaerdydd bu’n amlwg ei wasanaeth i’r Gymdeithas Fferylliaeth a’r Gymdeithas Gemegol yn Llundain.  Mae bedd Theophilus Redwood 1806-1892 i’r gogledd o Eglwys Llanilltud Fawr.  Cyfrannodd perthnasau Theophilus Redwood i wyddoniaeth a feddygaeth, drwy ei fab (Syr) Thomas Boverton Redwood, a’i frawd Thomas Redwood.

Ym 1978 aeth Aubrey Trotman-Dickenson (Prifathro UWIST) ati i enwi adeiladau UWIST er clod i deuluoedd o Gymru (yn hytrach nag unigolion); fel Bute am y Prif Adeilad ym Mharc Cathays a Guest ac Aberconway am adeiladau ger Colum Road.  Gwaith hawdd i mi mewn llythyr at swyddogion UWIST ar 18 Rhagfyr 1978 oedd awgrymu y dylid enwi’r adeilad newydd ym Mharc Cathays ar Rodfa Edward VII (a adeiladwyd yn 1960) yn “Adeilad Redwood” er clod i’r teulu Redwood.  Yr adrannau UWIST a oedd yn yr adeiliad ar y pryd oedd Bioleg, Cemeg a’r Ysgol Fferylliaeth. Derbyniwyd fy awgrymiad, a bu’n fraint i mi glywed hynny pan oeddwn ar Gyngor UWIST ym 1979 pan gafodd yr enw dwyieithog “Adeilad Redwood Building” ei fabwysiadu fel enw parhaol ar yr adeilad.  Erys yr enw gan Brifysgol Caerdydd.  Gan i’m herthygl yn Y Gwyddonydd yn 1972/3 fod yn allweddol i mi gyflwyno’r syniad am yr enw yn 1978, fe’i sbardunwyd gan Y Gwyddonydd.

Bu i’r cylchgrawn Y Gwyddonydd gyflawni blynyddoedd o gyhoeddi erthyglai safonol a diddorol o dan olygaeth yr Athro Glyn O Phillips a’i wirfoddolwyr.  Trueni nad oes ganddo fodolaeth bellach.

J D R Thomas