Newyddion Ychwanegol

  • Robin   Gwyndaf

                                                                                                           

    Llun: gan Robin Maggs, Amgueddfa Cymru

    Mewn seremoni yn ddiweddar ym Mhrifysgol Caerdydd derbyniwyd  Dr Robin Gwyndaf yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru (Yr Academi Genedlaethol: yn Dathlu Ysgolheictod a Gwasanaethu’r Genedl : FLSW).

    Y mae Robin yn Gymrawd hefyd o Gymdeithas  Hynafiaethwyr  Llundain (FSA); yn Gymrawd Llên Gwerin Cydwladol (Helsinki); ac yn gyn-aelod o Fwrdd Cydwladol Canolfan Diwylliant Gwerin Ewrop, o dan nawdd UNESCO (Budapest).

    Penodwyd Robin Gwyndaf yn aelod o staff  Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ym mis Hydref 1964. Y mae’n gyn Guradur Llên Gwerin a Phennaeth yr Adran Bywyd Diwylliannol. Wedi ymddeol yn 2006 fe’i gwnaed yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd. Ym mis Hydref 2019 bydd yn dathlu  55 mlynedd o wasanaeth  i’r Amgueddfa. Ar achlysur cael ei dderbyn yn Gymrawd o’r Gymdeithas Ddysgedig , ychwanegodd y sylw a ganlyn:

    ‘Rwy’n ystyried yr anrhydedd yn gydnabyddiaeth hefyd i’r Amgueddfa Werin, a charwn ddal ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i’r Amgueddfa a’i  holl staff am bob cyfle a chefnogaeth a dderbyniais er 1964.’

    03/07/2019
  • Cystadleuwyr Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2019

    Yn dilyn y cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod dydd Sadwrn 1 Mehefin 2019, mae panel o bum beirniad wedi dewis y chwe chystadleuydd mwyaf addawol o fewn y categori oedran hŷn o dan 25 oed, i ymgeisio am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2019 ym mis Hydref. 

    Y chwech fydd yn cystadlu eleni fydd: 

    Rhydian Jenkins, Aelod Unigol Cylch Ogwr,  Morgannwg Ganol

    Cai Fôn Davies, Aelod JMJ, Eryri

    Steffan Lloyd Owen, Aelod Unigol, Cylch Cefni, Ynys Môn

    Daniel Jones, Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd a’r Fro

    Thomas Mathias, Aelod Unigol Cylch Aberystwyth, Ceredigion

    Morgan Llywelyn Jones , Aelwyd y Gwendraeth, Gorllewin Myrddin

    Jeremy Huw Williams, Ffion Dafis, Einir Wyn Jones, Cerian Mai Phillips a Glain Dafydd oedd ar y panel dewis.

    Dywedodd y Panel, “Mae wedi bod yn brofiad ac yn broses bleserus gwylio’r fath dalent ond roedd y chwe pherfformiwr yma yn serennu a hynny yn y modd roeddent yn cyfathrebu â’u cynulleidfa ac oherwydd i ni gael ein cyffroi.”

    Cynhelir yr Ysgoloriaeth eleni ar nos Wener, 11 Hydref yn Neuadd Goffa’r Barri, gyda’r tocynnau ar werth ddiwedd Mehefin. 

    Nod y wobr yw meithrin talent rhai o berfformwyr ifanc gorau Cymru. Yn ogystal â’r wobr ariannol, mae’r Ysgoloriaeth hefyd yn cysylltu enw’r enillydd gyda’r canwr enwog Bryn Terfel, sy’n gefnogol iawn i ddatblygu talent newydd yng  Nghymru. 

    Eleni, i nodi 20 mlynedd ers sefydlu’r ysgoloriaeth, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r Urdd yn cyhoeddi elfen ryngwladol newydd. Ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2020, bydd enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019 yn perfformio yn un o’r dathliadau byd-eang ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2020.

     

    03/07/2019
  • Codi Arian Dros Strôc

    Un cam bach i ddyn, un cam gwych dros strôc

    Hanner can mlynedd ers i’r dyn cyntaf gerdded ar y lleuad, mae goroeswyr strôc yng Nghaerdydd bellach yn profi eu bod hwythau hefyd yn gallu goresgyn eu heriau eu hunain trwy gymryd rhan mewn taith gerdded elusennol i’r Gymdeithas Strôc.

    Mae’r elusen yn gwahodd pobl ar draws Caerdydd i ddathlu adferiad ar ôl strôc drwy ymuno â Chamu Allan Dros Strôc ar Sgwâr Landsea, Bae Caerdydd ar 9 Mehefin.

    I nodi’r 50fed pen-blwydd hwn, mae’r Gymdeithas Strôc hefyd yn gobeithio y bydd gan bob taith o leiaf 50 o gyfranogwyr yn codi o leiaf £ 50 i gefnogi ei gwaith yn cynnig cymorth i oroeswyr strôc a’u hanwyliaid, wrth iddynt ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc.

    Dywedodd Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru, “Pan mae strôc yn taro, mae rhan o’ch ymennydd yn cau. Ac felly mae rhan ohonoch chi hefyd. Mae hynny oherwydd bod strôc yn digwydd yn yr ymennydd, y ganolfan reoli ar gyfer pwy ydym ni a beth y gallwn ei wneud. Mae effaith hynny’n amrywio yn ôl pa ran o’ch ymennydd sydd wedi ei heffeithio; gallai fod yn unrhyw beth o ddileu’ch gallu i siarad, eich gadael gydag anabledd corfforol neu effeithio ar eich emosiynau a’ch personoliaeth.

    “I lawer o oroeswyr strôc, gall ailadeiladu eu bywydau ymddangos fel her enfawr, yn debyg i gyrraedd y lleuad pumdeg mlynedd yn ôl. Gwyddom fod adferiad yn anodd, nid ydym yn gwadu hynny, ond gyda’r gefnogaeth arbenigol gywir a thunnell o ddewrder a phenderfyniad, gall yr ymennydd addasu ar ôl strôc.

    “Yn union fel y dathlwyd y camau cyntaf hynny ar y lleuad 50 mlynedd yn ôl, mae pob taith Camu Allan Dros Strôc yn dathlu’r holl ffyrdd y mae goroeswyr strôc yn ailadeiladu eu bywydau. Mae adferiad o strôc yn ymdrech tîm. Cofrestrwch a byddwch yn rhan o’n tîm ni.”

    I gofrestru, neu i gael gwybod mwy, ewch i www.stroke.org.uk/stepout.

    06/06/2019
  • Dathlu Llwyddiant Geraint Thomas

    Ysgolion Caerdydd yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru i ddathlu taith at lwyddiant Geraint Thomas

    Mae wyth o ysgolion Caerdydd wedi derbyn grant o £12,500 i ddathlu gyrfa Geraint Thomas a’r rôl allweddol y chwaraeodd y clwb beicio, y Maindy Flyers, yn ei ddatblygiad. Mae’r grant wedi cael ei roi fel rhan o gynllun ‘Cydweithio Creadigol’ Cyngor Celfyddydau Cymru a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu gwaith celf fydd yn cael ei osod o amgylch y trac – man cychwyn sawl pencampwr beicio – sydd wedi ei leoli ar safle Canolfan Maendy – a redir gan ‘Better Cardiff’.
    Bydd plant o Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Gynradd Albany, Ysgol Gynradd Allensbank, Ysgol Gynradd Gladstone, Ysgol Gynradd Gatholig St. Josephs, Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica ac Ysgol Mynydd Bychan i gyd yn cyd-weithio gyda thrawstoriad o artistiaid, cerddorion a beirdd gyda’r bwriad o greu cofeb weledol parhaol o’r rhan bwysig y mae’r Ganolfan wedi ei chwarae yn hanes chwaraeon yng Nghymru. Cefnogir y prosiect gan yr Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig a bydd yn cloi gyda Gŵyl Crys Melyn arbennig yng Nghanolfan Maendy ym mis Gorffennaf i gyd-fynd gyda Tour de France 2019. Bydd yr Ŵyl yn cynnwys cyfraniadau cerddorol gan rai o’r ysgolion sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect a bydd y gwaith celf yn cael ei ddadorchuddio’n swyddogol yn ystod y digwyddiad yma.


    Canolfan Maendy Better yw’r unig drac beicio awyr agored yng Ngaerdydd ac mae’n gartref i’r Maindy Flyers, ble cychwynodd enillydd y Tour de France yn 2018, Geraint Thomas, ei yrfa.
    Dywedodd Anthony Hayes, rheolwr Canolfan Maendy, a redir gan Better Cardiff:
    “Mae Canolfan Maendy yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect celf cyffrous yma, un fydd yn dathlu camp aruthrol ein harwr lleol a Phersonoliaeth y Flwyddyn y BBC – Geraint Thomas. Bydd yn gyfle i blant a phobol ifanc ardal Cathays arddangos eu hedmygedd a’u cefnogaeth o daith Geraint ac i ddathlu gwireddu ei freuddwydion a fagwyd pan gychwynodd, yn fachgen ifanc, feicio gyda’r Maindy Flyers ar yr unig drac beicio awyr agored yng Nghaerdydd. Trwy’r celfyddydau, gall ein pobl ifanc ysbrydoli eraill i ddilyn yr un daith at lwyddiant.”
    Dywedodd Deian Jones, Cadeirydd Clwb Ieuenctid Beicio’r Maindy Flyers: “Mae gan Glwb Ieuenctid Beicio’r Maindy Flyers hanes arbennig gyda llwyddiant Geraint yn Le Tour yn uchafbwynt amlwg. Does dim amheuaeth y bydd y gwaith celf yma’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o feicwyr ac yn gymorth i’n clwb fynd o nerth i nerth.” Dywedodd Miss Siân Evans, Pennaeth Ysgol Mynydd Bychan: “Bydd y prosiect yma’n sicrhau bod cofeb barhaol o nid yn unig llwyddiant ysgubol Geraint Thomas – ond pob un cyn-aelod o’r Maindy Flyers sydd wedi mynd yn eu blaenau i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus fel beicwyr proffesiynol. “Breuddwydiwch yn fawr, ewch amdani, peidiwch gadael i unrhyw beth eich dal yn ôl,” oedd un o brif negeseuon Geraint Thomas yn dilyn ei fuddugoliaeth. Mae’r prosiect yma’n ‘breuddwydio’n fawr’ ond mae’n un sydd gyda’r potensial i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o feicwyr ac athletwyr brwd. Bydd hefyd yn sicrhau bod gan blant yr ardal hon rhywbeth i’w hatgoffa’n barhaus o’r angen i anelu’n uchel ac i ddyfalbarhau wrth iddyn nhw ddilyn eu breuddwydion a bod, gyda gwaith caled, llwyddiant yn gyrhaeddadwy i bawb – beth bynnag yw’r meysydd maen nhw’n dewis arbenigo ynddo.”

    01/02/2019
  • Brwydro am Ysgoloriaeth Bryn Terfel

    Jodi Bird o Benarth ac Elwyn Siôn Williams o Gaerdydd yn brwydro am Ysgoloriaeth Bryn Terfel

    Bydd Jodi Bird, sy’n 20 oed ac yn dod o Benarth, yn rhoi o’i gorau ar nos Wener 12  Hydref pan fydd yn cystadlu am wobr fawreddog Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2018. Noddir y wobr eleni gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

    Cafodd Jodi ei dewis fel un o grŵp o chwech o’r cystadleuwyr mwyaf addawol yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed eleni. Byddant oll yn perfformio mewn cyngerdd arbennig yn Mhafiliwn Llandrindod am y fraint o ennill yr Ysgoloriaeth, sydd yn cynnwys gwobr ariannol o £4,000 i’w defnyddio er mwyn datblygu talent yr enillydd i’r dyfodol.

    Er yn wreiddiol o Benarth, mae Jodi bellach yn byw yn Llundain ac yn fyfyrwraig israddedig yn Academi Urdang yng nghanol y ddinas. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol yn dilyn ei hymddangosiad ar lwyfan Britain’s Got Talent yn 2014. Ers hynny mae wedi teithio’r byd yn canu mewn mannau yn gynnwys Disneyland Paris, Awstralia ac UDA. Bu’n chwarae rôl Eponine yng nghynhyrchiad yr Urdd/Canolfan Mileniwm Cymru o Les Misèrables yn 2015 a rhan Cinderella ym mhantomeim y New Theatre yng Nghaerdydd.

    Hefyd yn rhoi o’i orau ar nos Wener 12 Hydref bydd Elwyn Siôn Williams, sy’n 18 oed ac o ogledd Caerdydd. Mae Elwyn bellach newydd gychwyn cwrs theatr cerdd yn Academi Berfformio Mountview yn Llundain. Mae’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd y Wern ac Ysgol Gyfun Glantaf, lle bu’n perfformio mewn sawl cynhyrchiad gan gynnwys Ysgol Roc lle roedd yn brif gymeriad. Magwyd ei brofiadau clocsio gydag Adran yr Urdd Bro Taf a bu’n aelod o gast Les Misèrables (Fersiwn Ysgolion, 2015) a Hwn yw Fy Mrawd (2018).

    Y pedwar arall a fydd yn cystadlu am yr Ysgoloriaeth eleni (oll yn y categori o dan 25 oed) fydd Celyn Cartwright (Dinbych), Emyr Lloyd Jones (Y Bontnewydd, Caernarfon), Glain Rhys (Y Bala) ac Epsie Thompson (Dafen, Llanelli).

     

    08/10/2018
  • Heddwch yn y ddinas

    Heddwch yn y ddinas

    Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd lansiwyd y gyfrol ‘Heddwch yn y Ddinas’, cyfrol sy’n ein tywys o gwmpas 22 o lefydd yn y ddinas sy’n ymwneud â heddwch a heddychiaeth e.e. Y Deml Heddwch a’r Ardd Heddwch Genedlaethol, Lôn Isa Rhiwbeina a Lily Tobias, Capel Minny Street, Cathays ac R J Jones, Prifysgol Caerdydd a Henry Richard, Yr Ais a John Bachelor, cerflun Mahatma Gandhi a cherflun Heddwch ar gyfer Tangnefeddyn y Byd, Sri Chimnoy.

    Mai 18fed, Dydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da, arweiniodd Jon Gower rai o aelodau Cyfundeb Dwyrain Morgannwg Undeb yr Annibynwyr ar ran o’r daith.

    Yn y llun gwelir y grŵp yn yr Ardd Heddwch tu ôl i’r Deml Heddwch (lle lluniwyd y Neges wreiddiol yn 1922 gan y Parchedig Gwilym Davies).

    Anogir grwpiau /cymdeithasau/clybiau neu grwpiau ieuenctid i ddilyn rhan o drywydd ‘Heddwch yn y Ddinas’. Byddai’n sicr yn gyfle i lawer fanteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am ein  prifddinas ac egwyddorion pobl y gallwn eu hefelychu, mewn byd gyda chymaint o drais a rhyfeloedd ynddo. Basai Jon Gower ei hun neu un o ddau berson arall mae Cell Cymdeithas y Cymod, Caerdydd wedi eu holi hefyd yn barod i arwain taith o’r fath.

    Gellir cael copïau o’r llyfryn dwyieithog (£5) yn siopau Cymraeg y ddinas neu cysylltwch gydag

    R Alun Evans  ralun.evans36@gmail.com 02920520854   07763339141

    neu

    Dafydd a Meri Griffiths   02920 568420   07800558996    ha.fan@virgin.net

    Mae ap hefyd ar gael i gyd-fynd â’r llyfryn. Ewch i App Store neu Google Play a chwilio am ‘Heddwch yn y Ddinas’

    03/07/2019
  • Cronfa Glyndŵr yn yr Eisteddfod

    Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn cael ei holi gan Dylan Jones, Radio Cymru

    Cynhelir sesiwn ddifyr a dadlennol ym Mhabell y Cymdeithasau 1 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 12 o’r gloch ar ddydd Mercher 8fed o Awst, pan fydd Dylan Jones, cyflwynydd bywiog Radio Cymru, yn holi Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg am ei swydd newydd a’i obeithion ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg.

    Ers ei benodi mae Aled Roberts wedi bod yn teithio o gwmpas Cymru yn ceisio deall profiadau pobl a’u hagweddau at yr iaith. Dywed “Ers i mi gychwyn y swydd ym mis Ebrill, dwi wedi teithio i bob cwr o Gymru yn siarad gyda chwmnïau, sefydliadau a’r cyhoedd am eu defnydd hwy, neu beidio, o’r Gymraeg.  Rwyf wedi gweld gwahaniaethau mawr o un ardal i’r llall, er bod rhai themâu cyson wedi codi.  Edrychaf ymlaen at rannu rhai o’r themâu hyn gyda Dylan Jones yn yr Eisteddfod.”  Ymhlith y pynciau trafod eraill bydd cefndir ieithyddol Aled Roberts ei hun, heriau’r dasg o’i flaen yn Gomisiynydd a chyrraedd un filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

    Cronfa Glyndŵr sy’n trefnu’r sesiwn hon yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy. Nod y Gronfa yw codi arian i ddosbarthu grantiau i ysgolion, Mentrau Iaith a chylchoedd meithrin, er mwyn hybu addysg cyfrwng Cymraeg.  Meddai Catrin Stevens, Cadeirydd Cronfa Glyndŵr, ‘Dyma’r eildro i’r Gronfa fentro i gynnal sesiwn o’r fath yn y Brifwyl, a bydd yn gyfle i ni ystyried sut y gallwn ni, fel mudiad, hybu a chefnogi gweledigaeth y Comisiynydd, yn enwedig ym maes addysg. Rydym yn weithredol iawn yn hyrwyddo addysg gyfrwng Cymraeg ledled Cymru, ac wedi rhannu cyfanswm o tua £38,000 o’r Gronfa rhwng 2011 a 2019. Mae cylchoedd a chylchoedd meithrin a Mentrau Iaith yn y de a’r gogledd ddwyrain wedi elwa’n fawr o’r grantiau hyn ond prin yw’r ceisiadau o’r gogledd orllewin ac o sir Conwy ei hun. Hoffem petai’r drafodaeth hon gyda’r Comisiynydd yn sbardun i’n cyfeillion yn y siroedd hyn ystyried sut y gellir grymuso addysg Gymraeg yn eu hardaloedd trwy gefnogaeth ymarferol y Gronfa.’

    Croeso cynnes i bawb i’r digwyddiad pwysig hwn.  

    Am wybodaeth bellach cysyllter â catrinstevens@outlook.com neu prosserh@btinternet.com

     

    03/07/2019
  • Lluniau Ysgol St Curig

    Lluniau Ysgol St Curig

     

     

     

    Blwyddyn 6

     

    Côr

    01/02/2019
  • Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn y Bowlen Genedlaethol

    Powlen Cenedlaethol URC – Rownd yr 16 olaf

    Clwb Rygbi Cymry Caerdydd 33 – Pendyrus 12

    Mae hi wedi bod yn dymor digon siomedig hyd yma i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd. Wedi disgyn o Adran 2 i Adran 3 ar ddiwedd y tymor blaenorol, y gobaith oedd y byddem yn gallu cystadlu i adennill ein statws yn yr adran uwch. Ond siomedig fu’r misoedd cyn y Nadolig, gyda’r Clwb yn methu creu unrhyw fomentwm, gyda nifer o gemau’n cael eu canslo fel canlyniad i’r tywydd sâl a’r gemau rhyngwladol. Er i ysbryd y garfan barhau’n uchel, roedd angen i rywbeth sbarduno’r tymor.

    Trwy gydol yr adeg hon, roedd y bechgyn wedi bod yn cystadlu yng nghwpan Powlen Undeb Rygbi Cymru, ac er y trafferthion yn y gynghrair, roeddem wedi bod yn llwyddianus yn y cwpan. Yn sgîl hyn, ar Ionawr 12fed, croesawyd Pendyrus i gaeau Pontcanna ar gyfer gêm yn rownd y 16 ola’ yn y cwpan. Roedd y tywydd yn berffaith, a braf oedd gweld nifer o gyn-aelodau’r Clwb wrth ochr y cae wrth i’r gêm ddechrau.

    Cafwyd dechrau delfrydol i’r gêm. Gyda Tylorstown, efallai, yn disgwyl ennill y gêm, manteisiodd y Clwb ar ddechrau gwallus y gwrthwynebwyr, trwy sgorio dau gais o fewn y deg munud cyntaf, y naill gan yr asgellwyr Alun Evans a’r llall gan Gwion Emlyn. Dihunodd Pendyrus, a sgorio cais, a dechrau rhoi’r Clwb dan bwysau, ond roedd penderfyniad ac ymroddiad i berfformiad y Clwb wrth iddynt ddilyn cyfarwyddiadau’r hyfforddwyr. Wrth gyrraedd hanner amser, roedd y Clwb wedi ymestyn y fantais i 18-12, â’r gêm yn dal i fod yn y fantol.

    Llwyddodd capten y Clwb, Oli Jenkins, â chic gosb bellach, i ymestyn y fantais i ddau sgôr, cyn i Bendyrus fwynhau cyfnod hir o ymosod o fewn dwy ar hugain y Cymry. Gyda’r tîm cartref yn amddiffyn am eu bywydau, a gyda’r dyfarnwr yn gorfod estyn am ei gerdyn melyn ar fwy nag un achlysur, roedd hi’n edrych yn anochel y byddai’r wal amddiffynnol yn cael ei thorri. Ond na, dal eu tir wnaeth y bois, ac wedi chwarter awr o amddiffyn, llwyddwyd i dorri’n rhydd i dir y gwrthwynebwyr, gydag Oli Jenkins yn croesi dan y pyst. Yn sydyn, roedd y pwysau wedi’i godi o’n hysgwyddau, ac roedd modd mwynhau’r deg munud ola, gan wybod bod y fuddugoliaeth yn ddiogel. Roedd hyd yn oed amser i Deian Thomas lygadu bwlch ar ochr dywyll sgarmes, a chroesi am bedwerydd cais y Clwb, i ddechrau’r dathlu.

    Roedd e’n deimlad da. Perfformiad a buddugoliaeth gorau’r Clwb ers tro byd, a bu dathlu mawr yn y Clwb wedi’r gêm. Mae digon o waith o’n blaenau, ond roedd hi’n sylfaen dda ar gyfer gweddill y tymor. Clwb Rygbi fydd yr unig glwb o Gaerdydd yn rowndiau’r 8 ola yn y Bowlen neu’r Plât, a phwy a ŵyr, os bydd y perfformiadau yn y rowndiau nesa cystal â’r un yn y 16 ola, efallai y byddwn yn gallu edrych ‘mlaen at ymweld â Stadiwm Principality am yr ail dro mewn pum tymor.

    Yn y rownd nesa’, bydd y Clwb yn teithio lawr i Nantgaredig, ar Fawrth 2ail, gyda’r gêm yn dechrau am 2.00pm. Dyw Nantgaredig heb golli’r  tymor hwn, ac felly mae’n debyg bod her anferth o’n blaenau, ond bydd y bechgyn yn ddigon hyderus wedi’r perfformiad yn y rownd flaenorol. Gobeithiwn y bydd cymaint o ddilynwyr y Clwb yn gallu ymuno â ni lawr yno, a’r bwriad yw llogi bws i fynd â ni lawr ’na. Os oes diddordeb gennych deithio ar y bws hwnnw, byddwch cystal â danfon ebost at rhyscrcc@hotmail.com , neu cadwch lygad ar gyfrif Trydar y Clwb @clwbrygbi.

    01/02/2019
  • Enillydd POBOL Y RHIGWM

    POBOL Y RHIGWM

    Croeso i gornel Pobol y Rhigwm.  Yn rhifyn mis Awst, sef rhifyn arbennig yr Eisteddfod, y dasg (rhif 16) oedd llunio llinell neu gwpled o gynghanedd yn cynnwys unrhyw fis.  Daeth cannoedd o gynigion i law, ond dim ond gofod i gyhoeddi dwy ymgais sydd y tro hwn.  Dyma nhw:

    Ymadael cyn mis Medi,

    Bwrlwm prifwyl a’i hwyl hi.

    gan Col

    Mae cwpled Col yn gywir, ac wrth gwrs yn cyfeirio at ryw ddigwyddiad a fu ym Mae Caerdydd ym mis Awst eleni.  Dweud y mae fod yr ŵyl a’i rhialtwch wedi diflannu’n fuan.

     

    Mis Ebrill mae briallu

    Yn lliwio llawr y gelli.

    gan Gellilon

     

    Mae angen ailweithio cwpled Gellilon – dylai un llinell o’r ddwy fod yn acennog, mewn cwpled caeth, ac mae’r gynghanedd yn anghywir.  Trueni am hynny, gan fod y syniad a’r darlun telynegol yn hyfryd. Byddai’n werth i Gellilon ymuno ag un o’r ysgolion barddol ardderchog a gynhelir trwy Fenter Caerdydd yn y brifddinas.

    Felly, am lunio cwpled cywir, Col sy’n mynd â hi y tro hwn.

    Y dasg nesaf i’r rhigymwyr (rhif 17) yw brawddeg ar y gair TERESA.  

    Yn ôl yr arfer, anfonwch cynigion at: db.james@ntlworld.com  erbyn 10 Hydref.

    Enillydd tasg rhif 16 yw

    Colin Williams, Creigiau     

     

    24/09/2018

 

Rhestr Llawn