Digon i bawb y Nadolig hwn gyda Cymorth Cristnogol

Eleni mae Llywodraeth Prydain yn dyblu cyfraniadau – punt am bunt – tuag at yr Apêl Nadolig*. Dyna ddwbl y gefnogaeth i bobl sy’n byw mewn tlodi.

Y Nadolig hwn, mae llawer o bobl mewn ardal helaeth o is-Sahara Affrica yn wynebu newyn. Mewn cyferbyniad, mae’r Nadolig i ni yn adeg o ddigonedd, ac felly mae’n hyn yn oed mwy pwysig ein bod yn cynnwys y rhai sydd efo llai wrth inni ddathlu’r ŵyl.

Daw Colette (yn y llun) o Furkina Faso, Gorllewin Affrica, ble mae un plentyn o bob tri yn dioddef o ddiffyg twf oherwydd diffyg maeth, yn ôl UNICEF. Mae Colette yn byw, gyda’i gŵr, merch fach a babi.  Mae Nadolig Colette yn ddigon tebyg i’n gŵyl ni.  Mae’n cychwyn gyda choginio bwyd blasus ac yna paratoi ei phlant i fynd i’r eglwys.  Mae hi’n gweddïo dros ei phlant gan ofyn i Dduw roi iechyd a phopeth sydd ei angen arnynt.  Pan mae Colette yn cyrraedd adref mae hi’n cyfarch ei chymdogion ac maent yn rhannu bwyd.  Maent yn dod at ei gilydd ac yn dawnsio a chanu i ddangos eu llawenydd.  Fel ni, maent yn bwyta bwyd arbennig ar Ddydd Nadolig.  I Colette a’i chymdogion reis, gafr a sbageti yw’r pryd bwyd!

Mae bywyd wedi bod yn galed i Colette.  Roedd hi’n gorfod gweithio mewn mwynglawdd aur bob dydd i ennill arian i fwydo ei theulu.  Roedd Colette yn treulio diwrnodiau yn y mwynglawdd heb gael hyd i unrhyw aur i’w werthu.  Roedd yn ennill cyn lleied o arian fel nad oedd yn gallu prynu bwyd maethlon.  Roedd Eulalie ei merch yn wael a gwan iawn – roedd hi’n dioddef o ddiffyg maeth.

Ond daeth gobaith i Colette drwy brosiect gardd lysiau Cymorth Cristnogol.  Cafodd ei gŵr a hithau hyfforddiant i dyfu cnydau ac offer a hadau i oroesi.  Mae hi bellach yn tyfu bwyd maethlon i’w fwyta a’i werthu ac mae hi’n gallu gweithio gyda’i phlant yn agos ati.  Mae Eulalie bellach yn bedair oed ac wedi gwella ac nid yw ei chwaer fach, Omela erioed wedi dioddef diffyg maeth. Mae Colette yn gwerthu rhai o’i llysiau i dalu am ofal iechyd a dillad i’w merched bach.  Mae hi’n cynllunio i ymestyn yr ardd er mwyn talu i’r plant fynd i’r ysgol. 

Mae stori Colette yn dangos fod modd achub teulu rhag trychineb diffyg maeth.  Mae Burkina Faso yn un o wledydd tlotaf y byd gyda bron i hanner yr 16 miliwn o’i dinasyddion yn byw dan y trothwy tlodi.  Mae mwy na 30% o’r plant dan bump oed heb dyfu’n iawn.  Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda’i bartneriaid i leihau diffyg maeth a sicrhau mynediad cyson i fwyd iach ar gyfer merched sy’n feichiog a phlant ifanc. 

Mae Nadolig Colette yn debyg mewn sawl ffordd i’n Nadolig ninnau – yn llawn haelioni a mwynhad o fwyd blasus.  Rydym ni’n mwynhau ac yn edrych ymlaen at ein cinio Nadolig ac yn aml mae gennym ormod ohono. 

Felly ar adeg o ddigonedd, wnewch chi’n siŵr fod digon i bawb?

Mae sawl ffordd i gefnogi mamau fel Colette. Beth am gynnal oedfa arbennig neu gynnal casgliad yn eich gwasanaethau carolau?  Beth am brynu rhodd wahanol trwy’r gwefan PresentAid?  Ond mae hefyd cyfle inni gefnogi’r apêl trwy feddwl am ein harferion bwyta a phrynu’r Nadolig hwn.

Pob blwyddyn yn y DU rydym yn lluchio 17.2 miliwn sbrowts i ffwrdd – dyna ddigon i lenwi 1,000 bin sbwriel. Rydym yn lluchio 2 miliwn twrci a thros 74 miliwn mins pei. Byddai’r grefi yr ydym yn ei adael yn llenwi pwll nofio maint Olympaidd!

Mae’n siŵr ein bod i gyd yn gwybod pa fwydydd y byddwn yn eu prynu nad oes unrhyw un yn eu hoffi rhyw lawer ac na fyddant yn cael eu bwyta.  Ymunwch ag Apêl Digon i Bawb trwy ymrwymo i beidio prynu o leiaf un peth y gwyddoch fydd yn mynd yn wastraff.  Gellwch droi’r adduned yn gyfraniad i waith Cymorth Cristnogol a rhoi cymorth bydd yn achub bywydau ac yn sicrhau atebion tymor hir i newyn a diffyg maeth.

Os ydych yn arbed £13 gallwn droi hynny’n wers maeth i bentref ym Murkina Faso lle byddai mwy na 25 o famau’n cael addysg am sut i sicrhau bwyd maethlon i’w plant.  Fel teulu, eglwys, grŵp cymunedol neu ysgol, gallwch godi £170 i hyfforddi pwyllgor maeth i redeg hyfforddiant rheolaidd a sesiynau paratoi uwd mewn pentref fel pentref Colette.  Cofiwch, bydd Llywodraeth Prydain yn dyblu eich cyfraniad*!

Trwy gefnogi ein Hapêl Nadolig, gallwn ymestyn allan efo cariad i rai o bobl fwyaf bregus sy’n wynebir argyfwng bwyd hwn – mamau fel Colette sydd yn dyheu am iechyd da i’w phlant a gofalu bod gan ei theulu brydau maethlon yn rheolaidd.

Gellwch ganfod adnoddau eglwys ac ysgolion ar-lein. Gellwch hefyd roi cyfraniad trwy ymweld â ’r wefan www.caid.org.uk/christmas neu trwy ffonio 020 7523 2269.

Ymunwch efo ni i sicrhau bod digon o fwyd maethlon, iach ar gael i bawb y Nadolig hwn.

* Dwbl yr effaith! Bydd cyfraniadau a wneir i’r Apêl Nadolig rhwng 6 Tachwedd 2017 a 5 Chwefror 2018 yn cael ei ddyblu hyd at £2.7 miliwn. Bydd Cymorth Cristnogol yn defnyddio eich rhoddion ar brosiectau tebyg i’r rhai a nodir. Bydd cyfraniad Llywodraeth y DU yn mynd tuag at ein gwaith yn Ne Swdan yn benodol.

 

 

Awtisiaeth a’r sector gwirfoddol

Mae Aled Thomas, ymgyrchydd awtistiaeth o Benarth, wedi cael cefnogaeth Plaid Cymru yn ei gais i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy ar gyfer y sector gwirfoddol. Yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru yng Nghaernarfon cynigiodd Aled y dylai rhywfaint o wariant arfaethedig y Llywodraeth o £13m ar gyfer awtistiaeth fynd i’r sector gwirfoddol. Dywedodd Aled, sydd ei hun ar y sbectrwm awtistiaeth, ei fod wedi cael cymorth mawr gan elusen sy’n seiliedig yng Nghaerdydd, ASCC (Autism Spectrum Connections Cymru), ac mae’n credu y dylai’r elusen gael grant gan Lywodraeth Cymru i helpu eu gwaith.

 Yn dilyn ei araith, dywedodd: “Mae yna broblemau mawr gyda’r ffordd y caiff darpariaeth awtistiaeth ei ariannu yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid yw’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y darparwyr cymorth arbenigol o’r sector gwirfoddol wrth benderfynu sut y mae’n gwario ei arian ar awtistiaeth.” Yn ddiweddar, lluniodd Aled ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu ASCC. Meddai: “Fel y gwyddom, mae mwy o ymwybyddiaeth o awtistiaeth nawr ac mae llawer iawn o sylw yn cael ei roi iddo. Ond mae yna gynllun ar waith i ddefnyddio’r £ 13m i ariannu corff newydd. Byddai’r sefydliad newydd hwn, y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol, yn canolbwyntio’n bennaf ar roi diagnosis o awtistiaeth i bobl, ond dim ond rhan o’r hyn sydd ei angen yw hyn.”

 

 Dywedodd ymhellach: “Fel un sy’n byw gyda’r cyflwr, hoffwn bwysleisio pwysigrwydd y sector gwirfoddol wrth helpu pobl sy’n byw gydag awtistiaeth. Pwrpas elusen ASCC yw cynghori a chefnogi oedolion ag awtistiaeth. Mae’n darparu lle diogel i bobl ag awtistiaeth, lle gallant alw i mewn unrhyw bryd. Hebddo, gallai’r bobl sy’n byw gyda’r syndrom ei chael yn anodd ymdopi â phroblemau bob dydd. Mae polisi newydd Plaid Cymru yn datgan ei bod yn bwysig cydnabod y gwaith a ddarperir gan grwpiau cymdeithasol, cefnogaeth ôl-ddiagnostig ac, yn arbennig, cymorth cyflogaeth.”

 

“Fel y dywedais ar ddiwedd fy araith i’r gynhadledd, hoffwn bwyntio fy nghyd-aelodau i ymgynghoriad ynglŷn â’r Ddeddf Awtistiaeth arfaethedig yn y Cynulliad. Rwy’n annog pawb i ymateb i’r ymgynghoriad gan bwysleisio pwysigrwydd ariannu’r ddarpariaeth ar gyfer awtistiaeth yn y sector gwirfoddol yng Nghymru ac i fynegi eu barn ar wefan Cynulliad Cymru.”

 

Dywedodd Gweinidog Cysgodol dros Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, “Rydym wedi bod yn pwyso am ddeddf awtistiaeth ers amser hir i wella’r gwasanaethau a’r gefnogaeth a gynigir i bobl ar ôl diagnosis, ac mae hwn yn un o’r meysydd hynny lle mae’r ystod a’r math o wasanaethau sydd eu hangen yn cael eu datblygu orau gan ac ar gyfer pobl ag awtistiaeth. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y trydydd sector wedi’i ariannu’n briodol i ddatblygu’r gwasanaethau hynny.”

 

Grantiau gan Hanfod Cymru

Mae dwy elusen yng Nghaerdydd ac un o’r Barri ymhlith yr elusennau sydd wedi derbyn grant yn ail rownd grantiau bach Hanfod Cymru – yr elusen sy’n dosbarthu’r arian sy’n cael ei godi at achosion da gan Loteri Cymru. Mae Canolfan Deulu Gibbonsdown yn y Barri yn derbyn grant er mwyn ail-adeiladu tŷ bach twt y ganolfan, i’r plant sy’n mynychu gael chwarae ynddo, tra bod y Touch Trust yn Nghaerdydd wedi cael grant er mwyn cynnal prosiect creadigol ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu niferus. Mae Cymorth i Ferched Cymru, sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd ond yn gweithredu’n genedlaethol, yn derbyn grant i gynorthwyo gyda’u harddangosfa Deugain Mlynedd Deugain Llais i nodi 40 mlynedd ers sefydlu’r elusen.

Dywedodd Siôn Brynach, Prif Weithredwr Hanfod Cymru:
“Roedd aelodau Bwrdd Hanfod Cymru wedi eu synnu gan safon a nifer y ceisiadau a ddaeth i law yn yr ail rownd hon o geisiadau am grantiau bach, ac yn falch tu hwnt o fod wedi derbyn ceisiadau o bob rhan o Gymru. Yn wir roedd nifer y ceisiadau a ddaeth i law 20% yn uwch na’r rownd geisiadau flaenorol.

“Gwnaeth yr elusennau hyn yn wych felly i ddarbwyllo’r Bwrdd y dylid cefnogi’r cais oddi wrthynt am arian tuag at ehangu eu gweithgarwch yn y meysydd amrywiol y maent yn gweithredu ynddynt. 

“Mae’n galondid mawr bod yr arian a oedd ar gael i Hanfod Cymru ei ddosbarthu yn y rownd hon o grantiau bach bron ddwywaith yn uwch nac yn y rownd gyntaf o grantiau bach haf diwethaf, ond hoffai’r Bwrdd fod â mwy fyth o arian i’w ddosbarthu. Pe buasai Hanfod Cymru wedi ariannu’r holl geisiadau a dderbyniwyd yn y rownd hon, byddai’r cyfanswm dros £670,000 ond £50,000 oedd ar gael i’r Bwrdd ei ddosbarthu. Mae’r neges yn glir felly – os hoffech chi weld mwy o grantiau ar gael i elusennau yng Nghymru, yna prynu tocynnau wythnosol Loteri Cymru yw’r ateb.”

Hanfod Cymru yw’r elusen sy’n dosbarthu’r arian sy’n cael ei godi at achosion da gan Loteri Cymru. Mae lleiafswm o 20% o’r elw o gyfanswm gwerthiant tocynnau Loteri Cymru yn cael ei gyfeirio at achosion da yng Nghymru trwy’r elusen. Sefydlwyd Hanfod Cymru a Loteri Cymru ym mis Ebrill. Mae Hanfod Cymru yn elusen annibynnol gyda’i Bwrdd Ymddiriedolwyr ei hun, ac mae’n gweithredu’n annibynnol ar Loteri Cymru, sy’n goruchwylio’r loteri wythnosol.  

Mae Loteri Cymru yn cynnig gwobr wythnosol o £25,000, yn unol â’r uchafswm a ganiateir gan reolau’r gymdeithas loteri. Pris y tocynnau yw £1 yr un ac mae’n rhaid i enillwyr y jacpot gael pum rhif yr un fath o’r 39 rhif a dynnir. Mae gwobrau llai eraill hefyd ar gael am baru nifer llai o rifau.

Mae pob tocyn – heblaw tocyn sydd wedi ennill y jacpot – yn mynd i mewn i’r Loto+ yn rhad ac am ddim, a chael cyfle i ennill 10 gwobr sicr o £1000 bob mis. Mae rhagor o wybodaeth am Loteri Cymru i’w gael o ymweld â https://www.loteri.cymru/cy/wil/home/index.html

Bydd y ffenest nesaf ar gyfer ymgeisio am grantiau bach Hanfod Cymru yn agor tua diwedd Ionawr 2018. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gall elusennau wneud cais am grantiau Hanfod Cymru ar gael o ymweld â www.hanfodcymru.wales 

Siôn Brynach
Prif Weithredwr
Hanfod Cymru Cyf
Tec Marina,
Ffordd Terra Nova,
Penarth, CF64 1SA

e: sionbrynach@hanfodcymru.wales

w: www.hanfodcymru.wales

t: 029 2167 5406

f: www.facebook.com/HanfodCymru

twitter: @Hanfod_Cymru

Tymor y Gwanwyn Opera Cenedlaethol Cymru

Yn Nhymor y Gwanwyn bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno gwledd o operâu Eidalaidd gan dri o’r cyfansoddwyr mwyaf eu dawn.  Bydd y tymor, sy’n dwyn y teitl Codi Twrw, yn cynnwys cynhyrchiad newydd o La forza del destino gan Verdi ochr yn ochr â Tosca gan Puccini a Don Giovanni gan Mozart.

Codi Twrw

Bydd y tymor yn agor gyda La forza del destino wedi’i chyfarwyddo gan David Pountney Cyfarwyddwr Artistig WNO ac yn cael ei harwain gan Carlo Rizzi ein Harweinydd Llawrydd.  Mae’r agorawd adnabyddus yn gosod yr olygfa ar gyfer yr opera ddramatig llawn troadau hon sy’n gweld yr arwres Leonora yn cael ei rhwygo rhwng ei chariad Don Alvaro a’i theyrngarwch i’w theulu.

Bydd y tenor Cymreig Gwyn Hughes Jones yn canu rhan Don Alvaro yn La forza del destino, ac yn ymuno ag ef bydd y soprano Mary Elizabeth Williams fel Leonora.  Yn cwblhau’r cast bydd Miklós Sebestyén (Il Marchese Di Calatrava / Padre Guardiano), Luis Cansino (Don Carlo Di Vargas), Justina Gringyte (Preziosilla / Curra), Donald Maxwell (Fra Melitone), Alun Rhys-Jenkins (Mastro Trabuco) a Wyn Pencarreg (Alcade).

 Rydym yn falch iawn i groesawu’r arweinydd Prydeinig ifanc Kerem Hasan i’w dymor cyntaf gyda’r Cwmni fel Arweinydd Cysylltiol WNO. Bydd Kerem yn cynorthwyo Carlo Rizzi yn ystod y cynhyrchiad o La forza del destino.  Mae Kerem eisoes yn cael ei weld fel seren sydd ar gynnydd ac ef oedd enillydd Gwobr Arweinydd Ifanc Gŵyl Salzburg 2017. 

Dywedodd Carlo Rizzi: “Forza yw’r unig opera Eidalaidd fawr nad wyf wedi ei harwain, ond hon oedd un o’r operâu cyntaf i mi glywed erioed, felly mae fy meddyliau ar y campwaith hwn yn rhychwantu dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae cael gweithio gyda David, cast arbennig o gantorion ac ensembles gwych Corws a Cherddorfa WNO yn ei gwneud hi’n fwy cyffrous i mi fy mod o’r diwedd yn cael perfformio’r campwaith hwn. Gobeithiaf y bydd cynulleidfaoedd o bob oed yn ymuno â ni i fwynhau’r gerddoriaeth ragorol a dramatig y mae Verdi wedi ei chyfansoddi – nid dim ond yr agorawd adnabyddus, ond hefyd yr holl arias a’r corysau bendigedig yn yr opera sy’n gyrru ei stori gyfareddol ymlaen.”

Mae rhamant a thrasiedi ar y fwydlen ar gyfer adfywiad WNO o’i gynhyrchiad o Tosca, stori wefreiddiol am gariad, chwant, llofruddiaeth a llygredd sydd wedi dod yn un o’r operâu mwyaf poblogaidd.  Yn cynnwys arias hyfryd gan gynnwys ‘Vissi d’arte’ Floria Tosca, mae’r stori yn llawn troadau o’r dechrau cyntaf i’r diweddglo gwefreiddiol.  Bydd y gwaith o arwain Tosca yng Nghaerdydd ac ar y daith yn cael ei rannu rhwng Carlo Rizzi a Timothy Burke, Cyfarwyddwr Cerdd Tête à Tête.

 Bydd y cynhyrchiad yn cynnwys cast dwbl yn chware rhannau Mario Cavaradossi a Floria Tosca.  Bydd Hector Sandoval a Gwyn Hughes Jones yn rhannu rhan y tenor, a Claire Rutter a Mary Elizabeth Williams yn rhannu rhan y soprano.  Mark S. Doss fydd yn chware rhan y Scarpia ddrwg ac yn cwblhau’r cast fydd Daniel Grice (Cesare Angelotti) a Donald Maxwell (Sacristan).

 Bydd y tymor yn cloi gydag adfywiad o lwyfaniad John Caird o Don Giovanni o 2011, gyda dylunio gan John Naiper.  Yn seiliedig ar hanes Don Juan, mae Don Giovanni yn dilyn cwymp merchetwr chwedlonol opera wrth i’w fercheta twyllodrus ddal i fyny ag ef ac mae’n wynebu ei dranc drwy rym o’r bedd.  Un o’r operâu fwyaf poblogaidd ac un o’r rhai sydd wedi cael ei pherfformio fwyaf, mae gan yr opera hon bopeth o chwant i gomedi, drama a’r goruwchnaturiol.  Bydd Don Giovanni yn cael ei hadfywio gan Caroline Chaney a bydd James Southall yn arwain.

Rydym yn hynod falch i groesawu Gavan Ring y tenor Gwyddelig a fydd yn perfformio am y tro cyntaf gyda WNO ac yn perfformio rhan Don Giovanni am y tro cyntaf.  Bydd Elizabeth Watts a David Stour yn dychwelyd yn dilyn eu perfformiadau yn nhrioleg Figaro WNO yn 2016 i ganu rhan Donna Elvira a Leporello yn y drefn honno.  Yn cwblhau’r cast bydd Miklós Sebestyén (Commendatore), Emily Birsan (Donna Anna), Benjamin Hulett (Don Ottavio), Katie Bray (Zerlina) a Gareth Brynmor John (Masetto). 

Meithrin talent ifanc

Yn dilyn sesiynau blasu a gweithdai trwy gydol mis Hydref a Thachwedd 2017, mae WNO yn falch i sefydlu dau grŵp Opera Ieuenctid newydd yn dechrau yng Ngwanwyn 2018; un ym Mirmingham, ac un arall yng Ngogledd Cymru, gan adeiladu ar y safon uchel o hyfforddiant canu, drama a symud sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn drwy Opera Ieuenctid WNO yng Nghaerdydd.  Bydd y grwpiau newydd yn cwrdd bob wythnos yn ystod y tymor ysgol.  Yng Ngogledd Cymru, bydd y sesiynau wythnosol ar gyfer plant 10-14 oed yn gyntaf, yn cael eu cynnal yn Venue Cymru, Llandudno, ac yn adeiladu ar y gwaith helaeth gydag ieuenctid a chymunedau y mae WNO yn ei wneud nawr ar draws y rhanbarth.

 Mae datblygu’r gwaith hwn mewn mwy o leoliadau yn rhan o ymrwymiad parhaus WNO i hyfforddi a datblygu’r genhedlaeth nesaf o artistiaid, gyda’r bwriad hir dymor o gynnig cyfleodd i gantorion ifanc hyd at 25 oed a fydd yna efallai’n dymuno ymuno â’r proffesiwn opera.  Mae perthynas WNO gydag ysgol opera newydd David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd hefyd yn arddangos ymrwymiad y cwmni i gefnogi talent opera newydd.

Cerddorfa WNO

Bydd Cerddorfa WNO yn brysur yn ystod tymor y Gwanwyn gyda chyfres o gyngherddau a digwyddiadau wedi’u trefnu.  Bydd y flwyddyn newydd yn dechrau gyda thaith ledled Cymru yn perfformio cerddoriaeth Fiennaidd, wedi’i chyflwyno a’i chyfarwyddo gan David Adams, Arweinydd Cerddorfa WNO.  Ar y daith bydd y gerddorfa’n ymweld ag Abertawe, Bangor, y Drenewydd, Caerdydd a Chasnewydd rhwng 4 a 21 Ionawr.

Yna ar 14 Ionawr, bydd y Gerddorfa’n perfformio mewn cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant fel rhan o’r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol o dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus.  Bydd y rhaglen yn cynnwys Agorawd Egmont Beethoven, Concerto Ffidil Mendelssohn a Symffoni Rhif 9 New World Dvořák.

Mae rhagor o wybodaeth am dymor y gwanwyn WNO ar gael yn wno.org.uk

Amserlen y Gwanwyn

CAERDYDD       CANOLFAN MILENIWM CYMRU    
Swyddfa Docynnau            (02920) 636464** 

Gwe    2             Chwe      La forza del destino         6.30   yh   
Gwe    9             Chwe      Tosca        7.15 yh                                     
Sad     10            Chwe      La forza del destino        6.30   yh
Sul      11            Chwe      Tosca      4.00 yh
Gwe    16           Chwe      Tosca               7.15 yh
Sad      17           Chwe      La forza del destino        6.30 yh
Mer     21           Chwe      Tosca          7.15 yh
Iau       22          Chwe      Don Giovanni*        7.00 yh
 Gwe    23          Chwe      Tosca            7.15 yh
Sad      24          Chwe      Don Giovanni       4.00 yh

Dyfan Roberts i chwarae rhan Y Tad i Theatr Genedlaethol Cymru

 

Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi mai Dyfan Roberts fydd yn chwarae rhan Y Tad yn eu cynhyrchiad nesaf o’r un enw, a hynny yn ystod Chwefror a Mawrth 2018. Mae Dyfan yn actor profiadol tu hwnt ac yn enw cyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd Cymraeg. Mae ei waith diweddar yn cynnwys: Pum Cynnig i Gymro (Theatr Bara Caws) (Enwebwyd ar gyfer Gwobr Actor Gorau, Gwobrau Theatr Cymru 2016) a Merch yr Eog (Theatr Genedlaethol Cymru). Mae ei waith ffilm yn cynnwys Un Nos Ola Leuad a Gwaed ar y Sêr. 

Yn ymddangos gyda Dyfan Roberts fe fydd cast cryf o actorion sy’n cynnwys wynebau cyfarwydd ynghyd â rhai llai cyfarwydd hefyd, sef Catrin Mara, Dafydd Emyr, Fflur Medi Owen, Rhodri Siôn a Mirain Fflur.

Arwel Gruffydd fydd yn cyfarwyddo Y Tad, sy’n drosiad newydd i’r Gymraeg gan Geraint Løvgreen o’r clasur cyfoes, Le Père gan Florian Zeller. Mae’r ddrama yn waith buddugol y gystadleuaeth Trosi Drama i’r Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a’r Cyffiniau, 2016. Enillodd y ddrama wreiddiol Wobr Molière 2014 am y Ddrama Orau. Bydd hwn yn gynhyrchiad gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Pontio.

Dyma stori ddirdynnol am ŵr sy’n ceisio deall yr hyn sy’n digwydd iddo pan fo’i gof yn dadfeilio, a merch sy’n ceisio dygymod â salwch ei thad. Mae’r ddrama’n rhan o dymor o waith i ddod gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2018 sy’n archwilio Gofal a Chymuned, i nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed ac i ddathlu cyfraniad allweddol y celfyddydau wrth fynd i’r afael â lles cymdeithasol. Bydd y cwmni’n gweithio gyda nifer o sefydliadau, gan gynnwys Age Cymru ac Alzheimer’s Society Cymru, er mwyn cael cyngor arbenigol i gefnogi’r cynhyrchiad a’r tymor hwn.

Mae Y Tad yn edrych yn arbennig ar gyflwr dementia – pwnc sy’n dod yn fwyfwy cyfarwydd yn y byd sydd ohoni – a’r effaith a gaiff y salwch ar yr unigolyn, y teulu a’r cartref. Wrth feirniadu cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, disgrifiodd Gareth Miles drosiad Geraint Løvgreen fel “cyfraniad gwiw i’n theatr gyfoes”.

Taith Genedlaethol:

Bydd Y Tad i’w gweld mewn saith canolfan ledled Cymru.

Pontio, Bangor: 21 Chwefror 7.30yh (Rhag-ddangosiad) / 22 Chwefror 7.30yh / 23 Chwefror 2yp a 7.30yh            

(Sgwrs i ddysgwyr cyn y sioe 21 Chwefror a sgwrs wedi’r sioe 22 Chwefror)

Canolfan Celfyddydau Pontardawe: 27 Chwefror 7.30yh / 28 Chwefror 11yb                        (Sgwrs wedi’r sioe 27 Chwefror)

Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron: 2 Mawrth 1yp a 7.30yh / 3 Mawrth 7.30yh                                                           (Sgwrs wedi’r sioe 7.30yh, 2 Mawrth)

Theatr y Lyric, Caerfyrddin: 6 Mawrth 1yp a 7.30yh 

Theatr y Sherman, Caerdydd: 8 Mawrth 7.30yh / 9 Mawrth 1.30yp a 7.30yh                        (Sgwrs wedi’r sioe 8 Mawrth)

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug: 13 Mawrth 7.45yh / 14 Mawrth 1.30yp a 7.45yh

(Sgwrs wedi’r sioe 13 Mawrth)

Canolfan Gartholwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd: 16 Mawrth 1yp a 7.30yh

(Sgwrs cyn y sioe 1yp)

Wrth gyhoeddi’r cast, dywedodd Arwel Gruffydd, cyfarwyddwr y ddrama a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:

“Mae Dyfan yn un o’n hactorion mwyaf talentog a phrofiadol, ac mae gofyn iddo fod! Mae’r rôl hon wedi’i henwi gan sawl beirniad fel Brenin Llŷr y ddrama gyfoes! Nid mod i eisiau codi ofn ar Dyfan! Ond mae ganddo ‘ensemble’ cryf eithriadol i’w gefnogi – pob un yn actorion yr ydw i’n methu aros i gydweithio efo nhw ar y ddrama arbennig hon.”

Dywedodd Dyfan Roberts ynglŷn â chwarae’r rhan:

 “Yn fy holl yrfa fel actor ers 1970, rhan Y Tad yw’r sialens theatrig fwyaf i mi ei hwynebu. Ond rwy’n edrych ymlaen yn arw at yr her. Mae hi’n ddrama gwerth ei gwneud, ar lawer ystyr.

Bydd tocynnau’n mynd ar werth gan y canolfannau o fis Tachwedd ymlaen.

STORI IOLO MORGANWG YN DAL I DANIO DYCHYMYG

Mae athro, awdur ac actor a symudodd i Fro Morgannwg wedi ei ysbrydoli gymaint gan hanes Iolo Morganwg, ysgrifennodd nofel amdano.

Symudodd Gareth Thomas i Fro Morgannwg chwe blynedd yn ôl wedi gyrfa yn Lloegr fel actor, athro a chyfarwyddwyr.  Prynodd ei wraig ag ef hen dŷ ym mhentref hanesyddol Sant Hilari, milltir a hanner tu allan i’r Bontfaen a llai na milltir o ble cynhaliwyd yr orsedd gyntaf yng Nghymru gan Iolo Morganwg.

Roedd Gareth yn ymwybodol o Iolo Morganwg ond heb wybod yn iawn ei stori na’i arwyddocâd. Cafodd ei ddychymyg ei danio gan y sylw a gafodd yr ‘Hen Iolo’ yn Eisteddfod Llandŵ a dechreuodd ymweld â lleoliadau yn y Fro sydd yn gysylltiedig â’r bardd megis ei gofeb yn Nhrefflemin, y Piler Samson yn Llanilltud Fawr, tafarn The Bear yn y Bontfaen lle perfformiodd ei farddonaieth, ac Eglwys Santes Fair ble priododd ef a Peggy. Mae enghreifftiau o’i waith fel saer maen i’w gweld ledled y Sir hefyd.

‘Y mwyaf y dysgais amdano, y mwyaf ro’n i’n rhyfeddu at ei stori,’ meddai Gareth Thomas. ‘Dyma stori sydd yn mynnu cael ei hadrodd.’

Ond profodd stori Iolo yn destun enigma i’r awdur. Roedd hollt barn ymhlith ei ffrindiau, gyda rhai yn edmygu Iolo fel arwr a ffurfiodd hunaniaeth Gymreig ond eraill yn ei ddifrïo fel twyllwr a chastiwr. Wedi darllen gwaith Gwyneth Lewis, Geraint Jenkins a Mary-Ann Constantine daeth Gareth i’r casgliad mai nid dim ond stori oedd yma ond neges gydag arwyddocâd cyfoes i’r genedl Gymreig.

Ei nofel newydd, Myfi, Iolo a gyhoeddwyd ddiwedd Tachwedd gan wasg Y Lolfa, yw’r canlyniad.

Dyma nofel hanesyddol yn dilyn ôl troed Iolo Morganwg. Wedi ei gosod ar ddiwedd yr 18fed ganrif, dilynwn Iolo fel dyn ifanc gyda doniau aruthrol ac egni di-ben-draw sy’n feddw ar eiriau, yn llawn dicter dros anghyfiawnder ac yn ymrwymedig i’r achos dros drawsnewid Ewrop.

‘Mae stori Iolo yn llawn pob elfen sydd ei angen mewn nofel hanesyddol – antur, dirgelwch, cariad, gwrthryfel, trais, cyffuriau, angerdd, ysbiwyr a brad.’ meddai Gareth.

Mae’r nofel yn symud o’r Bontfaen i ystafelloedd cyfarch bonheddig Mayfair, o seremonïau Gorseddol ar lethrau anghysbell i ‘fordello’s moethus Covent Garden, ac o’i fwthyn yn Nhrefflemin i wrandawiad o flaen y Cyfrin Gyngor yn Stryd Downing.

‘Dyma ddyn oedd yn ysbrydoli cyfeillgarwch ond eto yn troi ffrindiau’n elynion. Dyma ddyn aruthrol o ddawnus ond a fethodd ennill bywoliaeth ddigonol mewn unrhyw faes.’ meddai Gareth, ‘Tybed oedd Iolo yn ymwybodol o dwyllo – neu oedd gweledigaeth fawr yn ei arwain?’

Mae’r nofel eisoes wedi derbyn clod gyda’r athro a’r awdur Dr Mary-Ann Constantine yn ei chanmol fel ‘nofel gyfareddol am berson hynod o ddiddorol.’

Lansiwyd y nofel yn yr ystafell ddawnsio Sioraidd yn nhafarn The Bear yn  y Bontfaen nos Iau Tachwedd 23.

‘Mae’r lleoliad lansio yn gwbl briodol’ ychwanegodd Gareth, ‘Yn nhafarn The Bear yn y Bontfaen y perfformiodd Iolo Morganwg ei farddoniaeth enllibus ac yno y bu’n siarad yn angerddol mewn cyfarfodydd gwleidyddol. Felly does dim lle mwy addas yng Nghymru i lansio’r nofel!’

Yno rhan o’r lansiad roedd Carys Whelan a’r awdur Gareth Thomas yn sgwrsio am y nofel, gyda pherfformiad o rannau ohoni gan Eiry Palfrey fel ‘Peggy’ a Danny Grehan fel Iolo Morganwg.

Ganed Gareth Thomas i rieni o Gwm Rhondda ac astudiodd ddrama yn y Barri a Llundain. Gweithiodd yn Lloegr fel actor, athro a chyfarwyddwr cyn dechrau dysgu’r Gymraeg yn 50 oed. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, A Welsh Dawn, yn 2014. Mae’n byw yn y Bont-faen.

Mae Myfi, Iolo gan Gareth Thomas (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Rhannu cynnwys cyfoes ar wefannau cymdeithasol yn Gymraeg

Llio Angharad Cymru

Cyfle i ysgogi pobl ifanc i rannu cynnwys cyfoes ar wefannau cymdeithasol yn Gymraeg

At ddarllenwyr Y Dinesydd: Dw i’n rhedeg gwefan blog Cymraeg (llioangharad.cymru) ac yn y flwyddyn newydd bydd y wefan yn cael ei hehangu i fod yn wefan cylchgrawn sy’n trafod ffasiwn, harddwch a materion cyfoes. Pwrpas y wefan ydy annog plant a phobl ifanc ledled Cymru i rannu cynnwys cyfoes ar wefannau cymdeithasol yn Gymraeg a’u cymell i dafod pynciau poblogaidd yn y Gymraeg gydag eraill. Mae’n hynod bwysig ein bod yn cyrraedd cynifer o bobl ag y bo modd o amgylch y wlad gan annog pawb, o bob oedran a gallu Cymraeg, i gymryd rhan. Felly, dw i’n chwilio am gyfranwyr i ysgrifennu erthyglau yn achlysurol. Nid yn unig hynny, ond dw i hefyd yn chwilio am unigolion i fod yn rhan o banel fydd yn cyfarfod yn achlysurol dros Skype neu mewn cyfarfod wyneb yn wyneb (bydd hyn yn cael ei drafod ymhen amser ac yn ddibynnol ar sawl un sy’n dangos diddordeb ym mhob ardal). Bwriad y panel ydy sicrhau bod pawb o bob cefndir yn cael cyfle i gynnig syniadau gwahanol ar gyfer y wefan, y cynnwys a mwy!

 

Oes diddordeb ‘da chi? Os felly, cysylltwch drwy ebostio contact@llioangharad.cymru neu ar y tudalen Facebook, facebook.com/llioffasiwn Diolch yn fawr! Llio Angharad  

 

 

Ysgol Pencae – Mis Hydref 2017

Croeso Arbennig:
Croeso mawr i 30 o ddisgyblion byrlymus y dosbarth Derbyn i Ysgol Pencae.  Mae’n bleser eu gweld yn ymgartrefu yn hyderus yng nghymuned yr ysgol ac yn byrlymu wrth ddilyn y thema – Dyma fi!  Hefyd, hoffem groesawu Miss Catrin Osborne sydd yn athrawes ym mlwyddyn 1 a Mrs Diana Dethridge sydd yn gweithio yn y Dosbarth Derbyn .
Drysau Agored:
Unwaith eto eleni, bu’r ysgol yn rhan o weithgareddau Drysau Agored pentref Llandaf.  Roedd blwyddyn 4 wrth eu boddau yn braslunio’r ffenestri lliw yn y Gadeirlan a phleser oedd croesawu’r gymuned i’r ysgol am baned, cacen a chyngerdd er budd MacMillan.  Codwyd to y neuadd gyda pherfformiad y Cyfnod Sylfaen o ganeuon hwyliog a Chyfnod Allweddol 2 yn canu detholiad o ganeuon ein sioe Haf – Llyfr y Jyngl.
Mewn Cymeriad – Sioe Hedd Wyn:
Daeth hanes yn fyw wrth i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 weld sioe am hanes Hedd Wyn.  Cyfunwyd y llon a’r lleddf wrth i’r disgyblion gael eu swyno gan ddigrifwch barddoni ar y cyd ond hefyd eu cyflwyno i erchyllderau rhyfel.  Dioch i Siôn Emyr am ei bortread arbennig o’r arwr rhyfel.
Pwll Mawr a Gweithdy Trydan Electro City:
Profiad unigryw i flwyddyn 6 oedd cael troedio dan ddaear wrth ymweld â Phwll Mawr.  Bu’r disgyblion yn clywed am amodau gweithio y glowyr a chlywed am sut roedd plant yn cael eu defnyddio yn y pyllau glo.  Cafodd blwyddyn 4 a 6 wefr yn creu dinas newydd sbon danlli o lego, eu her oedd i oleuo eu dinas gyda thrydan.  Bu pawb yn llwyddiannus yn creu eu cylchedau trydan gan oleuo’r holl adeiladau.

Ymweld â Pwll Mawr

Casia Wiliam:
Roedd croeso mawr yn disgwyl Casia Wiliam wrth iddi ymweld â blwyddyn 4 yn ei rôl fel Bardd Plant Cymru.  Wrth gydweithio, bu’r disgyblion a Casia yn trin geiriau a llifodd yr awen er mwyn creu cerddi arbennig am Fwystfil Barus.

Casia William

Enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái 2017

Rhanbarth Caerdydd a’r Fro

Cystadleuaeth: 181 Unawd Bl. 2 ac iau (Solo Yrs 2 and under)
1 Finley Burrows Ysgol Gynradd Gwaun Y Nant, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 182 Unawd Bl. 3 a 4 (Solo Yrs 3 and 4)
1 Efan Arthur Williams Ysgol Gymraeg Treganna, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 189 Parti Unsain Bl. 6 ac iau (Ysg. dros 50) (Unison Party Yrs 6 and under (Sch. over 50))
2 Ysgol Gynradd Sant Curig, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 196 Deuawd Bl. 7-9 (Duet Yrs 7-9)
1 Nansi a Lili Ysgol Gyfun Plasmawr, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 197 Unawd Merched Bl. 10 a dan 19 oed (Girls Solo Yrs 10 and under 19)
2 Llinos Haf Jones Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 198 Unawd Bechgyn Bl. 10 a dan 19 oed (Boys Solo Yrs 10 and under 19)
3 Rhys Wynn Newton Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 199 Deuawd Bl. 10 a dan 19 oed (Duet Yrs 10 and under 19)
1 Llinos Haf a Manon Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 204 Parti Bechgyn Bl. 7, 8 a 9 (Boys Party Yrs 7-9)
1 Ysgol Gyfun Plasmawr, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
3 Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 206 Côr Merched S.A. Bl. 13 ac iau (Girls S.A. Choir Yrs 13 and under)
1 Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 207 Côr Bechgyn T.B. Bl. 13 ac iau (Boys Choir (T.B.) Yrs 13 and under)
2 Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 208 Côr S.A.T.B. Bl. 13 ac iau (S.A.T.B. Choir Yrs 13 and under)
1 Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 209 Ensemble Lleisiol Bl. 7-9 (Vocal Ensemble – Years 7-9)
1 Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 210 Ensemble Lleisiol Bl. 10 a dan 19 oed (Vocal Ensemble Yrs 10 and under 19)
1 Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 211 Ensemble Lleisiol 14-25 oed (Aelwyd) (Vocal Ensemble 14-25 years (Adran/Aelwydydd))
1 Aelwyd Y Waun Ddyfal, Cylch Dwyrain Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 212 Côr Merched S.S.A. 14-25 oed (Aelwyd) (Girls S.S.A. Choir (Aelwyd) 14-25 years)
2 Aelwyd Y Waun Ddyfal, Cylch Dwyrain Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 213 Côr Meibion Tri Llais 14-25 oed (Aelwyd) (Male Three-Part Choir (Aelwyd) 14-25 years)
1 Aelwyd Y Waun Ddyfal, Cylch Dwyrain Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 214 Côr S.A.T.B 14-25 oed (Aelwyd) (dim hwy na 40) (Aelwyd Choir S.A.T.B. 14-25 years (under 40))
1 Aelwyd Y Waun Ddyfal, Cylch Dwyrain Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 215 Côr S.A.T.B. 14-25 oed (Aelwyd) (dros 40 ) (Aelwyd Choir S.A.T.B. 14-25 years (over 40))
2 Aelwyd Y Waun Ddyfal, Cylch Dwyrain Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 216 Cyflwyno Alaw Werin Unigol Bl. 6 ac iau (Folk Song Solo Yrs 6 and under)
1 Efan Arthur Williams Ysgol Gymraeg Treganna, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 221 Unawd Telyn Bl. 6 ac iau (Harp Solo Yrs 6 and under)
1 Efa Peak Ysgol Gymraeg Pen y Garth, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
03/06/2017 Tudalen 2 o 35
Cystadleuaeth: 223 Unawd Gitâr Bl. 6 ac iau (Guitar Solo Years 6 and under)
2 Stefanie Maurer Ysgol Gynradd Sant Baruc, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 224 Unawd Chwythbrennau Bl. 6 ac iau (Woodwind Solo Yrs 6 and under)
3 Seren Morris Ysgol Gynradd Iolo Morganwg, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 227 Unawd Offer Taro Bl. 6 ac iau (Percussion Solo Years 6 and under)
3 Ffred Hayes Ysgol Pencae, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 233 Unawd Telyn Bl. 7- 9 (Harp Solo Yrs 7-9)
1 Huw Boucher Ysgol Uwchradd Stanwell, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 236 Unawd Chwythbrennau Bl. 7- 9 (Woodwind Solo Yrs 7-9)
3 Catrin Wyn Roberts Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 239 Unawd Offer Taro Bl. 7 – 9 (Percussion Solo Years 7-9)
3 Magi Hayes Ysgol Gyfun Plasmawr, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 240 Ensemble Bl. 7, 8 a 9 (Ensemble Yrs 7-9)
1 Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 242 Unawd Llinynnol Bl. 10 a dan 19 oed (String Solo Yrs 10 and under 19)
1 Charlie Lovell-Jones Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 243 Unawd Gitâr Bl. 10 a dan 19 oed (Guitar Solo Years 10 and under 19)
2 Jacob Court Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 246 Unawd Piano Bl. 10 a dan 19 oed (Piano Solo Yrs 10 and under 19)
1 Charlie Lovell-Jones Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 247 Unawd Offer Taro Bl. 10 a dan 19 oed (Percussion Solo Years 10 and under 19)
3 Daniel Jones Ysgol Gyfun Plasmawr, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 248 Deuawd Offerynnol Bl. 13 ac iau (Instrumental Duet Yrs 13 and under)
1 Charlie ac Eirlys Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 249 Ensemble Bl. 10 a dan 19 oed (Ensemble Yr. 10 and under 19)
1 Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 262 Unawd Cerdd Dant Bl. 3 a 4 (Cerdd Dant Solo Yrs 3 and 4)
1 Efan Arthur Williams Ysgol Gymraeg Treganna, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 269 Unawd Cerdd Dant Bl. 7 – 9 (Cerdd Dant Solo Yrs 7-9)
2 Nansi Rhys Adams Ysgol Gyfun Plasmawr, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 276 Deuawd Cerdd Dant 19-25 oed (Cerdd Dant Duet 19-25 years)
1 Rhydian Jenkins a Ceri Haf Aelwyd Y Waun Ddyfal, Cylch Dwyrain Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 284 CogUrdd Bl. 7-9 (CogUrdd Year 7-9)
2 Bethan Young Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Cylch Dwyrain Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 292 Dawns Werin Bl. 7, 8 a 9 (Folk Dance Yrs 7-9)
3 Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 293 Dawns Werin Bl. 10 a dan 19 oed (Ysgolion) (Folk Dance Yrs 10 and under 19 (Schools))
1 Ysgol Gyfun Plasmawr, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 295 Dawns Werin Unigol i Ferched Bl. 9 ac iau (Solo Folk Dance for Girls Yrs 9 and under)
1 Elen Morlais Williams Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 296 Dawns Werin Unigol i Fechgyn Bl. 9 ac iau (Solo Folk Dance for Boys Yrs 9 and under)
1 Ioan Wyn Williams Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
2 Iestyn Jones Ysgol Gyfun Plasmawr, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
03/06/2017 Tudalen 3 o 35
Cystadleuaeth: 298 Dawns Werin Unigol i Fechgyn Bl. 10 a dan 25 oed (Boys Solo Folk Dance Yr 10 and under 25 years)
1 Daniel Jones Ysgol Gyfun Plasmawr, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 304 Dawns Aml-Gyfrwng Bl. 7 a dan 19 oed (Creative Composition Dance Yrs 7 and under 19)
3 Ysgol Uwchradd Stanwell, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 344 Grŵp Llefaru Bl. 7, 8 a 9 (Group Recitation Yrs 7-9)
1 Ysgol Gyfun Plasmawr, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 351 Llefaru Unigol Bl. 5 a 6 (D) (Individual Recitation Yrs 5 and 6 (Learners))
1 Ffion Haf Lewis Ysgol Gynradd Creigiau, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 352 Grŵp Llefaru Bl. 6 ac iau (D) (Group Recitation Yrs 6 and under (Learners))
1 Ysgol Gynradd Creigiau, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 354 Cyflwyniad Llefaru Bl. 13 ac iau (D) (Recitation Performance Yr 13 and under (Learners))
1 Ysgol Uwchradd Caerdydd, Cylch Dwyrain Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 355 Llefaru Unigol Bl. 10 a dan 19 oed (D) (Individual Recitation Yrs 10, under 19 (Learners))
1 Ikuni Ebereonwu Ysgol Howell, Llandaf, Cylch Dwyrain Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
3 Morwenna Brown Ysgol Howell, Llandaf, Cylch Dwyrain Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 396 Cystadleuaeth Medal y Dysgwyr Bl. 10 a dan 25 oed (Learners Medal Competition Yr 10 and under 25
yrs)
3 Sophie James Ysgol Uwchradd Caerdydd, Cylch Dwyrain Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 404 Ymgom Bl. 6 ac iau (Dialogue Yrs 6 and under)
1 Ysgol Gymraeg Treganna, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 405 Cyflwyniad Dramatig Bl. 6 ac iau (Dramatic Presentation Yrs 6 and under)
1 Ysgol Pencae, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 407 Cân Actol (Y.C.) Bl. 6 ac iau (Ysg. dros 100) (Action Song Yrs 6 and under (Sch. over 100))
1 Ysgol Gymraeg Pwll Coch, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 408 Ymgom Bl. 7, 8 a 9 (Dialogue Yrs 7-9)
1 Ysgol Gyfun Plasmawr, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 409 Cyflwyniad Dramatig Bl. 7, 8 a 9 (Dramatic Presentation Yrs 7-9)
2 Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 411 Cyflwyniad Dramatig Bl. 10 a dan 19 oed (Dramatic Presentation Yrs 10 and under 19)
2 Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 413 Detholiad o Ddrama Gerdd Bl. 7 a dan 25 oed (Musical Drama Anthology Yr 7 and under 25 years)
3 Ysgol Gyfun Plasmawr, Cylch Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 415 Cyflwyniad Digri 14 – 25 oed (Comedy Presentation 14-25 years)
2 Gwenllian a Gwenno Aelwyd Y Waun Ddyfal, Cylch Dwyrain Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 416 Monolog Bl. 10 a dan 19 oed (Monologue Yrs 10 and under 19)
1 Elin Alexander Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Cylch Y Fro, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 427 Ymgom Bl. 7, 8 a 9 (D) (Dialogue Yrs 7-9 (Learners))
2 Ysgol Uwchradd Caerdydd, Cylch Dwyrain Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
Cystadleuaeth: 430 Harddwch (Lefel 1) Bl. 10 a dan 19 oed (Beauty (Level 1) Yr.10 and under 19)
3 Rosie Sebury Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Cylch Canol Caerdydd, Caerdydd a’r Fro
03/06/2017

Atodiad i erthygl Michael Jones ar Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd

Atodiad i erthygl Michael Jones ar Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd

Ers ysgrifennu’r erthygl uwchlaw rwyf wedi cael profiad go rhyfedd.Ces alwad ffôn gan ohebydd y BBC i ddweud iddo ddod o hyd i benderfyniad yn rhan o Gyllideb y cyngor yn dileu cludiant rhad i blant sy’n byw mwy na 2 filltir o’u hysgol gynradd neu 3 milltir o’u hysgol uwchradd.
Roedd am wybod a oeddwn yn gwybod am y fath gynllun a beth fyddai ymateb RhAG. Doeddwn i ddim wedi clywed am y fath beth fyddai wrth gwrs yn andwyol iawn i addysg Gymraeg gydag ysgolion sy’n gwasanaethu dalgylchoedd llawer ehangach na’r rhai cyfrwng Saesneg.
Yn ffodus roedd is-bwyllgor y noson honno yng Nglantaf ac wrth rannu’r newyddion â phennaeth Glantaf ces wybod bod y cynllun yn newyddion iddo fe hefyd ac yn peri’r un arswyd.
Anfonais neges e-bost at y Cyfarwyddwr yn mynegi anfodlonrwydd RhAG,  yn gyntaf am fod y cynllun yn hollol groes i’r egwyddor o degwch i’r ddau sector addysg, Saesneg a Chymraeg, am fod tynnu nôl cludiant rhad yn cael llawer mwy o effaith andwyol ar y sector Cymraeg; ac yn ail am fod Caerdydd wedi addo glynu at y polisïau cludiant yn y Cynllun Strategol Addysg Gymraeg.
Yn gymaint â bod Cynllun Caerdydd wedi derbyn sêl bendith y gweinidog roedd e’n ddarn o ddeddfwriaeth y Cynulliad nad oedd modd i’r sir beidio ag ufuddhau iddo. Ychwanegais y byddai RhAG yn ceisio arolwg barnwrol oni bai i’r sir newid ei bwriad.
Drannoeth,  cymerais ran mewn cyfweliad â’r gohebydd, ond yna ces alwad ffôn oddi wrtho i adrodd bod y sir wedi cysylltu i ddweud  taw “clerical error” oedd y darn yn y gyllideb parthed dileu cludiant rhad ac nid oedd bwriad gan y sir i fynd ymlaen â’r cynllun.
Es at fy nghyfrifiadur i ddarganfod yno neges oddi wrth swyddog yn yr Adran Cynllunio Strategol Priffyrdd Caerdydd i’r un perwyl . Yn amlwg roedd y sefyllfa yn gryn embaras i’r Cyngor.
Beth bynnag yw’r gwir am yr hanes hwn, mae’n sicr bod angen cadw llygad barcud ar Gyngor Caerdydd lle mae addysg Gymraeg yn y cwestiwn.

Michael Jones