Newyddion Ychwanegol
Dau Gyngerdd Arbennig i Eilir Owen Griffiths ym mis Rhagfyr
06/11/2025Dau Gyngerdd Arbennig i Eilir Owen Griffiths ym mis Rhagfyr
Bydd mis Rhagfyr eleni yn un arbennig i’r arweinydd corawl a’r cyfansoddwr o Greigiau, Eilir Owen Griffiths, wrth iddo gyflwyno dau gyngerdd sydd â lle arbennig yn ei galon – cyngerdd lansio CD newydd Côr CF1, Cerddwn Drwy’r Tywyllwch, a pherfformiad cyntaf o’i waith Adre Dros ‘Dolig gyda Chôr Ifor Bach.
Ar Nos Wener 5 Rhagfyr am 7.30pm bydd Côr CF1 yn cynnal cyngerdd lansio eu CD mwyaf diweddar. Mae’r casgliad arbennig hwn o ganeuon yn adlewyrchu taith gerddorol Côr CF1 ers 2020 pan nad oedd cyd-ganu yn bosib. Ers y cyfnod hesb hwnnw mae CF1 wedi mynd o nerth i nerth, gan gipio teitl Côr y Byd, dwy wobr gyntaf yng Ngŵyl Gorawl Ryngwladol Hull, a thair gwobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac eleni eu henwi yn Gôr yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Mae pob darn ar y CD yn dwyn atgofion o eiliadau cofiadwy ar lwyfannau a digwyddiadau nodedig. Ceir yma amrywiaeth o alawon traddodiadol sy’n pontio cenedlaethau, trefniannau cyfoes sy’n dangos creadigrwydd, a gweithiau sy’n cyffwrdd y galon. Bydd Côr Bechgyn Hŷn Ysgol Plasmawr yn ymuno ag CF1 ynghyd â Siân Thomas yn cyflwyno a Beatrice Newman ar y sielo. Cynhelir y cyngerdd yn Eglwys Teilo Sant yn yr Eglwys Newydd.
Ar Nos Sul 7 Rhagfyr bydd Côr Ifor Bach, enillwyr Côr Cymru 2024, yn perfformio Adre’ Dros ‘Dolig sy’n waith gwreiddiol gan Eilir a’r bardd toreithiog Grahame Davies. Ysgrifennwyd y gwaith yn wreiddiol yn 2021, ond oherwydd cyfnod personol anodd o iselder, ni chafodd ei berfformio bryd hynny. Bellach, bedair blynedd yn ddiweddarach, mae Eilir wedi addasu’r gwaith ar gyfer Côr Ifor Bach, gan roi bywyd newydd i’r gwaith.
Mewn arddull sioe gerdd, mae Adre Dros ‘Dolig yn gylch o ganeuon sy’n cynnig cipolwg unigryw ar fywydau pobl wrth iddynt deithio adref ar y dydd Gwener diwethaf cyn y Nadolig yng ngorsaf drenau Caerdydd Canolog. Mae pob cân yn bortread o sefyllfa unigol, gan ddangos y straeon personol sy’n datblygu yn ystod cyfnod y Nadolig.
Mae Stiward y Trenau yn ceisio cadw’r dorf yn llawen wrth drosglwyddo cyfarwyddiadau am sefyllfa druenus. Mae’r Nyrs wedi wynebu sefyllfaoedd anodd ac yn parhau i wasanaethu gyda chalon gref. Mae’r Gŵr Gweddw yn hel atgofion am ei gyn-wraig, gan ddangos y tristwch a’r hiraeth sy’n dod gyda cholled. Mae’r Fam yn cysuro ei phlentyn, gan ddangos cariad a gofal di-ben-draw. Yn y cyfamser, er bod y Caplan yn cwestiynu ei ffydd, mae’n dal i ofalu am yr unig a’r digalon, gan ddangos ymroddiad a gofal tuag at y gymuned. Mae Siôn yn ddyn ifanc mewn sefyllfa fregus ac mae’r Ddynes Busnes lwyddiannus am fynd adref gyda neges glir i’w theulu nad yw hi am ei chuddio. Mae’r Myfyriwr wedi cael tymor cyntaf difyr yn y Brifysgol ac yn barod i symud ymlaen, ac yna mae Seren, gyda’i phac ar ei chefn, yn methu aros i deithio’r byd, yn dod â naws o antur a chyffro i’r sioe. Ond rôl ganolog y gwaith yw Gwyn, y dyn digartref, sy’n gweld y cyfan ac yn cynnig clust i wrando pan fo angen, gan ddangos empathi a dealltwriaeth ddofn i’r rhai sy’n pasio heibio’r orsaf. Yn plethu trwy’r cyfan mae’r Carolwyr, sy’n canu darnau cyfarwydd gydag ymdriniaeth newydd, gan ychwanegu at awyrgylch y Nadolig.
Mae’r gwaith yn ddathliad o fywyd, cariad, colled, a gobaith. Wedi’i osod yn erbyn cefndir prysur a bywiog Caerdydd Canolog, mae’n adlewyrchu’r amrywiaeth o brofiadau dynol a’r cysylltiadau sy’n ein huno ni i gyd yn ystod y Nadolig.
Cynhelir y noson yng Nghapel Bethlehem, Gwaelod y Garth am 7.30pm ar Nos Sul 7 Rhagfyr. Mae’r ddau gyngerdd yn cynnig profiadau cerddorol unigryw. Mae tocynnau ar gael o: www.eventbrite.com.
Tanysgrifio ar y Wê
10/03/2024
Taith Cymdeithas Edward Llwyd
03/10/2021
Taith Maes Gellinudd, Pontardawe
Mae aelodau Cymdeithas Edward Llwyd newydd gael eu taith gyntaf ar ôl cael mis o egwyl dros yr haf. Wel ia, mae hyd yn oed ein haelodau brwd yn cael sbel o ymlacio dros yr haf! Ond mae’n braf cael ein sgidiau cerdded yn ôl ar ein traed unwaith eto.
Roedd taith rhanbarth y De a’r Canolbarth yn ardal Gellinudd ger Pontardawe yma yn y De. Roedd hi’n ddiwrnod sych a braf, yn gynnes ond nid yn grasboeth ac ar ôl y dringo serth o’r pentref roedd golygfeydd godidog i ni eu mwynhau, a chael ein gwynt yn ôl ar yr un pryd. Roedd ein harweinydd Liz Jones wedi byw yn yr ardal trwy gydol ei hoes ac yn falch iawn i rannu ei gwybodaeth efo ni. Gwaith glo oedd fan hyn wrth gwrs ac fel bob hen ardal ddiwydiannol mae’n baradwys i gerddwyr a seiclwyr efo llawer o lwybrau yn dilyn rheilffyrdd a thramffyrdd ddoe.
Roedd dwsin ohonom yn cerdded ac mewn hanner awr roedden ni wedi cwblhau’r her gyntaf, sef plodio fyny llwybr igam-ogam er mwyn cyrraedd tir uchel. Dilyn llwybr tu cefn i dai efo gerddi mawr a diolch yn dawel nad ni oedd yn gorfod eu cadw nhw’n daclus. Cyrraedd Eglwys Cilybebyll ac roedd hi’n amser i ni gael ein picnic a dyna ni yn eistedd yn gyfforddus a pharchus ar wal y fynwent. Lle braidd yn ddiarffordd a dim ond sŵn yr adar yn canu oedd yn torri ar draws ein clebran. Roedd yr haul yn tywynnu a’r byd yn braf. Ond roedden i’n bell o’n ceir, felly ymlaen â ni ar lwybrau llawn mwyar duon. Dim amser i’w hel nhw ond mi wnaeth ’na ddigon gael eu bwyta i roi lliw ar ein tafodau. I lawr ar hyd lwybrau serth i ddyfnderoedd y coed ac ambell wyriad i ni weld olion gwaith a chwt ble roedd y powdr a’r tanwyr yn cael eu cadw. Roedd y cwt wedi cael ei adeiladu fel os oedd ffrwydrad yn digwydd bydddai popeth yn mynd trwy’r to ac nid trwy’r waliau.
Roedd inclein hir a serth yn mynd â ni allan o’r coed felly pennau i lawr ac un coes o flaen y llall tan i ni gyrraedd beth oedden ni’n ei feddwl oedd y pen. Ond wrth gwrs roedd pen arall. Dilyn lôn heibio hen dai teras a phob un efo hen greiriau o bell, bell yn ôl. Roedd fel bod y trigolion mewn cystadleuaeth.
Cyn bo hir roedden ni’n cerdded i lawr yr un llwybrau yr roedden ni wedi eu dringo yn y bore a dyna ni yn ôl wrth y ceir ac yn rhoi diolch i Liz am drefnu’r daith a’n tywys ni. A dyna beth sydd yn braf am y Gymdeithas, dyn ni’n dod i adnabod ardaloedd o Gymru bydden ni ddim wedi eu gweld a chael hanes newydd i’n haddysgu ni. Pishyn wrth bishyn mae’r darnau o’r jig-so yn dod at ei gilydd a dyn ni’n dysgu mwy ond fyddwn ni byth yn dysgu’r cwbl lot.
Dewch efo ni, mae ein rhaglen o deithiau ar ein gwefan www.cymdeithasedwardllwyd.cymru ac edrychwch o dan ‘Gweithgareddau’
Gwireddu breuddwyd
28/02/2020Cael derbyn galwad ffôn oddi wrth dîm marchnata John Lewis fyddai breuddwyd unrhyw siop fach annibynol. Dyna‘n union ddigwyddodd i Sara, sy’n byw’n lleol yng Nghaerdydd, ac sy’n berchen ar gwmni shnwcs.
Mae Sara yn fam llawn amser, ac yn rhedeg busnes bach ar ôl oriau amser gwely’r plant gyda’r nos yn cynhyrchu anrhegion chwaethus Cymraeg i famau newydd. Cardiau Camau Cyntaf (cardiau milestones), prints Cymraeg, cardiau cwpwrdd babi, a nwyddau Cymraeg ar gyfer partïon baby shower (neu Parti Bwmp!).

Cysylltodd John Lewis â shnwcs yn uniongyrchol yn gofyn iddynt i addurno eu hardal bwydo/newid babi yn eu siop yng Nghaerdydd, sydd ynghanol cael trawsnewidiad. Mae’r siop hefyd wedi rhoi cyfle i shnwcs arddangos eu gwaith mewn stondin pop up ar lawr y siop ar ddechrau mis Mawrth, yn ystod adeg prynu a gwerthu anrhegion Sul y Mamau.
Tro nesa byddwch chi yn John Lewis, ewch lan i’r llawr top i weld gwaith Sara. Neu os oes diddordeb mewn prynu unrhyw un o’r nwyddau bydd y stondin pop up yn y siop o’r 9fed o Fawrth am wythnos gyfan.
Mae shnwcs hefyd yn gwerthu’r cyfan ar wefan Etsy, ac mewn siopau lleol yn y ddinas – Bodlon, Cant a Mil Vintage, Coopers, ac Insole Court.
Mae’r Dinesydd yn estyn llongyfarchiadau calonnog a’n dymuniadau gorau i Sara a shnwcs!
Dyma rai enghreifftiau o gynnyrch shnwcs.





Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl
03/12/2019PENLLANW DEGAWDAU O WAITH YMCHWIL
Penllanw degawdau o waith ymchwil i hanes unigryw Cymry Lerpwl a glannau Merswy yw Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl (Y Lolfa) gan D. Ben Rees. Dyma gyfrol swmpus, yn cynnwys lluniau, sy’n gofnod pwysig gan un o awduron amlycaf y ddinas ac sy’n adnabyddus drwy Gymru gyfan.
Meddai D. Ben Rees:
“Dyma rhoi sylw dyledus i Gymry Lerpwl o’r cyfnod pan oedd yn bentref pysgota hyd at y ddinas yw hi heddiw.”
Mae’r trysorfa o wybodaeth am bobl a digwyddiadau un o’r dinasoedd mwyaf diddorol ym Mhrydain. Ceir hanes y miloedd ar filoedd o Gymry Cymraeg a heidiodd i Lerpwl a’r cyffiniau i chwilio am waith ac i wella amodau byw, gan gynnwys adeiladwyr, gweinidogion, meddygon a siopwyr.
Dywedodd D. Ben Rees: “Yn sgil yr ymfudo o Gymru, yr Alban, Ynys Manaw, Cernyw ac Iwerddon yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, daeth Lerpwl yn ddinas unigryw. Ond y duedd gan haneswyr yn gyffredinol yw pwysleisio cyfraniad y Gwyddelod yn unig i’r ddinas. Anwybyddir y Cymry i raddau helaeth gan eu bod, mae’n debyg, wedi canoli eu hymdrechion ar fywyd y capel a’r teulu. Dim ond ambell un fentrodd i fwrlwm gwleidyddiaeth y ddinas, lle’r oedd y Gwyddelod yn amlwg iawn. Mae rhai Cymry a lwyddodd wedi cael sylw, ond beth am y tlodion, y rhai dienw a oedd yn rhygnu byw ac yn gorfod dibynnu ar gardod gan eraill?”
Tystia Ellis Roberts fod Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl yn gyfraniad nodedig, meddai:
“Y mae gwybodaeth Dr D. Ben Rees ynghylch Cymry Lerpwl yn gwbl ddigymar. Yn y gyfrol yma gall blethu ynghyd ei ddawn fel ymchwilydd hanesyddol â’i brofiad o fod wedi arwain y Gymdeithas Gymraeg yn Lerpwl ers degawdau. Mae’n waith sy’n dysteb deilwng i gyfraniad y Cymry ar Lannau Merswy gan ymfalchïo yn eu cyfraniad, ond heb ei oreuro.”
Mae D. Ben Rees yn byw yn Lerpwl ers 1968. Bu’n gyfrifol am lu o ddigwyddiadau pwysig yn y ddinas. Mae’n adnabyddus fel arweinydd dibynadwy ac fel un sydd wedi gwneud gwaith enfawr ymysg Cymry Lerpwl. Penderfynodd Cyngor y Ddinas, yn unfrydol, i’w gydnabod fel Dinesydd er Anrhydedd mewn seremoni arbennig yn 2018.
Mae Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl gan D. Ben Rees ar gael nawr (£19.99, Y Lolfa).
Achos Capel y Tabernacl, Llanfaches, yn dod i ben
06/11/2025Capel y Tabernacl, Llanfaches
Mae gwahoddiad brwd a chynnes i chwi ymweld â chapel Y Tabernacl, Llanfaches ar fore Sul 7 Rhagfyr, cyn bod yr achos yn dod i ben.
Llanfaches oedd yr achos Ymneilltuol Cyntaf yng Nghymru yn ôl yn 1639.
Rhaglen ar gyfer dydd Sadwrn 6 Rhagfyr eleni.
10.30: Ymgynnull yn y festri am de neu goffi.
11.15: Darlith ar William Wroth a hanes cychwyn yr achos yn Llanfaches yn 1639.
1.00: Bwffe yn y festri.
2.30: Oedfa o ddiolchgarwch a choffâd.
3.30: Y Fendith ac ymadael.
A fyddech mor garedig â rhoi gwybod i:
Gwilym Wyn Roberts: serenagwill@btinternet.com
neu: 07 968 463 737 os ydych yn dymuno ymuno â ni
erbyn nos Sul, 23 Tachwedd,
er mwyn i’r gwirfoddolwyr allu archebu’r bwffe ar eich cyfer. Edrychwn ymlaen at eich gweld, os yn gyfleus.
Awel iach yn Llanfaches – a gafwyd
I gofio am ernes
William Wroth, a’i fflam o wres
Y tân fu’n newid hanes.
Rhys Nicholas
Pam mae Llanfaches mor bwysig yn hanesyddol? Pwy oedd Y Parchedig William Wroth B.A.?
Amhosibl yw ymdrin â’r cwestiwn cyntaf am y cefndir sy’n datgelu pwysigrwydd hanesyddol Llanfaches heb roi ystyriaeth deilwng i’r Parchedig William Wroth B.A.
Ganwyd William Wroth (1570 – 1642) yn Maindiff ym mhlwyf Llandeilo Berthdan (Llantilo Pertholey), ym Mynwy. Addysgwyd yn New Inn Hall, cangen o Brifysgol Rhydychen. Treuliodd bymtheg mlynedd yn Rhydychen gan raddio fel B.A. yng Ngholeg Crist yn 1596/7 pan oedd yn 26 mlwydd oed, ac yna 9 mlynedd yn ddiweddarach enillodd radd M.A. o Goleg Iesu yn 1605.
Gwyddom fod Wroth wedi cael cynnig ‘bywoliaeth’ Llanfihangel Rhosied yn 1613 ac arhosodd yno am 13 mlynedd nes iddo ymddiswyddo oddi yno yn 1626.
Yn 1617, cynigwyd swyddogaeth Rheithor Llanfaches i Wroth gan Y Goron, ac felly roedd ganddo ofal am ddau le am naw mlynedd.
Yn ôl tystiolaeth Thomas Charles, roedd Wroth yn hoff iawn o chwarae’r delyn tu allan i’r Eglwys ar ôl y gwasanaeth boreol. Yn dilyn ei dröedigaeth bu’n bregethwr grymus a dylanwadol. Daeth nifer cynyddol o bobl o bell ac agos i wrando arno nes bod yr eglwys yn orlawn. Rheidrwydd, felly, oedd iddo bregethu tu allan i’r eglwys.
Ar ôl cael ei ddiswyddo fel Rheithor Llanfaches, fe sefydlodd achos annibynnol yn 1639.
Mae’n hanes pwysig a difyr.
Gwilym Wyn
Mae gwahoddiad brwd a chynnes i chwi ymweld â chapel Y Tabernacl, Llanfaches ar fore Sul 7 Rhagfyr, cyn bod yr achos yn dod i ben.
Llanfaches oedd yr achos Ymneilltuol Cyntaf yng Nghymru yn ôl yn 1639.
Rhaglen ar gyfer dydd Sadwrn 6 Rhagfyr eleni.
10.30: Ymgynnull yn y festri am de neu goffi.
11.15: Darlith ar William Wroth a hanes cychwyn yr achos yn Llanfaches yn 1639.
1.00: Bwffe yn y festri.
2.30: Oedfa o ddiolchgarwch a choffâd.
3.30: Y Fendith ac ymadael.
A fyddech mor garedig â rhoi gwybod i:
Gwilym Wyn Roberts: serenagwill@btinternet.com
neu: 07 968 463 737 os ydych yn dymuno ymuno â ni
erbyn nos Sul, 23 Tachwedd,
er mwyn i’r gwirfoddolwyr allu archebu’r bwffe ar eich cyfer. Edrychwn ymlaen at eich gweld, os yn gyfleus.
Awel iach yn Llanfaches – a gafwyd
I gofio am ernes
William Wroth, a’i fflam o wres
Y tân fu’n newid hanes.
Rhys Nicholas
Pam mae Llanfaches mor bwysig yn hanesyddol? Pwy oedd Y Parchedig William Wroth B.A.?
Amhosibl yw ymdrin â’r cwestiwn cyntaf am y cefndir sy’n datgelu pwysigrwydd hanesyddol Llanfaches heb roi ystyriaeth deilwng i’r Parchedig William Wroth B.A.
Ganwyd William Wroth (1570 – 1642) yn Maindiff ym mhlwyf Llandeilo Berthdan (Llantilo Pertholey), ym Mynwy. Addysgwyd yn New Inn Hall, cangen o Brifysgol Rhydychen. Treuliodd bymtheg mlynedd yn Rhydychen gan raddio fel B.A. yng Ngholeg Crist yn 1596/7 pan oedd yn 26 mlwydd oed, ac yna 9 mlynedd yn ddiweddarach enillodd radd M.A. o Goleg Iesu yn 1605.
Gwyddom fod Wroth wedi cael cynnig ‘bywoliaeth’ Llanfihangel Rhosied yn 1613 ac arhosodd yno am 13 mlynedd nes iddo ymddiswyddo oddi yno yn 1626.
Yn 1617, cynigwyd swyddogaeth Rheithor Llanfaches i Wroth gan Y Goron, ac felly roedd ganddo ofal am ddau le am naw mlynedd.
Yn ôl tystiolaeth Thomas Charles, roedd Wroth yn hoff iawn o chwarae’r delyn tu allan i’r Eglwys ar ôl y gwasanaeth boreol. Yn dilyn ei dröedigaeth bu’n bregethwr grymus a dylanwadol. Daeth nifer cynyddol o bobl o bell ac agos i wrando arno nes bod yr eglwys yn orlawn. Rheidrwydd, felly, oedd iddo bregethu tu allan i’r eglwys.
Ar ôl cael ei ddiswyddo fel Rheithor Llanfaches, fe sefydlodd achos annibynnol yn 1639.
Mae’n hanes pwysig a difyr.
Gwilym Wyn
Cofio Cen Cartŵn
12/05/2023





Geni Clwb Rygbi Caerdydd
24/04/2020GENI CLWB RYGBI CYMRY CAERDYDD
1967:
Hon oedd blwyddyn gwrth-ddiwylliant ‘Hâf Serch’ (y Summer of Love enwog), gyda holl ieuenctid San Fransisco yn gwisgo blodau yn eu gwallt wrth wrando ar ‘Grateful Dead’, ‘Big Brother’, a ‘Timothy Leary’. Pynciau mawr y flwyddyn : rhyw, cyffuriau, heddwch, cariad, roc a rôl ac wrth gwrs, protestiadau gwrth-rhyfel.
Pasg 1967:
Stormydd yn chwalu’r llong Torrey Canyon yn ei hanner oddi ar Land’s End gan chwydu 50,000 tunnell o olew i’r môr ac yna i draethau Cernyw a thu hwnt.
Cenedlaetholwyr yr Alban yn tynnu arwyddion oedd yn dynodi’r ffin rhwng Lloegr a’r Alban a’u symud i’r de o dref Berwig-ar-Tweed gan hawlio taw tref Albanaidd oedd hi……..Tra ym myd rygbi, Ffrainc yn bencampwyr y pum gwlad gyda Cymru ar y gwaelod, a’r unig fuddugoliaeth oedd yr un yn erbyn Lloegr o 35 i 21 – gêm enwog Keith Jarrett a chyn aelod o dîm Aelwyd Caerdydd – Billy Raybould – yn llwyddo gyda chic adlam.
Ac ar benwythnos y Pasg 1967:
Clwb Rygbi Aelwyd Caerdydd ar daith mewn rhes o geir a faniau amrywiol i chwarae Clwb Rygbi Aberystwyth ar Ddydd Gwener y Groglith, Clwb Rygbi Bae Colwyn ar y Sadwrn, treulio’r nos Sadwrn a’r Sul yng Ngwesty’r Royal yng Nghaernarfon yn ymlacio (!!??**?) cyn symud ymlaen i chwarae Clwb Rygbi Dolgellau ar ddydd Llun y Pasg.
Y confoi cymysg yn gadael Caerdydd ar y 24ain o Fawrth ar ddechrau’r daith fel Clwb Rygbi Aelwyd Caerdydd, ac fe ellir hawlio – o un safbwynt beth bynnag – taw Clwb Rygbi Cymry Caerdydd fu’n chwarae yn Nolgellau, gan i broses y trawsnewidiad (gair posh Cymraeg am coup d’etat) gychwyn ym mar y Royal ar y prynhawn Sul y Pasg hwnnw ym 1967.
Ond dewch i ni fynd nôl i’r dechre’n deg :
Cychwynwyd tîm rygbi Aelwyd Caerdydd ym 1963 drwy frwdfrydedd dyrnaid o unigolion oedd yn ddisgyblion a chyn ddigyblion ysgolion uwchradd yn y ddinas, yn benodol Ysgol Uwchradd Cathays ag ysgol Uwchradd Canton gydag ambell fyfyriwr o’r gorllewin a’r gogledd ac ambell ŵr proffesiynol yn y ddinas yn chwyddo’r niferoedd i gyrraedd at bymtheg – gan amlaf – ar brynhawniau Sadwrn.
Gwisgodd Martyn Williams fantell ysgrifennydd y tîm rygbi ar y dechrau, gyda chefnogaeth a brwdfrydedd rhai o ddisgyblion chweched dosbarth yn yr ysgolion hyn, nifer ohonyn nhw wedi chwarae i dîm yr ysgol ar y bore Sadwrn ac yna cytuno i chwarae dros dîm yr Aelwyd yn y prynhawn. Dwl ac ifanc siwr o fod! Neu falle ifanc a dwl! Yn eu plith roedd unigolion megis Martyn Williams, Elgar Evans, Alun Charles, Leighton Hughes a Dai Hall, ac ymhlith y rhai hŷn gellid rhestru Dr Dafydd Huws, Alun Guy, Geraint Evans, John MeurigEdwards, Derek ‘Doc’ Jones, Mike Gibbard, Rhys Llwyd, John Ifans, Heddwyn Davies, Lynn Davies a Lyn Jones ac eraill. Nifer o’r rhain wedi’n gadael bellach yn anffodus. Bryd hynny byddai sawl un o’r ffyddloniaid Sadyrnol yn dipyn hŷn nag oed aelodau cydnabyddedig yr Urdd. Roedd trefn dewis y tîm yn dra gwahanol i drefn clybiau cydnabyddedig hefyd! Bob nos Wener roedd Alun Guy yn cynnal ymarfer côr Aelwyd Caerdydd yn llawr isaf un o gapeli dwyrain y ddinas, ac yno byddai Martyn Williams yn dal darn o bapur i ysgrifennu enwau ar gyfer y tîm y prynhawn canlynol. Os am chwarae ar y Sadwrn, roedd rhaid troi lan i’r practis côr. Chwaraewyd gêm gyntaf Clwb Rygbi Aelwyd Caerdydd ym mis Medi 1963 a hynny yn erbyn Clwb Rygbi Cwm Carn.
Erbyn tymor 1964-5 gadawodd Martyn Williams y brifddinas -a swydd ysgrifenydd y tîm – wrth iddo fynd yn ddisgybl i Goleg yr Iwerydd yn Llanilltud Fawr. Elgar Evans gydiodd yn yr awenau y tymor hwnnw – a threfn unigryw o ddewis y tîm yn dal i ddibynnu ar bwy oedd yn y practis côr ar y nos Wener! Wrth i nifer o fyfyrwyr ymuno a’r côr, roedd cyfartaledd oed y tîm yn codi fymryn, a felly hefyd arferion ar ôl y gemau brynhawn Sadwrn! Wedi gêm galed, naturiol oedd troi i dŷ tafarn cyfleus i dorri syched a chynnig porc pei a phicls neu wledd tebyg i’n gwrthwynebwyr. Cyn bo hir, fe’i gwnaethpwyd hi’n weddol amlwg nad oedd sanhedrin yr Aelwyd yn or-hapus gydag aelodau’r tîm – roedden nhw yn cynrychioli’r mudiad wedi’r cwbwl – yn mynychu tai tafarn yn dilyn y gêm i ddisychedu a chymdeithasu. Teimlai’r arweinwyr hyn, yn gwbwl ddiffuant, nad oedd gweithgaredd fel hyn yn gytbwys â delfrydau mudiad ieuenctid cenedlaethol oedd yn proffesu bod yn deyrngar i Gymru, cyd-ddyn a Christ. Er gwaetha’r gwrthwynebiad tawel o du rhai o’r arweinwyr, mae’n bwysig talu gwrogaeth iddynt ar yr un pryd am fod yn ddigon blaengar i hybu’r gweithgaredd rygbi, felly hefyd y ddau neu dri unigolyn a wnaeth y gwaith arwrol i berswadio, gorfodi, a themtio unigolion i ddod i Gaeau Llandâf erbyn hanner awr wedi dau ar y Sadwrn. Onibai amdanyn nhw a’u gwaith di-flino mae’n debygol iawn na fyddai CRCC yn bodoli. Dyma’r dyrnaid o unigolion a osododd y seiliau i sicrhau bod yna gyfrwng i Gymry Cymraeg yn y ddinas fedru dod at ei gilydd i gymdeithasu drwy chwarae rygbi. Fe ddaeth y casgliad bach hynod yma o fois oedd yn siarad iaith ddierth iawn, yn gyfarwydd i dîmau eraill y ddinas a dwyrain Cymru dros y tymhorau cynnar, a diolch i Leighton Hughes yn benodol – fe oedd ysgrifennydd, trefnydd, a gweithredydd tîm rygbi’r Aelwyd yn nhymorau 1965/66 a 1966/67 – fe ddaeth darllenwyr y ‘pinc’, sef y ‘Football Echo’, papur chwaraeon y ddinas a ymddangosai yn nhafarndai a gorsafoedd trenau a bysiau’r ddinas tua’r saith o’r gloch bob nos Sadwrn yn gyfarwydd a’i frwdfrydedd. Byddai Leighton yn ddiffael yn cael canlyniad y gêm i dudalennau’r ‘pinc’.
Bu boreau Sadwrn yn dipyn o boen i Leighton, gan taw dyma’r oriau prin oedd ganddo i lenwi’r bylchau yn ei dîm ar gyfer y prynhawn, y bylchau na lwyddwyd i’r llenwi yn y practis côr y noson cynt. Ambell stiwdent yn mwynhau cwsg ar ôl noson hwyr nos Wener, tan i’w gwsg esmwyth gael ei chwalu gan swn cerrig mân yn taro ffenest stafell wely i’w ddihuno, a Leighton wedyn yn gwasgu addewid mas ohonyn nhw i droi lan i Gaeau Llandaf mewn cwpwl o oriau!
Doedd yr Aelwyd ddim yn meddu ar gronfa ddofn i dalu am logi caeau, stafelloedd newid na chrysau rygbi i’r tîm, heb sôn am dalu am y porc peis i’r tîm o bant. Doedd y disgyblion o’r ysgolion uwchradd chwaith ddim yn meddu ar arian i gyfrannu at y gofynion hyn. Ond drwy berswâd ac addewidion fe ddaeth chweugen o gyfraniad gan y chwaraewyr – hanner y pris i ddisgyblion dosbarth chwech! – yn ddigon i gynnal y tîm, fwy neu lai, am y pedair blynedd cynta. O dan yr amgylchiadau cyfyng ariannol hyn – ynghŷd â chwestiynau am fynychu tafarndai – bu sawl sgwrs a thrafodaeth am gynlluniau i’r dyfodol, a’r hyn allai ddigwydd. O dipyn i beth roedd cnewyllyn o aelodau’r tîm yn grediniol taw torri’n rhydd o hualau’r Urdd oedd yr unig ateb, ateb a fyddai’n lleddfu cydwybod rhai o arweinwyr yr Aelwyd, ac a fyddai yn rhoi trefniadaeth y dyfodol yn nwylo’r chwaraewyr. Dros y pedwar tymor fe sefydlwyd patrwm o chwarae wedi ei seilio ar chwarae anturus, agored a ymdebygai fwy i saith-bob-ochr ar adegau, a llwyddodd y steil i ddenu rhagor o chwaraewyr i’r gorlan. Tyfodd nifer y chwaraewyr ac erbyn y daith Pasg ym 1967 roedd dros ugain o chwaraewyr yn y garfan i deithio arfordir y gorllewin. Ar y prynhawn Sul hwnnw ym mar y Royal yng Nghaernarfon, o dan gadeiryddiaeth Derec ‘Doc’ Jones, cafwyd trafodaeth danbaid a orffennodd gyda’r penderfyniad i dorri’n rhydd oddi wrth Aelwyd yr Urdd a sefydlu Clwb Rygbi Cymry Caerdydd.
Yn eironig, gwnaed y penderfyniad pan oedd Leighton Hughes, yr ysgrifenydd a’r perswadiwr cyson wythnosol – ac asgellwr y tîm – yn gorwedd ar ei gefn mewn ysbyty ym Mae Colwyn ar ôl torri ei goes yn y gêm y diwrnod cynt. Y bore canlynol, bore Llun y Pasg, aeth un o’r aelodau i’w gasglu i’w yrru nôl i Gaerdydd – ond drwy Ddolgellau wrth gwrs gan fod yna ornest rygbi i’w chwblhau, sef gêm ola’r daith. Roedd rhaid cwblhau’r penwythnos fel y bwriadwyd, onid oedd!
A rhywdro, yn ystod y daith honno rhwng Dolgellau a Chaerdydd y sylweddolodd Leighton taw fe fyddai’n gorfod wynebu pwyllgor yr Aelwyd i dorri’r newydd am y rhwyg oedd ar fin digwydd. Dyma hefyd pryd y sylweddolodd yntau a rhai o aelodau’r tîm, taw dim ond ychydig fisoedd yn unig oedd ar gael i sefydlu’r tîm, creu pwyllgor, trefnu gêmau bob penwythnos drwy’r tymor, cysylltu ag Undeb Rygbi Cymru ag Undeb Rygbi Caerdydd a’r Ardal i ofyn am ganiatad i fod yn aelod o’u cyfundrefn nhw, ac wrth gwrs roedd rheidrwydd i ddod o hyd i ffyrdd o godi arian i gynnal y Clwb newydd anedig. Nid rhyw hap a damwain fyddai dewis y tîm a gwneud trefniadau ar gyfer y penwythnosau bellach.
O fewn diwrnodau bu’n rhaid wynebu problem ymarferol arall – bob haf roedd y myfyrwyr ac athrawon hefyd, yn codi’u pac a throi am adre, a bron pawb arall wedi trefnu gwyliau personol a theuluol – felly dim ond dyrnaid fechan oedd ar gael i gynnal breichiau Leighton. Roedd un aelod yn adnabod Robert Jones, athro a thipyn o dalent fel artist, ac fe wnaeth yntau gytuno i ddylunio arfbais gwreiddiol y clwb. Roedd John Charles – ie yr enwog gawr tyner hwnnw o Abertawe, Leeds ag Juventus – ynghŷd ag Alun Priday – a fu‘n gefnwr Clwb Rygbi Caerdydd a Chymru – wedi agor siop dillad ac offer chwaraeon yn Rhiwbeina, ac fe aeth Lyn Jones a fu’n gapten tîm yr Aelwyd dros y ddau dymor blaenorol, at y ddau berchen, egluro’r amgylchiadau, a dod i gytundeb i gael set o grysau am bris gostyngol eithriadol, ond yn fwy na hynny fe wnaeth y ddau gytuno i aros am eu harian am nifer o fisoedd. Y bwriad oedd cynnal dawns yn un o glybiau’r ddinas ar nos Wener cyn gêm rhyngwladol – Clwb Estonia ar Stryd Charles yg nghanol y dre oedd y lleoliad, gan fod Doc -ein Cadeirydd – yn adnabod rheolwr y Clwb – ac am nifer o dymhorau, y nosweithiau poblogaidd a gwyllt hyn fu’n cynnal y clwb yn ariannol. Roedd apêl
cael bar ar agor tan un o’r gloch y bore yn ddigonol i ddenu tyrfaoedd i’r achlysuron, yn fyfyrwyr colegau’r ddinas, yn ogystal â’r llu o gefnogwyr o bob cwr o Gymru a deithiai i weld y gêm ar y prynhawn Sadwrn.
Yn ychwanegol at godi arian i gynnal y Clwb, bu’r nosweithiau ‘cymdeithasol’ hyn yn fodd i ledaenu enw’r clwb ar hyd a lled Cymru, a bu hynny yn fodd i gynyddu aelodaeth chwaraewyr y clwb yn ystod y blynyddoedd cyntaf.
Ac ie, o dderbyniadau’r noson gyntaf hon fe dalwyd am y crysau, ynghŷd a thâl aelodaeth i’r Cardiff and District Union. Drwy weithio’n ddiflino bob awr dan haul, llwyddodd Leighton i lunio rhestr gêmau lawn i’r Clwb, galwyd cyfarfod o’r aelodau yn wythnos gynta Medi ac fe ffurfiwyd pwyllgor a dewiswyd Lyn Jones yn gapten am dymor cynta Clwb Rygbi Cymry Caerdydd ym 1967/68. Cadeirydd Clwb Rygbi Cymry Caerdydd oedd D. W. ‘Doc’ Jones, Leighton Hughes (pwy arall!) yn ysgrifennydd, a llywydd cyntaf y Clwb oedd ail rheng gorau y cyfnod i’r tîm cenedlaethol, y Sgarlets, Y Llewod a’r Barbariaid – y gwron o Gwmllynfell, R.H. Rhys Williams. Gydol Awst a Medi bu dau neu dri o’r pwyllgor yn troi i gyfeiriad tafarn y Claude ar Heol Albany yn nwyrain y ddinas, gan i ni glywed bod criw o fyfyrwyr ifanc ac athrawon yn mynychu’r lle, gan fod yr ymgyrch i ddod o hyd i chwaraewyr newydd yn dal i fynd yn ei blaen.
Erbyn wythnosau cyntaf y tymor roedd enwau Alun ‘Brechfa’ Davies, Buckley Wyn Jones, Gareth Jones, Peter Morgan, Ron a Randall Isaac, Wyn Williams, Now Eames, Glyn Davies, Geraint Evans, Edryd Lloyd, Garffild Jones, Mike Arrowsmith, Adrian Davies, Peter ‘Epis’ Evans,John Richards, Paul Kyte, Ashley Williams, D. Bryan James, Gareth Wallace-Evans, Gwyn Griffiths ac eraill yn llyfr ffôn Leighton. Llwyddwyd i drefnu i’r tîm gael caniatad i ddefnyddio tafarn y Clive Arms ar Heol y Bontfaen, diolch i waith ymchwil trylwyr y Cadeirydd. Roedd ‘Doc’ yn adnabod Phineas John a’i wraig pan yn rhedeg tafarn yng nghanol y ddinas, ag yntau yn un o’r selocaf gwsmeriaid, pan glywodd bod y cyn-focsiwr a’i fryd ar symud i‘r Clive yng Nghanton. O’r dechrau’n deg cafodd y Clwb gartre answyddogol ond croesawgar yn ystafell ‘lan llofft’ y Clive, ac yno bob nos Sadwrn yn ystod y tymor byddai’r lle dan ei sang gyda chwaraewyr, gwragedd a chariadon a chefnogwyr yn cymdeithasu i’r oriau mân. Bellach roedd yn bosib gwahodd gwrthwynebwyr yn ôl i’r Clive ar ôl gêm, a bu’r stafell lan stâr yn lleoliad i ganu ysbrydoledig, – wel, brwdfrydig falle – i nosweithiau o gwisiau, ‘steddfod dwp’ ac ambell i noson ddigon diwylliedig.
Gyda Geraint Evans yn bennaeth Addysg Gorfforol yn Ysgol Uwchradd Canton, cawsom le i ymarfer unwaith yr wythnos yn ystod y gaeaf ar nos Fercher, ac
yna ym mar cefn y Clive byddai’r pwyllgor yn cwrdd, ac o fewn ychydig wythnosau roedd digon o chwaraewyr yn ymarfer i ddewis ail dîm yn achlysurol, a dyna ychwanegu at lwyth gwaith yr ysgrifennydd eto!
Ond am y tro cyntaf roedd seiliau gweinyddiad a threfniadaeth yn cael eu gosod a fyddai yn rhoi sicrwydd i ddyfodol y clwb. Ddiwedd Awst gyda golwg ar ddechrau tymor newydd, fe aed ati i drefnu sesiwn ymarfer ar y twyni tywod ym Merthyr Mawr, tipyn gwahanol i’r sesiwn yn nhwyni tywod Llangennydd ar benrhyn Gwyr, gyda hanner dwsin o bebyll a ‘Doc’ ar ôl i bawb grwydro nôl o’r King’s Head yn y pentre, yn rhoi serenâd i’r lleuad a phawb arall o fewn clyw gyda pherfformiad unigryw – arferol – o Santa Lucia, ac os na fyddai rhywun yn ei berswadio yn wahanol, byddai Myfanwy gyda’i lais tenor hyfryd, yn treiddio ar draws y twyni a’r tonnau.
Roedd sawl athro ymarfer corff yn aelodau bellach ac fe gyfrannodd sawl un at y broses o hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol yn ystod y tymor neu ddau cyntaf
Yn ystod misoedd haf 1969, a chyn cychwyn tymor 1969/70 bu Lyn Jones mewn cysylltiad a chyfaill coleg iddo, Dewi Morris Jones, a oedd erbyn hynny yn darlithio ym Mhrifysgol Brest, yn Llydaw, Bwriad y cysylltu oedd ceisio trefnu taith ddiwedd tymor i’r Clwb – y cynta i wlad dramor, a’r daith gynta gan glwb rygbi o Gymru i Lydaw. Llogwyd awyren Dakota (DAK33) oddi wrth gwmni South West Aviation, ac wrth yr enw ar yr awyren, lle i 33 fyddai arni. Fesul cam, a llawer o lythyru, daeth y cyfan i fwcwl ar gyfer Pasg 1970. Yna cafodd y gêmau eu trefnu, a sicrhawyd llety gydol y daith yn un o neuaddau’r Brifysgol yn ninas Brest. Byddem yn teithio o Brest i chwarae’r gemau mewn bws, gyda ail dim Brest yn herio ail dîm y clwb i gychwyn y daith, wedyn teithio i Quimper i chwarae tim cyfun o Lorient a Quimper ar y Sadwrn, tîm cynta Brest ar y Sul, cyn gorffen y daith yn erbyn St Brieuc ar y Llun. Y bwriad oedd teithio gyda 30 o chwaraewyr gan fod tair gêm i’r tîm cynta a dwy i’r ail dîm wedi eu trefnu. Yn y diwedd roedd 33 eisiau mynd ar y daith, 32 chwaraewr ac un teithiwr wedi ei anafu. Torrodd Randall Isaac, mewnwr y clwb, ei ysgwydd ychydig wythnosau cyn y daith – ond doedd dim yn debyg o’i rwystro rhag mwynhau’r cyfan! Ac fe wnaeth!!
Felly ar y prynhawn Iau, 26ain o Fawrth 1970 gwelwyd rhes hir o geir yn anelu am y maes awyr yn y Rhŵs, gyda gwragedd, cyfeillion neu gariadon yn gyrru y 33 er mwyn dal yr awyren. Aethpwyd drwy’r broses o tsiecio i mewn yn hwylus, a phawb yn eiddgar eistedd yn y lolfa ymadael, pan ddaeth peilot yr awyren i mewn a gofyn am gael gair gyda’r trefnydd. Dyma Lyn Jones ato a phawb o’r chwaraewyr ynym wybodol bod rhywbeth o’i le, ac yn ceisio deall beth oedd y rheswm am y sgwrs.
Mae pob hediad awyren yn cael ei seilio ar y dybiaeth taw cymysgedd o deithwyr fydd yn ffurfio ‘llwyth’ yr awyren. (sef dynion gwragedd a phlant!) Doedd y cwmni ddim wedi ystyried taw dynion yn unig oedd y teithwyr y tro hwn, a’r rhelyw yn ddynion cydnerth a thrwm er ei bod yn amlwg ddigon taw clwb rygbi oedd wedi llogi’r awyren! A byrdwn y sgwrs rhwng y peilot a Lyn Jones? “Ni all yr awyren godi oddiar y llain lanio gyda’r llwyth hyn a llond y tanc o danwydd.”
Wel jawl ariôd ! ‘Ma bicil !
Fe aeth y drafodaeth ‘mla’n am dipyn, ac wedi’r trafod roedd gan y peilot dri dewis i’w cynnig :
Yn gynta:
Gadael cit rygbi pawb ar ôl – nawr, ‘doedd hyn ddim yn ddewis rhesymol i dîm oedd yn bwriadu chwarae nifer o gemau rygbi ar ôl cyrraedd yn Llydaw.
Yr ail ddewis oedd :
Tynnu’r bar a’r holl ddiodydd oddi ar yr awyren – ac fe gymerai hynny ddwyawr neu fwy, ond fyddai’r opsiwn yma ddim yn debyg o blesio’r teithwyr sychedig chwaith.
A’r trydydd dewis:
Danfon awyren fechan pum sedd o faes awyr Caerwysg (Exeter) i gario pum chwaraewr arni, gydag ymddiheuriadau dwysaf yn dod o du’r cwmni awyrennau.
Cytunwyd ar y trydydd dewis i oresgyn y broblem, ac ar ôl egluro’r sefyllfa i’r aelodau disgwylgar, gofynodd Lyn am wirfoddolwyr i deithio gydag ef yn yr awyren fach, a gwnaeth Lynn Davies, Bryan James, John Richards ag Ashley Williams ymuno ag ef. Ffarweliwyd â’r wyth ar hugain arall wrth i’r Dakota godi i’r awyr ac anelu am Llydaw, gan adael y pump yn y bar i ddioddef aros dwy awr am yr awyren fechan i gyrraedd. Ar ôl dwy awr syber dros ben, a dringo’n sigledig i mewn i’r Cessna i ymuno a’r peilot, fe ddechreuodd rhai ganu ‘I Mewn I’r Arch a Nhw’ a ro’n nhw’n ...
Y Pumed Drws gan Sion Hughes
03/12/2019Y Pumed Drws gan Sion Hughes
Yn y tŷ, saif y perchennog: gwraig urddasol a thal yn ei chwedegau. O’i blaen mae merch ifanc. Mae’r ddwy ar fin taro bargen. Ar y landin, lle saif y ddwy, mae pump o ddrysau. Mae tri ohonynt yn arwain at y llofftydd, y pedwerydd at yr ystafell ymolchi, ond saif y pumed drws ar glo.
– Prolog, Y Pumed Drws (Gomer 2019).
Hunanladdiad yw’r rheithfarn swyddogol yn dilyn darganfyddiad corff mewn ardal anghysbell ar arfordir Ynys Môn. Mae D.I. John yn sgeptig ac yn credu bod grymoedd cudd y seiri rhyddion ar waith.
Mae perchennog un o’r cartrefi bonedd lleol wedi cloi’r pumed drws ond beth yw cysylltiad yr ystafell ddirgel hon gyda’r hunanladdiad amheus?
Twyll yr heddlu, cam-drin domestig, anghyfiawnder i ferched a marwolaethau drwgdybus – Mae tai crand yn llefydd gwych i guddio cyfrinachau, ond beth ydy’r gwir a beth ydy’r ffuglen? Yn Y Pumed Drws mae Sion Hughes yn mynd â’r darllenydd yn ôl i Ynys Môn yn ystod hanner cyntaf yr 20fed canrif i adrodd stori newydd y maferic o heddwas, D.I. John.
Dyma bedwaredd nofel Sion Hughes a’r ail gan wasg Gomer sy’n ddilyniant i Y Milwr Coll a gyhoeddwyd gan Gomer yn 2018.
Bwriada’r awdur ddatblygu cyfres o nofelau D.I. John i ddilyn.”
Mae Y Pumed Drws ar gael mewn siopau llyfrau ledled Cymru ac ar-lein yn awr am bris £8.99
Gwybodaeth lyfryddiaethol:
Teitl: Y Pumed Drws
Awdur: Sion Hughes
ISBN: 9781785623127
Dyddiad: Tachwedd 2019
Pris: £8.99
Byw Ffwl Pelt gan Alun Lenny
03/12/2019Byw Ffwl Pelt gan Alun Lenny
Mae’r newyddiadurwr Alun Lenny yn hel atgofion am rai o straeon mawr ‘oes aur’ newyddiaduriaeth, sef yr oes ar drothwy symud o ffilm i’r oes ddigidol, yn ei hunangofiant newydd Byw Ffwl Pelt (Y Lolfa). Mae’r gyfrol ddifyr yn sôn am y rhuthr dyddiol byd casglu newyddion: y peryglon a’r sbri, y dwys a’r digri, a’r effaith niweidiol gafodd blynyddoedd o brysurdeb wrth gyflawni ‘y wyrth fach ddyddiol’ o fachu stori i’w darlledu i’r genedl ar y gohebydd talentog hwn.
Am 33 mlynedd bu Alun Lenny’n dyst i ddigwyddiadau mawr a mân yn ein cornel ni o’r byd, ac yn y byd mawr tu hwnt. Meddai:
“Rhaid mai’r 1980au oedd Oes Aur casglu newyddion yng Nghymru. Roedd bron bob dydd yn rhuthr gwyllt o fyw ar yr hewl ac ar adrenalin.”
Mae Byw Ffwl Pelt yn ail-fyw rhai o straeon mwyaf yr ugeinfed a’r unfed ganrif ar hugain, ac wedi’i ysgrifennu mewn arddull newyddiadurol, gyda phob pennod yn gyfle i glywed stori newydd gyffrous.
Yn ystod ei yrfa, fe wnaeth Alun Lenny ddarlledu’n fyw o burfa olew oedd ar dân ac mewn perygl o ffrwydro eto unrhyw funud, mynd gyda milwyr o Gymru i hela tyfwyr cyffuriau trwy’r jyngl yng nghanolbarth America a sgwrsio gyda Jimmy Carter, cyn-arlywydd America mewn capel yng Nghymru, ynghyd â ffeindio ei hun yng nghanol y stori pan ddechreuodd dderbyn galwadau ffôn ganol nos gan Feibion Glyndŵr a bron â chael damwain car gyda’r Tywysog Siarl.
Erbyn canol y 1990au, roedd effaith y prysurdeb yn dechrau dangos, ac yn cael effaith ddifrifol ar ei iechyd. Fe aeth yn gaeth i alcohol a thabledi’r meddyg ac yng ngeiriau Alun: “bu’r cyfan bron â’m lladd.”
Mae Byw Ffwl Pelt hefyd yn trafod ei wellhad a’i dröedigaeth ysbrydol, ac yn sôn yn helaeth am ei brofiad o weithio i’r BBC – y da a’r drwg – cyn gadael y BBC yn 2007, a’i yrfa newydd yn gweithio i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg fel Swyddog y Wasg.
Y Lolfa £9.99
Rhestr Llawn
- Dau Gyngerdd Arbennig i Eilir Owen Griffiths ym mis Rhagfyr 06/11/2025
- Achos Capel y Tabernacl, Llanfaches, yn dod i ben 06/11/2025
- Tanysgrifio ar y Wê 10/03/2024
- Cofio Cen Cartŵn 12/05/2023
- Taith Cymdeithas Edward Llwyd 03/10/2021
- Geni Clwb Rygbi Caerdydd 24/04/2020
- Gwireddu breuddwyd 28/02/2020
- Y Pumed Drws gan Sion Hughes 03/12/2019
- Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl 03/12/2019
- Byw Ffwl Pelt gan Alun Lenny 03/12/2019
- Nadolig – Y Stori yn Dathlu’r Deg 01/11/2019
- Gwahoddiad i Noson Dathlu 200 Mlwyddiant Casgliad Salisbury 01/11/2019
- Cyngerdd Canmlwyddiant Achub y Plant, 7 Tachwedd 24/10/2019
- Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2019 03/10/2019
- Robin Gwyndaf 03/07/2019
- Heddwch yn y ddinas 03/07/2019
- Cystadleuwyr Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2019 03/07/2019
- Cronfa Glyndŵr yn yr Eisteddfod 03/07/2019
- Codi Arian Dros Strôc 06/06/2019
- Lluniau Ysgol St Curig 01/02/2019
- Dathlu Llwyddiant Geraint Thomas 01/02/2019
- Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn y Bowlen Genedlaethol 01/02/2019
- Brwydro am Ysgoloriaeth Bryn Terfel 08/10/2018
- Enillydd POBOL Y RHIGWM 24/09/2018
- Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Caerdydd â’r Fro 2019 20/09/2018
- Atebion – Bae Caerdydd trwy lygaid y beirdd 02/08/2018
- Cronoleg Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ers 1940 02/08/2018
- ‘Cyfle I Bawb’ – Cronfa Newydd Gwersyll Haf yr Urdd 31/07/2018
- Pencampwyr Bookslam 2018 31/07/2018
- Awdur lleol yn lansio cyfrol arloesol 31/07/2018
- Llefydd i siarad Cymraeg 31/07/2018
- Arddangosfa I’R BYW yn y Bae 31/07/2018
- Hanes Dawnswyr Nantgarw 31/07/2018
- Sioe – Gair o Gariad 23/07/2018
- Gwobrau Mudiad Meithrin 23/07/2018
- Hiraethu am hafau hyfryd Llangrannog 19/07/2018
- Gwahoddiad i Lys y Goron 19/07/2018
- Gwobr am hybu pêl-droed merched. 19/07/2018
- Rhisiart Arwel yn cyhoeddi cryno ddisg newydd 19/07/2018
- Diwrnod agored canolfan Northlands Byddin yr Iachawdwriaeth 19/07/2018
- Côr Caerdydd yng Ngwlad Belg – dyddiadur y daith 06/12/2017
- NWYDDAU’R EISTEDDFOD 06/12/2017
- Digon i bawb y Nadolig hwn gyda Cymorth Cristnogol 06/12/2017
- Awtisiaeth a’r sector gwirfoddol 06/12/2017
- Grantiau gan Hanfod Cymru 06/12/2017
- Tymor y Gwanwyn Opera Cenedlaethol Cymru 06/12/2017
- Dyfan Roberts i chwarae rhan Y Tad i Theatr Genedlaethol Cymru 06/12/2017
- STORI IOLO MORGANWG YN DAL I DANIO DYCHYMYG 06/12/2017
- Rhannu cynnwys cyfoes ar wefannau cymdeithasol yn Gymraeg 11/11/2017
- Ysgol Pencae – Mis Hydref 2017 02/10/2017
- Enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái 2017 03/07/2017
- Atodiad i erthygl Michael Jones ar Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd 02/04/2015
- Llythyr at y Dinesydd 02/04/2015
- Gwefannau .cymru .wales 02/12/2014
- Llythyrau at y Golygydd 02/06/2014
- Ambell atgof am y cylchgrawn Y GWYDDONYDD 02/06/2014